Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad

Gall talu am gyngor ariannol eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys y ffyrdd gorau o gynilo, buddsoddi a chymryd eich pensiwn. Gallai hyn olygu bod gennych fwy o arian yn yr hir dymor. Rydym yn esbonio sut i ddod o hyd i ymgynghorwyr ymddeoliad rheoledig a’u cymharu.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad rheoledig?
  • Gwiriwch fod cyngor pensiwn neu ymddeoliad yn addas ar eich cyfer
  • Chwiliwch am ymgynghorwyr pensiwn neu ymddeoliad rheoledig
  • Cysylltwch â rhai ymgynghorwyr pensiwn neu ymddeoliad i gymharu costau
  • Dewiswch ymgynghorydd rheoleiddiedig a chewch gyngor
  • Os cewch gyngor gwael, cwynwch a gofynnwch am iawndal

Beth yw ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad rheoledig?

Mae ymgynghorydd ariannol yn unigolyn neu gwmni proffesiynol a all eich helpu i reoli eich arian a gwneud penderfyniadau ariannol pwysig. Mae rhai ymgynghorwyr yn arbenigo mewn cynllunio ymddeoliad neu bensiwn.

Bydd yr ymgynghorydd yn casglu gwybodaeth gennych i roi cyngor ariannol personol i chi.

Os byddwch yn dewis dod o hyd i ymgynghorydd ariannol, dylech ddefnyddio un sy'n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn unig.

Dilynwch ein rhestr wirio i ddeall sut i ddod o hyd i gyngor ymddeoliad sy'n addas ar eich cyfer, ble i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoledig a faint y gallai ei gostio.

Nol i’r brig

Gwiriwch fod cyngor pensiwn neu ymddeoliad yn addas ar eich cyfer

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig ddweud wrthych beth sydd orau i chi a'ch arian, gan gynnwys pryd a sut i gael mynediad i'ch pensiwn.

Bydd ymgynghorydd ymddeoliad da yn:

  • rhoi cyfarfod cychwynnol am ddim i chi drafod eich anghenion
  • darparu cynllun wedi'i deilwra i chi sy'n gweddu i'ch amgylchiadau a'ch nodau
  • argymell cynhyrchion a gwasanaethau addas
  • eich helpu i osgoi camgymeriadau drud
  • gwneud yn siŵr eich bod yn manteisio ar gyfleoedd, fel lwfansau treth.

Rhaid dweud wrthych faint y bydd y cyngor yn ei gostio cyn i chi ymrwymo.

Gall cyngor ariannol arbed amser ac arian i chi yn yr hir dymor

Yn ôl yr International Longevity Centre, mae pobl sy'n derbyn cyngor ariannol fel arfer yn adeiladu mwy o gyfoeth na'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny dros yr hir dymor - hyd yn oed ar ôl i ffioedd gael eu hystyried. Mae hyn yn cynnwys pensiynau mwy sy'n darparu incwm uwch wrth ymddeol.

Gyda rhai cynhyrchion ariannol, mae cael cyngor ariannol yn gyntaf yn orfodol. Ond ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, mae cyngor ariannol yn ddewisol a gall fod yn gostus, felly bydd angen i chi bwyso a yw'n iawn ar eich cyfer.

Gallwch gyfuno arweiniad am ddim â chyngor â thâl

Os nad ydych chi'n siŵr mai talu am gyngor sydd orau, gallech ystyried canllawiau am ddim yn gyntaf. Gall hyn eich helpu i gael trosolwg cyffredinol o'ch opsiynau ond bydd angen i chi benderfynu sut i weithredu ar y wybodaeth honno.

Gallwch:

  • ddefnyddio'n canllawiau a'n teclynnau ar-lein  
  • cysylltu â ni ar ein llinell gymorth am ddim gydag unrhyw gwestiynau ariannol neu bensiwn sydd gennych
  • mynychu apwyntiad Pension Wise (os yw'n gymwys) i ddeall eich opsiynau ar gyfer cymryd pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
  • trefnu apwyntiad Pensiwn ac ysgariad neu ddiddymu i ddeall eich opsiynau ar ôl chwalu perthynas. 
Nol i’r brig

Chwiliwch am ymgynghorwyr pensiwn neu ymddeoliad rheoledig

Mae cyfeirlyfrau ar-lein yn gadael i chi chwilio am ymgynghorwyr ymddeoliad rheoledig yn eich ardal chi. Mae gan bob cyfeiriadur nodweddion ychydig yn wahanol, felly rhowch gynnig ar rai ohonynt i weld pa un sy'n well gennych.

Cyfeiriadur ar-lein Sut mae’n gweithio

VouchedForYn agor mewn ffenestr newydd neu UnbiasedYn agor mewn ffenestr newydd

Mae'r ddau’n gadael i chi chwilio yn ôl math o gyngor, dull cyswllt a lleoliad – neu gallwch ddewis cael eich paru âg ymgynghorydd. Gallwch roi maint eich pensiwn i hidlo'r rhai na allant helpu.

Society of Later Life Advisers (SOLLA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Yn arbenigo mewn ymgynghorwyr achrededig sy'n deall anghenion ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd. Gallwch chwilio yn ôl lleoliad a math o gyngor, gan gynnwys talu am ofal a rhyddhau ecwiti.

Personal Finance Society (PFS)Yn agor mewn ffenestr newydd

Yn cael ei redeg gan y corff proffesiynol ar gyfer cynllunio ariannol yn y DU, gallwch chwilio yn ôl lleoliad, meysydd arbenigedd a dull cyswllt.

Gallech hefyd:

  • ofyn am argymhellion personol os yw rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eisoes wedi talu am gyngor
  • gwirio a oes gan eich cyflogwr, undeb llafur neu sefydliad arall rydych chi'n aelod ohono drefniadau arbennig gyda chwmnïau ymgynghori.

Gwiriwch bob amser fod yr ymgynghorydd wedi'i awdurdodi i ddarparu cyngor

I gadarnhau eich bod wedi dod o hyd i ymgynghorydd rheoledig ac osgoi sgamiau posibl, defnyddiwch Gofrestr Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i wirio: 

  • bod yr ymgynghorydd (neu'r cwmni y maent yn gweithio iddo) wedi'i restru fel un sydd wedi'i awdurdodi i ddarparu cyngor
  • bod gennych eu manylion cyswllt dilys.

Ymgynghorwyr ariannol annibynnol vs cyfyngedig

Mae dau brif fath o ymgynghorydd ariannol:

  • Gall ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) chwilio'r farchnad gyfan i argymell cynnyrch neu wasanaeth i chi, gan gynnwys pob math o fuddsoddiadau.
  • Gall ymgynghorwyr cyfyngedig fel arfer:
    • roi cyngor ar fath penodol o gynnyrch neu faes (fel ymddeol) a/neu
    • argymell cynhyrchion gan nifer penodol o ddarparwyr.

Bydd y ddau fath o gyngor yn cael eu teilwra ar eich cyfer.

Rhybudd sgamiau: peidiwch byth â chymryd cyngor oherwydd galwad diwahoddiad, e-bost neu neges destun

Gallai twyllwr eich targedu trwy gynnig enillion ariannol cyflym neu uchel - yn aml gan bwyso arnoch i weithredu'n gyflym. Gallai hyn fod trwy hysbyseb ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio, e-bostio neu anfon neges destun atoch.

Peidiwch byth â gwneud unrhyw daliadau na chael mynediad at unrhyw un o'ch buddsoddiadau neu bensiynau oherwydd y math hwn o gyswllt. Mae'n debygol o fod yn sgam a gallech golli'ch arian ac wynebu cost treth mawr.

I wirio a yw pensiwn neu gyfle buddsoddi yn ddilys, gallwch ddefnyddio teclyn ScamSmart yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Sut i adnabod twyll pensiwn
  • Sut i adnabod twyll buddsoddi
Nol i’r brig

Cysylltwch â rhai ymgynghorwyr pensiwn neu ymddeoliad i gymharu costau

Gall cost cyngor ariannol a sut y codir tâl arnoch amrywio, felly mae bob amser yn well cael mwy nag un dyfynbris gan wahanol ymgynghorwyr neu gwmnïau.

Er enghraifft, gallai ymgynghorydd godi:

  • cyfradd fesul awr
  • ffi sefydlog ar gyfer adolygiad neu gynllun untro
  • ffi yn seiliedig ar werth eich portffolio pensiwn neu fuddsoddiad
  • ffi isel (neu ddim) os ydynt yn derbyn comisiwn gan ddarparwr morgais a argymhellir, polisi yswiriant neu fenthyciad rhyddhau ecwiti.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint mae cyngor ariannol yn ei gostio?

Rhaid i chi ddweud faint mae’r cyngor yn ei gostio cyn i chi ymrwymo

Cyn i chi ymrwymo i ymgynghorydd, rhaid dweud wrthych:

  • sut mae costau’r ymgynghorydd yn gweithio
  • faint y byddwch chi'n ei dalu
  • os oes unrhyw gostau parhaus, megis ffioedd am reoli eich pensiwn neu fuddsoddiadau dros y tymor hwy.

Mae hyn yn aml yn digwydd yn ystod cyfarfod am ddim i drafod eich gofynion, ond dylech hefyd dderbyn y dyfynbris yn ysgrifenedig hefyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn a yw'r ymgynghorydd yn annibynnol neu'n gyfyngedig ac unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Er enghraifft, efallai yr hoffech wirio beth mae cymhwyster penodol yn ei olygu neu a ydynt wedi cael profiad blaenorol o ddelio â sefyllfa debyg i'ch un chi.

Nol i’r brig

Dewiswch ymgynghorydd rheoleiddiedig a chewch gyngor

Ar ôl i chi ddewis ymgynghorydd ymddeoliad rheoledig, bydd yr ymgynghorydd yn cynnal gwiriad i gasglu gwybodaeth am y canlynol:

  • cyllid – gan gynnwys eich incwm, gwariant, dyledion, cynilion a phensiynau
  • nodau a'r hyn rydych chi'n gobeithio ei gyflawni
  • sefyllfa deuluol
  • agwedd at risg buddsoddi.

Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod y cyngor wedi'i deilwra i ddiwallu eich anghenion.

Dylid esbonio’r cyngor yn glir i chi

Bydd ymgynghorydd da yn:

  • gofyn i chi am ddigon o wybodaeth i ddeall eich sefyllfa a'ch cynlluniau cyfredol
  • gwirio a allai cyngor ariannol wella eich amgylchiadau
  •  esbonio'n glir unrhyw gamau gweithredu a argymhellir
  • eich annog i gymryd yr amser i ddeall eich opsiynau a gofyn cwestiynau – ni ddylech byth deimlo ar frys.

Dylid anfon adroddiad ysgrifenedig atoch chi hefyd yn esbonio'ch argymhellion yn fanwl, esbonio pam mae'r cyngor yn iawn ar eich cyfer a'r costau.

Os ydych chi'n cael eich cynghori ble i fuddsoddi'ch arian, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfforddus â lefel y risg gan y gallech gael llai yn ôl nag rydych chi'n ei roi i mewn.

Os ydych chi'n hapus i fwrw ymlaen, gall yr ymgynghorydd fel arfer helpu i weithredu'r argymhellion, megis sefydlu buddsoddiadau. Gallant hefyd barhau i reoli eich cyllid os byddwch chi'n dewis gwasanaeth parhaus, fel newid eich buddsoddiadau os yw'r farchnad yn newid.

Peidiwch â pharhau os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus neu eich bod yn cael eich rhuthro

Dylech bob amser ddisgwyl proffesiynoldeb gan eich ymgynghorydd, gyda gonestrwydd a pharch at eich hawl i benderfynu.

Os yw ymgynghorydd yn rhoi pwysau arnoch chi, ac nid yw'n esbonio unrhyw argymhelliad yn glir neu os nad yw’n darparu adroddiad ysgrifenedig, mae'r rhain yn arwyddion o rybudd y gallai'r ymgynghorydd fod yn sgamiwr.

Peidiwch â pharhau a rhowch wybod i'r FCA am yr ymgynghoryddYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd roi gwybod am y twyllwr posibl i:

  • Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
  • Police ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd drwy ffonio 101 os ydych chi'n byw yn yr Alban. 
Nol i’r brig

Os cewch gyngor gwael, cwynwch a gofynnwch am iawndal

Mae defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig yn golygu y gallwch gwyno a gofyn am iawndal os yw'r cyngor a roddwyd i chi yn profi i fod yn anaddas.

Ni allwch gwyno os nad yw'ch buddsoddiadau wedi perfformio fel yr oeddech chi'n gobeithio, oni bai eu bod wedi dweud wrthych eu bod yn risg isel ac wedi profi i fod yn risg uchel - er enghraifft.

Gallai cyngor anaddas gynnwys:

  • cael gwybod gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol
  • nid yw eich argymhellion y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni – neu'n hwyrach na'r hyn a addawyd
  • camgymeriadau yn cael eu gwneud.

Wrth gwyno, mae'n syniad da cynnwys copi o'r argymhellion ysgrifenedig a anfonodd eich ymgynghorydd atoch ac esbonio pam rydych chi'n teimlo nad oedd y cyngor yn addas.

Am gymorth gam wrth gam, gweler ein canllaw Sut i hawlio iawndal am broblem bensiwn neu gyngor gwael.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Cyngor ar bensiwn ac ymddeoliad

  • Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website

Cyngor ar bensiwn ac ymddeoliad

  • Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau