Gweld eich holl bensiynau mewn un lle
Gallwch gael mynediad cynnar i’n gwasanaeth newydd a helpu i’w wella i bawb.
Ydych chi’n gwybod faint o arian y byddwch chi’n ei gael ar ôl i chi ymddeol?
Rydym yn adeiladu ffordd newydd o weld eich pensiynau gyda’i gilydd – gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth, pensiynau gweithle, ac unrhyw un y gallech fod wedi’i golli – mewn un golwg glir.
Gallwch fod yn un o’r bobl gyntaf i roi cynnig arni cyn iddo fod ar gael i’r cyhoedd, a helpu i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bobl fel chi. Os byddwch yn cymryd rhan, cewch daleb £10 am eich amser.
Pam cymryd rhan
Gweld eich holl bensiynau gyda’i gilydd
Gallwch gael darlun clir o faint o arian a allai fod gennych pan fyddwch yn ymddeol, mewn un crynodeb syml.
Helpu i lunio gwasanaeth newydd a gefnogir gan y llywodraeth
Byddwch yn un o’r bobl gyntaf i roi cynnig ar y gwasanaeth newydd hwn a’n helpu i wella i bawb.
Cael eich gwobrwyo am eich amser
Os byddwch chi’n cymryd rhan mewn profion, byddwch yn cael taleb £10 fel diolch am eich amser a’ch ymdrech.
Beth i’w ddisgwyl
Os ydych wedi eich dewis ar gyfer profi:
- Byddwch yn cael eich gwahodd i roi cynnig ar y gwasanaeth yn eich amser eich hun.
- Gallwch wneud hynny ar eich ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur eich hun.
- Bydd yn cymryd tua 30-60 munud.
Rydym yn dal i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth a chysylltu cynlluniau newydd drwy'r amser. Efallai na fyddwch yn gweld pob pensiwn ac efallai y bydd y ffordd y maent yn cael eu harddangos yn newid.
Diolch i bobl fel chi, rydyn ni’n gwneud gwelliannau drwy'r amser.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Cofrestrwch yma i gofrestru eich diddordeb. Mae hyn yn cymryd llai na 10 munud.
Byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost pan fydd cyfle i chi gymryd rhan mewn profion.