Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian. Un opsiwn yw trosi rhywfaint o’ch pensiwn neu'ch pensiwn cyfan i fod yn incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw blwydd-dal?
- Faint o incwm fydda i’n ei gael o flwydd-dal?
- Sut mae blwydd-daliadau’n gweithio – esbonio’ch opsiynau
- Beth i’w ystyried cyn prynu blwydd-dal
- Cymharu’r holl ffyrdd i gymryd arian o’ch pensiwn
- Sut i brynu blwydd-dal
- Gallwch gael arweiniad am ddim ar eich opsiynau ar gyfer eich pensiwn
- Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Beth yw blwydd-dal?
Mae blwydd-dal yn caniatau i chi gyfnewid rhywfaint o’ch arian, neu’ch arian i gyd sydd yn eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio i fod yn incwm trethadwy gwarantedig, naill ar gyfer:
gweddill eich bywyd i gyd – a elwir yn flwydd-dal am oes
cyfnod penodol o amser, megis pum mlynedd neu ddeng mlynedd – a elwir yn flwydd-dal cyfnod penodol.
Unwaith rydych wedi prynu blwydd-dal a bod unrhyw gyfnod callio wedi dod i ben, ni allwch fel arfer newid eich meddwl.
Faint o incwm fydda i’n ei gael o flwydd-dal?
Bydd ein Teclyn cymharu blwydd-daliadau yn dangos faint y bydd gwahanol ddarparwyr yn eich talu, oherwydd y bydd cyfraddau’n newid yn aml.
Gallwch hefyd gael dyfynbris gan:
eich darparwr pensiwn presennol, os ydynt yn cynnig blwydd-daliadau
cwmnïau yswiriant.
Ar gyfer dyfynbris cyflym iawn, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell.
Sut y caiff cyfraddau blwydd-daliadau eu cyfrifo?
Mae’r incwm y bydd blwydd-daliadau yn ei dalu i chi’n dibynnu ar:
faint o arian pensiwn y byddwch yn ei gyfnewid
am faint yr hoffech i’r blwydd-dal dalu (ai blwydd-dal oes neu flwydd-dal cyfnod penodol)
a hoffech i incwm y blwydd-dal gynyddu bob blwyddyn
cyfradd y bydd darparwr blwydd-dal yn ei gynnig i chi ar sail:
- eich oed, iechyd a ble’r ydych yn bwriadu byw
- cyfraddau llog presennol ac unrhyw ffactorau’r farchnad eraill.
Er enghraifft, petaech yn cyfnewid cronfa bensiwn o £100,000 gyda chyfradd blwydd-dal o:
5% a fyddai’n talu £5,000 y flwyddyn
6% a fyddai’n talu £6,000 y flwyddyn.
A fyddaf yn talu treth ar incwm o flwydd-dal?
Bydd incwm o flwydd-dal yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei dalu.
Bydd darparwyr blwydd-daliadau fel arfer yn cyfrifo hyn ar eich rhan gan ddefnyddio’ch côd treth, felly caiff treth fel arfer ei gymryd cyn i chi gael eich talu.
Cyn prynu blwydd-dal, byddwch fel arfer yn cael y cynnig o gymryd hyd at 25% o’ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth – cyhyd a bod cyfanswm yr arian di-dreth a gymerir o’ch holl bensiynau o fewn yr hyn a ganiateir ar gyfer cyfandaliadau (LSA). £268,275 yw’r LSA ar gyfer y mwyafrif o bobl.
Nid oes yn rhaid i chi gymryd y 25% i gyd fel cyfandalian di-dreth, neu unrhyw swm o gwbl. Y mwyaf y byddwch yn ei gymryd, y lleiaf y bydd gennych fel incwm yn nes ymlaen.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn
Sut mae blwydd-daliadau’n gweithio – esbonio’ch opsiynau
Mae gwahanol nodweddion i flwydd-daliadau felly mae angen i chi wneud penderfyniadau penodol wrth gael dyfynbrisiau.
Gallwch gael incwm gwarantedig am oes neu am gyfnod penodol
Gallwch ddewis rhwng blwydd-daliadau a fydd yn talu incwm gwarantedig i chi am:
weddill eich oes – blwydd-dal oes
cyfnod penodol rhwng 1 a 40 mlynedd – blwydd-dal cyfnod penodol.
Os y byddwch yn prynu blwydd-dal cyfnod penodol, gallwch ddewis i ddefnyddio’ch cronfa bensiwn gyfan neu i gael taliad pan fydd y blwydd-dal yn dod i ben – a elwir yn swm wedi aeddfedu.
Byddwch yn cytuno ar faint fydd y swm wedi aeddfedu wrth i chi gymryd y blwydd-dal. Mae hyn yn aml yn cynnwys yr opsiwn o gymryd incwm blwydd-dal is er mwyn i chi gael cyfandaliad uwch o swm wedi aeddfedu.
Gallwch wario’r swm wedi aeddfedu unrhyw ffordd yr hoffech, neu ei ddefnyddio i roi mwy o incwm ymddeol i chi.
Er enghraifft, gallech ddefnyddio’ch swm wedi aeddfedu i:
gymryd incwm pan a phryd y mae ei angen arnoch trwy ei roi mewn cynnyrch tynnu pensiwn i lawr
prynu blwydd-dal arall.
Gallai hyn olygu y gallech gael blwydd-dal sy’n talu mwy oherydd y bydd yn seiliedig ar oedran hŷn ac iechyd – ond mae’r cyfan yn dibynnu ar y cyfraddau sydd ar gael ar y pryd.
Os byddwch yn marw cyn i’r blwydd-dal cyfnod penodol ddod i ben, caiff y swm wedi aeddfedu’n aml ei dalu i’r sawl rydych wedi’u penodi fel buddiolwr. Ond dylech wirio bob amser oherwydd y mae buddion marwolaeth yn amrywio rhwng cynlluniau.
Gall eich incwm blwydd-dal aros yr un peth neu gynyddu bob blwyddyn
Gallwch ddewis i’ch incwm blwydd-dal:
aros yr un peth – a elwir yn sefydlog neu’n wastad
codi bob blwyddyn – a elwir yn dwf neu gynnydd, naill ai gan:
- raddfa benodol, megis 3% neu 5%
- yn unol â chwyddiant, gyda chap uwch o bryd i’w gilydd.
Er enghraifft, ar ôl 10 mlynedd, gallai blwydd-dal o £200 y mis dalu:
£200 ar delerau sefydlog
Tua £261 ar delerau cynnydd penodol o 3% y flwyddyn.
Bydd blwydd-daliadau penodol neu sefydlog fel arfer yn rhoi incwm uwch i chi ar y dechrau nag y byddai blwydd-dal cynnydd.
Ond bydd blwydd-dal cynnydd yn helpu i sicrhau y bydd eich incwm ymddeol yn cydfynd gyda chostau byw.
Yn aml, byddwch yn cael incwm uwch os oes gennych gyflyrrau iechyd
Bydd darparwyr blwydd-daliadau’n holi cwestiynau meddygol i chi er mwyn amcangyfrif eich disgwyliad oes. Golyga hyn efallai y byddwch yn cael cynnig incwm uwch os:
oes gennych gyflwr meddygol – megis clefyd y siwgr, pwysau gwaed uchel neu gancr
ydych dros bwysau neu’n ysmygu
ydych wedi dal swyddi penodol – megis gwaith corfforol
ydych yn byw mewn ardal sydd â disgwyliadau oes isel.
Caiff hyn yn aml ei alw’n flwydd-dal amharedig neu’n flwydd-dal uwch. Efallai y bydd y darparwr blwydd-dal yn gofyn am fwy o wybodaeth gan eich meddyg neu’n gofyn i chi fynychu archwiliad meddygol.
Gallwch benderfynu pa mor aml y cewch eich talu
Fel arfer, gallwch ddewis i gael incwm o flwydd-dal:
bob blwyddyn
unwaith, ddwywaith neu bedair gwaith y flwyddyn.
Gall eich blwydd-dal ddechrau talu:
cyn gynted ag y byddwch wedi sefydlu’r blwydd-dal – a elwir yn flaendal
ar ôl eich dewis o amlder y taliadau - a elwir yn ôldaliadau.
Er enghraifft, byddai taliad cyntaf blwydd-dal misol yn cael ei ôl dalu un fis ar ôl i chi ei sefydlu. Caiff blwydd-dal blynyddol a delir fel blaendal ei dalu’n syth, gyda’r taliad nesaf y flwyddyn wedyn.
Gallwch ddewis i’ch blwydd-dal dalu ar ôl i chi farw
Bydd blwydd-dal fel arfer yn atal talu ar ôl i chi farw, oni bai eich bod yn:
cymryd blwydd-dal ar y cyd – bydd hyn yn talu rhan o’ch incwm i’ch dibynyddion ar ôl i chi farw, a/neu
ychwanegu un neu fwy o amddiffyniadau dewisol:
- sicrwydd gwerth – bydd hyn yn talu cyfandaliad i’ch buddiolwyr os yw eich blwydd-dal wedi talu llai nag y costiodd i chi erbyn i chi farw
- cyfnod gwarantedig – bydd hyn yn talu incwm i’ch buddiolwyr am hyd at 30 mlynedd ar ôl i chi farw, neu gyfandaliad o’r gwerth hwnnw
- ‘gyda chyfrannau’ – bydd hyn yn talu cyfandaliad i’ch buddiolwyr ar gyfer y cyfnod rhwng eich taliad diwethaf a’r diwrnod i chi farw.
Er enghraifft, os oedd gennych sicrwydd gwerth ar flwydd-dal o £50,000 a’ch bod wedi cael £30,000 yn unig o incwm ohono pan fuoch farw, byddai’ch buddiolwr yn cael £20,000.
Os oedd gennych gyfnod gwarantedig am 10 mlynedd a’ch bod yn marw ar ôl 7 mlynedd, byddai eich buddiolwr yn cael y 3 mlynedd sy’n weddill naill ai fel cyfandaliad neu fel incwm rheolaidd.
Os oedd gennych y ‘gyda chyfrannau’ a’ch bod yn marw 10 niwrnod ar ôl i’ch blwydd-dal gael ei dalu, byddai eich buddiolwr yn cael taliad o’r incwm blwydd-dal taladwy ar gyfer y 10 niwrnod hwnnw.
Byddwch fel arfer yn cael incwm is os ydych yn ychwanegu amddiffyniadau dewisol
Bydd angen i chi ddewis unrhyw amddiffyniadau dewisol pan fyddwch yn cymryd y blwydd-dal i ddechrau. Byddwch fel arfer yn cael incwm is ar gyfer pob amddiffyniad y byddwch yn ei ychwanegu oherwydd y bydd yr incwm yn fwy tebygol o dalu am gyfnod hirach.
Os byddwch yn dewis blwydd-dal cyfnod gwarantedig a blwydd-dal ar y cyd, gallwch fel arfer ddewis i’r taliadau i’ch buddiolwyr gael eu talu:
yr un pryd, a elwir yn orgyffwrdd
ar ôl i’r cyfnod gwarantedig ddod i ben, a elwir yn heb orgyffwrdd.
Byddwch yn ymwybodol na fyddwch bob amser yn manteisio o ychwanegu amddiffyniadau. Er enghraifft:
ni fydd polisi oes ar y cyd yn talu os bydd eich dibynydd yn marw cyn i chi
bydd eich blwydd-dal yn stopio o hyd os byddwch yn marw ar ôl i gyfnod gwarantedig ddod i ben.
Beth i’w ystyried cyn prynu blwydd-dal
Bydd defnyddio’ch pensiwn i brynu blwydd-dal yn caniatau i chi gael incwm ymddeol gwarantedig, felly gallwch fod yn sicr faint ydyw a pha mor aml y byddwch yn ei gael.
Y mae hefyd yn golygu nad yw rhan o’ch pensiwn yn gallu gostwng mewn gwerth oherwydd nad yw’n seiliedig ar ba mor dda mae’r arian rydych wedi’i fuddsoddi wedi gwneud mwyach.
Ond mae rhai anfanteision posibl i’w hystyried hefyd.
Mae angen i chi ddewis faint o’ch pensiwn i’w gyfnewid
Wrth brynu blwydd-dal, gallwch fel arfer ddewis i:
ddefnyddio’r arian sydd yn eich cronfa bensiwn i gyd
cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth yn gyntaf ac yna:
- defnyddio’r gweddill i brynu blwydd-dal yr un pryd
- cadw’r gweddill wedi’i fuddsoddi a defnyddio rhywfaint ohono neu’r cyfan i brynu blwydd-dal – yr un pryd neu’n ddiweddarach.
Cofiwch, nid oes angen i chi gymryd y 25% i gyd fel cyfandaliad di-dreth. Y mwyaf y byddwch yn ei gymryd, y lleiaf fydd gennych i gael incwm.
Os oes gennych bensiynau gwahanol, gallech benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol gyda phob un. Er enghraifft, defnyddio un cyfan i brynu blwydd-dal a gadael un arall wedi’i fuddsoddi er mwyn iddo barhau i gronni.
Gallech hefyd ddewis prynu blwydd-dal i ddarparu digon o incwm i dalu’ch biliau hanfodol a defnyddio dull arall i dalu am gostau eraill – edrychwch ar yr holl ffyrdd o gymryd arian o’ch pensiwn
Pa bynnag opsiwn yr ewch amdani, bydd angen i chi gynllunio’n ofalus i sicrhau y bydd eich incwm yn ddigon i bara dros eich ymddeoliad i gyd, sy’n aml dros 20 mlynedd.
Efallai y bydd angen i chi newid y ffordd y caiff unrhyw bensiwn sy’n weddill ei fuddsoddi
Bydd eich darparwr fel arfer yn symud eich arian pensiwn sydd wedi’i fuddsoddi i gyd i fuddsoddiadau mwy sefydlog yr agosaf y byddwch chi at ‘oedran pensiwn arferol’ eich cynllun – sydd yn aml yr un oed â’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Ond, os hoffech chi adael unrhyw ran o’ch pensiwn wedi’i fuddsoddi ar ôl hyn, efallai y byddech yn colli allan ar dwf buddsoddi trwy adael eich arian yng nghronfa diofyn eich darparwr.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun
Efallai y cewch lai o ryddhad treth wrth dalu i mewn i bensiwn
Pan fyddwch yn talu i mewn i bensiwn, bydd y llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad ychwanegol o’r enw rhyddhad treth. Arian yw hyn y byddech fel arfer yn ei dalu mewn Treth Incwm.
Gallwch fel arfer gael rhyddhad treth ar yr holl gyfraniadau pensiwn y gwneud hyd at y lwfans blynyddol. Ar gyfer y mwyafrif, golyga hyn y bydd yn rhaid:
i’ch cyfraniadau fod yn llai (neu’n gyfwerth â) faint rydych chi’n ei ennill, a
i’r cyfraniadau gennych chi a’ch cyflogwr fod yn llai na £60,000.
Ond os byddwch yn cymryd arian trethadwy allan o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd y £60,000 yn gostwng i £10,000. Gelwir hyn yn lwfans prynu arian blynyddol (MPAA).
Bydd prynu blwydd-dal tymor penodol yn sbarduno’r MPAA ond nid yw blwydd-dal oes.
Os ydych wedi cymryd cyfandaliad di-dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ychwanegol os ydych yn rhoi rhywfaint o’ch pensiwn neu’r pensiwn cyfan i mewn i gynllun pensiwn gwahanol.
Y mae hyn oherwydd bod rheolau ailgylchu pensiynau yn eich atal rhag tynnu arian di-dreth allan o bensiwn ac yna’i dalu’n ôl i mewn er mwyn cael mwy o ryddhad treth. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd fel arfer angen i chi dalu treth sy’n werth tua 55% o’r cyfandaliad di-dreth yr oeddech wedi’i gael.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i’ch cyfraniadau pensiwn
Gallai incwm uwch effeithio ar eich budd-daliadau
Os yw eich incwm blwydd-dal yn codi’ch enillion neu gynilion cyfangwbl, gallai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w cael.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio beth allech fod yn gymwys i’w gael nawr a sut y gallai newid os bydd eich incwm neu eich cynilion yn cynyddu. Gallwch hefyd ddefnyddio Advicelocal i ddod o hyd i gyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol ar fudd-daliadau
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Budd-daliadau yn ystod ymddeoliad
Efallai y caiff eich incwm o bensiwn ei ddefnyddio i ad-dalu dyledion
Fel arfer, ni all unrhyw arian a gaiff ei ddal yn eich pensiwn gael ei hawlio gan unrhyw un y mae arian yn ddyledus gennych iddynt, hyd yn oed os byddwch yn methdalu neu â chynllun ffurfiol i ad-dalu dyled.
Ons os byddwch yn cymryd arian allan o’ch pensiwn, efallai y cewch wybod bod angen i chi’i ddefnyddio i wneud ad-daliadau rheolaidd neu gallai’r cyfandaliad cyfan gael ei hawlio.
Cyn cymryd arian pensiwn, gallwch siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw A allaf ddefnyddio fy mhensiwn i ad-dalu dyledion?
Gall arian sydd ar ôl yn eich pensiwn gael ei etifeddu’n ddi-dreth os byddwch fawr cyn 75 oed
Os ydych wedi sefydlu blwydd-dal er mwyn iddo dalu i’ch buddiolwyr efallai, caiff unrhyw arian y byddant yn ei dderbyn fel arfer yn cael ei drethu fel eu hincwm. Mae hyn yn wahanol i’r rheolau ar gyfer etifeddu unrhyw arian sydd wedi’i adael wedi’i fuddsoddi yn eich pensiwn.
Os byddwch farw cyn 75 oed, gall eich pensiwn fel arfer gael ei etifeddu’n ddi-dreth cyhyd â:
bod yr arian yn cael ei dalu i’ch buddiolwyr penodedig o fewn dwy flynedd i’r darpwr pensiwn fod yn ymwybodol o’ch marwolaeth
nad yw cyfanswm yr arian a etifeddwyd o’ch holl bensiynau’n uwch na’r lwfans cyfandaliad budd-dal marwolaeth (LSDBA).
£1,073,100 yw’r LSDBA i’r mwyafrif o bobl ac mae’n cyfrif y cyfandaliadau di-dreth a gymerwyd o’ch pensiynau cyn ac ar ôl i chi farw. Golyga hyn efallai y bydd eich terfyn yn is os ydych eisoes wedi cymryd arian di-dreth.
Bydd eich buddiolwyr fel arfer yn talu Treth Incwm ar unrhyw symiau sydd dros yr LSDBA.
Ym mhob achos arall, gan gynnwys os byddwch farw ar ôl 75 oed, nid yw eich pensiwn fel arfer yn gallu cael ei etifeddu’n ddi-dreth. Caiff y swm a etifeddwyd fel arfer ei ychwanegu at incwm arall eich buddiolwr i gyfrifo faint o Dreth Incwm sy’n daladwy.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys ar Dreth Etifeddiaeth, gweler ein canllaw Beth fydd yn digwydd i’m pensiwn ar ôl i mi farw?
Cymharu’r holl ffyrdd i gymryd arian o’ch pensiwn
Mae prynu blwydd-dal yn un ffordd o gymryd arian o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Gallwch hefyd ddewis i:
gymryd eich pensiwn mewn un neu fwy o gyfandaliadau, gyda hyd at 25% o bob swm a delir yn ddi-dreth
cymryd rhywfaint o arian di-dreth (hyd at 25%) a:
- gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi mewn cynllun tynnu pensiwn i lawr hyblyg tan bod ei angen arnoch
- sefydlu incwm hyblyg y gallwch ei atal neu ei newid unrhyw bryd
- cymryd y gweddill fel un neu fwy o gyfandaliadau.
Gall apwyntiad Pension Wise am ddim a di-duedd helpu i esbonio’ch opsiynau pensiwn.
Am fwy o wybodaeth ar yr holl opsiynau sydd gennych, gweler ein canllaw Beth allaf wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
Sut i brynu blwydd-dal
Os yw prynu blwydd-dal yn iawn i chi, mae camau y dylech eu cymryd.
Cam 1: Gwiriwch a yw eich darparwr pensiwn yn cynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
Os yw eich darparwr pensiwn yn cynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig, efallai y byddant yn cynnig incwm gwarantedig uwch nac y gallech brynu o unrhyw le arall.
Gallwch fel arfer ddarganfod a yw eich cynllun yn cynnig hyn trwy:
gysylltu â’ch darparwr
gwirio’r telerau ac amodau neu waith papur am delerau megis:
- contract blwydd-dal ymddeoliad
- polisi adran 226
- gydag-elw
- ffafriol
- gwarantedig
Cam 2: Cymharwch ddarparwyr blwydd-dal i ddod o hyd i’r cynnig gorau
Boed i’ch ddarparwr gynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig ai peidio, dylech bob amser gymharu faint y bydd gwahanol ddarparwyr yn ei gynnig i chi. Gallwch chi:
cael dyfynbrisiau gan wahanol ddarparwyr blwydd-daliadau eich hun
talu ymgynghorydd ariannol wedi’i reoleiddio i argymell darparwr a chynnyrch i chi
Am help i gymharu darparwyr, gweler ein canllaw am Sut i ddod o hyd i'r cytundeb gorau wrth gymryd eich pensiwn.
Cam 3: Dewiswch ddarparwr blwydd-dal a nodweddion dewisol
Pan fyddwch yn hapus eich bod wedi dod o hyd i’r cynnig gorau i chi, y cam nesaf fydd i sefydlu’r blwydd-dal.
Bydd y darparwr fel arfer yn holi cwestiynau meddygol i chi ac i gadarnhau unrhyw ychwanegion dewisol, gan gynnwys a fyddech yn hoffi:
i’ch incwm blwydd-dal i gynyddu bob blwyddyn neu aros yr un peth
diogelwch neu sicrwydd na fydd eich blwydd-dal yn gallu talu llai nag y taloch chi amdano.
Fel arfer, 30 diwrnod yn unig sydd gennych i newid eich meddwl
Mae gan y mwyafrif o flwydd-daliadau gyfnod callio o 30 diwrnod er mwyn i chi allu canslo a gofyn am eich arian yn ôl os y byddwch yn newid eich meddwl. Ond ar ôl hyn, ni all blwydd-dal gael ei ganslo.
Peidiwch â chofrestru os ydych yn teimlo dan bwysau neu’n ansicr
Peidiwch â chael mynediad at eich pensiwn na phrynu blwydd-dal gan ddarparwr oherwydd galwad, ymweliad, e-bost neu neges destun annisgwyl. Mae’n debygol o fod yn sgam sydd wedi’i greu i ddwyn eich arian.
Efallai y byddwch yn colli’ch cynilion ymddeol i gyd a bydd yn rhaid i chi dalu bil treth drud.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn.
Cam 4: Gwiriwch bod y swm cywir o dreth wedi cael ei thynnu
Efallai y bydd darparwyr yn defnyddio côd treth dros dro neu gôd argyfwng wrth wneud eich taliad cyntaf.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi gor-dalu treth, gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad treth ar GOV.UK. Efallai y bydd CTHeF hefyd yn ei ad-dalu’n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Cam 5: Os yw rhan o’ch pensiwn yn parhau i gael ei fuddsoddi, gwiriwch ei werth yn aml
Os na fyddwch yn defnyddio’ch arian pensiwn i gyd i brynu’r blwydd-dal a’ch bod yn cadw’r gweddill wedi’i fuddsoddi, cofiwch y gall ei werth godi a gostwng tan i chi benderfynu’i gymryd.
Efallai y byddwch yn dymuno ystyried sut y caiff eich pensiwn ei fuddsoddi, gan ddibynnu pa mor dda y mae’n perfformio.
Mae hefyd yn werth cymharu darparwyr pensiwn o leiaf unwaith y flwyddyn i weld a fyddech yn well eich byd trwy drosglwyddo’ch pensiwn i rywle arall.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Gallwch gael arweiniad am ddim ar eich opsiynau ar gyfer eich pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i’ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.
Gallwch gael apwyntiad os ydych chi:
- 50 neu’n hŷn
- o dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiwn.
Oes gennych gwestiynau eraill am eich pensiwn?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am eich pensiwn, gall ein harbenigwyr pensiwn eich helpu – nid oes gwahaniaeth faint yw’ch oedran.
Gallwch:
- ddefnyddio ein gwesgwrs
- ffonio ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd (+44 20 7932 5780Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych tu allan i’r DU)
- defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Gall y penderfyniad ynghylch pryd a sut i gymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus fydd eich ymddeoliad.
Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys:
- argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
- cynghori ble i fuddsoddi eich arian
- egluro eich opsiynau i leihau’r dreth y gallech fod angen ei thalu.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad.