Fel arfer bydd angen 35 mlynedd gymwys arnoch o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI) i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn. Os nad oes gennych ddigon, gallwch dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod i roi hwb i faint rydych yn ei gael - hyd yn oed os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dyma beth i'w wneud, gan gynnwys sut i dalu cyfraniadau NI gwirfoddol ar-lein.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1: Deall sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio
- Cam 2: Gwiriwch a ydych eisoes yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn
- Cam 3: Gweld a fydd dewisiadau eraill yn rhoi hwb i'ch Pensiwn y Wladwriaeth am ddim
- Cam 4: Gwiriwch a yw cyfraniadau gwirfoddol yn werth y gost
- Cam 5: Talu am fylchau yn ystod y 6 blynedd dreth ddiwethaf
Cam 1: Deall sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar sawl blwyddyn rydych wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a elwir yn flynyddoedd cymhwyso.
Gwneir cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n derbyn budd-daliadau penodol fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n iau na 12 oed.
Fel arfer, bydd angen o leiaf:
- 35 mlynedd gymwys o gyfraniadau i gael y swm llawn (£241.30 yr wythnos ar hyn o bryd), neu
- 10 mlynedd gymwys i gael yr isafswm (£68.90 yr wythnos ar hyn o bryd).
Byddwch yn cael swm rhwng 11 a 34 mlynedd o gyfraniadau. Efallai y bydd angen mwy na 35 mlynedd arnoch i gael y swm llawn os oeddech yn gweithio cyn Ebrill 2016 ac wedi cael eich contractio allan o Bensiwn Ychwanegol y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad oes gennych gyfraniadau digonol mewn blwyddyn dreth, ni fydd y flwyddyn gyfan honno yn cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth. Os hoffech wneud iddo gyfrif, un opsiwn yw talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol er mwyn llenwi unrhyw fylchau.
Cam 2: Gwiriwch a ydych eisoes yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn
Os ydych eisoes wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i gael swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych yn debygol o'u gwneud beth bynnag trwy weithio neu dderbyn budd-daliadau, nid oes angen i chi ystyried cyfraniadau gwirfoddol.
Gallwch wirio eich cofnod Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld crynodeb eich Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys:
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth fyddwch chi’n debygol i’w gael
- eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- os oes gennych unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol coll (blynyddoedd anghyflawn), ac
- os gallwch wneud cyfraniadau gwirfoddol.
Bydd eich cofnod hefyd yn dangos faint o gyfraniadau gwirfoddol fyddai'n costio i chi, a faint y byddai eich Pensiwn y Wladwriaeth wedyn yn cynyddu. Gall hyn eich helpu i benderfynu a yw'n werth eu talu.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Canolfan Bensiwn y Dyfodol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd i siarad â rhywun am eich opsiynau.
Os ydych eisoes yn derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai na fydd eich crynodeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dangos faint rydych yn ei gael ar hyn o bryd. Yn hytrach, gwiriwch eich cyfriflenni banc neu gallwch gysylltu â’r:
- Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd, neu
- Canolfan Bensiwn Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, byddwch ar yr hen system. Mae hyn yn golygu na allwch gynyddu’r swm rydych chi'n ei gael gan ddefnyddio cyfraniadau gwirfoddol.
Cam 3: Gweld a fydd dewisiadau eraill yn rhoi hwb i'ch Pensiwn y Wladwriaeth am ddim
Cyn talu am gyfraniadau gwirfoddol, gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael dewis arall am ddim.
Gwneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol am ddim
Gwiriwch a allwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd i lenwi'ch bylchau yn lle. Er enghraifft, os ydych yn ofalwr di-dâl neu'n chwilio am waith. Gall rhai ceisiadau gael eu hôl-ddyddio.
Trosglwyddo credydau o Fudd-dal Plant
Os oes gennych blentyn o dan 12 oed, neu os ydych yn gofalu am un yn eich teulu, gwiriwch a ellir trosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol i chi.
Pan fydd Budd-dal Plant yn cael ei dalu, ychwanegir credydau Yswiriant Gwladol at y person sy'n ei hawlio. Ond os yw'r person hwnnw eisoes yn gweithio ac yn gwneud cyfraniadau beth bynnag, gallant ofyn iddynt gael eu trosglwyddo i chi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn
Os ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch a fydd Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth am ddim. Rydych yn aml yn gymwys os na fydd gennych unrhyw incwm arall heblaw am Bensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn, bydd unrhyw gynnydd yng Nghynllun Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn lleihau faint o Gredyd Pensiwn a gewch. Felly, yn aml ni fyddwch yn well eich byd yn talu am gyfraniadau gwirfoddol.
Gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gallech hefyd ystyried gohirio (oedi) eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth i gynyddu'r swm a gewch. Gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ohirio eich cais am fwy o wybodaeth.
Cam 4: Gwiriwch a yw cyfraniadau gwirfoddol yn werth y gost
Gall eich cofnod Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK gyfrifo faint y bydd yn ei gostio i chi lenwi unrhyw fylchau.
Dyma ganllaw i'r cyfraddau y byddwch yn eu talu os ydych yn gyflogedig. Mae'r cyfraddau yn llawer is os ydych yn hunangyflogedig.
| Blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) | Cost i lenwi wythnos goll | Cost i lenwi blwyddyn goll |
|---|---|---|
|
2026/27 |
£18.40 |
£956.80 |
|
2025/26 |
£17.75 |
£923 |
|
2024/25 |
£17.45 |
£907.40 |
|
2023/24 |
£17.45 |
£907.40 |
|
2022/23 |
£15.85 |
£824.20 |
|
2021/22 |
£15.40 |
£800.80 |
|
2020/21 |
£15.30 |
£795.60 |
Gallech dalu cannoedd i gael miloedd yn ôl
Bydd pob blwyddyn gyflawn ychwanegol o Yswiriant Gwladol fyddwch yn ei brynu yn rhoi hyd at £6.89 yn fwy yr wythnos (£358 y flwyddyn) i chi mewn Pensiwn y Wladwriaeth, cyn unrhyw gynnydd blynyddol.
Y pwynt o wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yw talu swm bach nawr, fel eich bod yn cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth yn y tymor hir.
Er enghraifft, gallech dalu rhwng £15.30 a £956.80 am un flwyddyn Yswiriant Gwladol ychwanegol a chael yn ôl tua:
- £1,790 os ydych yn byw am 5 mlynedd arall, a
- £7,160 os ydych yn byw 20 mlynedd arall.
Gall gymryd nifer o flynyddoedd i gael yr hyn rydych yn ei dalu i mewn yn ôl, felly meddyliwch am ba mor hir y byddwch yn disgwyl cael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn marw cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni chewch unrhyw beth yn ôl.
Mae gan MoneySavingExpert gyfrifiannell atodol Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd a allai helpu, gan ei fod yn dangos faint o flynyddoedd y bydd yn eu cymryd i chi adennill eich costau os ydych yn talu am flynyddoedd llawn
Efallai y byddwch yn talu mwy o Dreth Incwm
Fel arfer, byddwch yn talu Treth Incwm os yw cyfanswm eich incwm dros £12,570 y flwyddyn (ar gyfer blwyddyn dreth 2026/27).
Mae hyn yn golygu y gallai'r swm ychwanegol a gewch o wneud cyfraniadau gwirfoddol gael ei leihau drwy dalu treth ychwanegol, yn enwedig os yw'n golygu y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd dreth uwch.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Cam 5: Talu am fylchau yn ystod y 6 blynedd dreth ddiwethaf
Os byddwch yn penderfynu bod cyfraniadau gwirfoddol yn iawn i chi, gallwch dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Mae hyn yn ailosod ar 6 Ebrill bob blwyddyn, felly mae gennych tan 5 Ebrill 2027 i dalu am unrhyw fylchau sy'n dyddio'n ôl i 2020/21.
Ewch ar GOV.UK am wybodaeth ar sut i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddolYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, ni ellir ad-dalu cyfraniadau gwirfoddol, felly os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, mae'n well siarad â rhywun am eich opsiynau yn gyntaf:
- os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ffonio Llinell Gymorth Canolfan Pensiwn y DyfodolYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Bensiwn Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.