Mae’n syniad da cynllunio sut y byddwch chi’n cymryd eich pensiwn flynyddoedd cyn i chi ymddeol. Mae hyn yn rhoi amser i chi ddeall eich opsiynau, penderfynu pryd y gallech chi roi’r gorau i weithio a gwneud unrhyw newidiadau i helpu i gynyddu eich incwm. Dyma sut i gymryd eich pensiwn mewn camau syml.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1: Gwiriwch yr oedran y gallwch chi gymryd eich pensiwn
- Cam 2: Gwiriwch faint fydd eich pensiwn yn ei dalu i chi
- Cam 3: Gwiriwch sut allwch chi gymryd eich arian
- Cam 4: Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau
- Cam 5: Cysylltwch â’ch darparwyr pan fyddwch chi’n barod
- Cam 6: Hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth
Cam 1: Gwiriwch yr oedran y gallwch chi gymryd eich pensiwn
Gallwch wirio’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i ddarganfod y cynharaf y gallwch chi hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Ar gyfer mathau eraill o bensiwn, fel arfer gallwch ddewis cymryd eich arian ar unrhyw adeg o 55 oed (57 o fis Ebrill 2028), neu’n iau os:
- mae angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael, neu
- mae rheolau eich cynllun pensiwn yn rhestru oedran pensiwn gwarchodedig is.
Ond fel arfer byddwch chi’n cael llai os cymerwch eich pensiwn cyn oedran pensiwn arferol (NPA) eich cynllun - dyma pryd y mae eich pensiwn fel arfer wedi’i gynllunio i dalu allan.
Gallwch ddod o hyd i’ch NPA yn nogfennau eich cynllun neu drwy ofyn i’ch darparwr, ond yn aml mae hwn tua 60 oed, 65 oed neu’r un oedran â’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
Rwyf wedi colli trywydd pensiwn, beth alla i ei wneud?
Os na allwch ddod o hyd i fanylion ar gyfer cynllun pensiwn neu os ydych chi’n cael anhawster cysylltu â’r darparwr, gweler ein canllaw cam wrth gam Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.
Cam 2: Gwiriwch faint fydd eich pensiwn yn ei dalu i chi
Mae penderfynu pryd i ymddeol yn aml yn dibynnu ar pryd y gallwch fforddio rhoi’r gorau i weithio.
Fel arfer gallwch ddod o hyd i amcangyfrif o’ch incwm pensiwn drwy:
- fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr
- gwirio datganiadau pensiwn rydych chi wedi’u derbyn
- cysylltu â’ch darparwr.
I weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi ar y trywydd i’w gael, gallwch wirio’ch rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Am ragor o gymorth, gweler ein canllaw Sut i gyfrifo amcangyfrif o’ch incwm pensiwn a’ch incwm ymddeol.
Gwiriwch a fydd cyfanswm eich incwm ymddeol yn talu eich holl gostau
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell pensiwn i weld faint o incwm ymddeol y gallech fod ei angen a faint rydych chi’n debygol o’i gael o’ch pensiynau.
Gallwch hefyd weld sut y gallai eich incwm amcangyfrifedig godi neu ostwng os byddwch chi’n newid:
- faint rydych chi’n ei dalu i mewn
- eich oedran ymddeol arfaethedig.
Mae hefyd yn syniad da creu cyllideb ymddeol sy’n rhestru popeth y gallech fod angen ei dalu o hyd. I helpu, gallwch ddefnyddio ein:
- Cynlluniwr cyllideb
- Taflen waith cyllidebu ar gyfer ymddeolYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 116KB)
Os ydych chi’n hyderus na fydd gennych forgais na rhent i’w dalu yn eich ymddeoliad, mae’r Safonau Byw ar gyfer Ymddeol yn rhestru faint o incwm y gallech fod ei angen bob blwyddynYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer gwahanol fathau o ffyrdd o fyw.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint o arian sydd ei angen arnaf ar gyfer fy ymddeoliad?
Chwiliwch am ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm ymddeol, gan gynnwys:
- talu mwy i mewn i’ch pensiwn – gallai eich cyflogwr hefyd gyfateb eich cyfraniadau
- gwirio eich bod yn cael yr holl ryddhad treth rydych yn gymwys amdano
- sicrhau eich bod ar y trywydd i gael uchafswm y Pensiwn y Wladwriaeth
- oedi eich dyddiad ymddeol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn.
Cam 3: Gwiriwch sut allwch chi gymryd eich arian
Mae sut allwch chi gymryd eich pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych chi. Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i’ch darparwr pensiwn.
Gellir cymryd pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio mewn gwahanol ffyrdd
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch chi ddewis sut yr hoffech chi gymryd eich arian.
Mae eich opsiynau fel arfer yn cynnwys cymryd hyd at 25% fel swm cyfandaliad di-dreth a:
- gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi fel y gallwch chi gymryd incwm trethadwy pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi - a elwir yn dynnu pensiwn i lawr
- trosi rhywfaint neu’r cyfan o’r gweddill yn incwm gwarantedig trethadwy - a elwir yn brynu blwydd-dal.
Nid oes rhaid i chi gymryd y 25% llawn fel swm cyfandaliad di-dreth, na’i gymryd o gwbl. Po fwyaf y byddwch chi’n ei gymryd, y lleiaf y bydd gennych i roi incwm i chi yn ddiweddarach.
Fel arall, gallech chi gymryd eich pensiwn mewn un tro neu fel sawl cyfandaliad, gyda hyd at 25% o bob swm yn cael ei dalu’n ddi-dreth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn talu incwm rheolaidd
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gynlluniau cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa), byddwch fel arfer yn cael incwm misol gwarantedig am oes. Fel arfer caiff hwn ei drethu ynghyd ag unrhyw enillion eraill sydd gennych.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth pan fyddwch chi’n dechrau cymryd eich incwm. Yn dibynnu ar eich cynllun, bydd hyn naill ai’n golygu y bydd eich incwm gwarantedig:
- yn aros yr un fath – os ydych chi wedi cronni swm ar wahân ar gyfer cyfandaliad
- yn lleihau – gan eich bod chi’n trosi incwm y dyfodol yn gyfandaliad i’w gymryd nawr.
Os bydd eich incwm gwarantedig yn lleihau, bydd angen i chi bwyso a mesur a fyddwch chi’n ennill mwy yn gyffredinol trwy gymryd yr arian nawr – ac a allwch chi fforddio byw ar y swm rheolaidd is.
Os yw gwerth eich holl bensiynau yn llai na £30,000 neu os yw un yn werth llai na £10,000, efallai y bydd gennych yr opsiwn o gymryd eich pensiwn mewn un taliad hefyd.
Mae cyfyngiadau ar yr arian parod di-dreth y gallwch ei gymryd
Fel arfer gallwch gymryd hyd at 25% o’ch pensiwn heb dalu treth, cyn belled nad yw cyfanswm yr arian parod di-dreth a delir o’ch holl gynlluniau yn uwch na’r lwfans cyfandaliad (LSA). Yr LSA yw £268,275 i’r rhan fwyaf o bobl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn.
Cam 4: Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i’ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.
Gallwch gael apwyntiad os ydych chi:
- 50 neu’n hŷn
- o dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiwn.
Cysylltwch â’n harbenigwyr pensiwn am gymorth am ddim
Gallwch gysylltu â’n harbenigwyr pensiynau i gael cymorth ac arweiniad am ddim – nid oes ots pa fath o bensiwn sydd gennych neu beth yw eich hoedran.
Gallwch:
- ddefnyddio ein gwesgwrs
- ffonio ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd (+44 20 7932 5780Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych tu allan i’r DU)
- defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Gall y penderfyniad ynghylch pryd a sut i gymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus fydd eich ymddeoliad.
Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys:
- argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
- cynghori ble i fuddsoddi eich arian
- egluro eich opsiynau i leihau’r dreth y gallech fod angen ei thalu.
Cam 5: Cysylltwch â’ch darparwyr pan fyddwch chi’n barod
Pan fyddwch chi’n barod i ddechrau cymryd eich pensiwn, bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn a dweud wrthyn nhw beth hoffech chi ei wneud.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Gwiriwch a allwch chi gael bargen well gyda darparwr gwahanol
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae bob amser yn werth cymharu darparwyr i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y fargen orau.
Er enghraifft, os nad yw’ch darparwr presennol yn cynnig opsiwn yr hoffech chi (fel cymryd cyfandaliadau lluosog), gallech ystyried trosglwyddo i ddarparwr sy’n gwneud hynny.
Gallwch ddefnyddio ein:
- teclyn cymharu blwydd-daliadau i wirio a allwch chi drosi’ch pensiwn yn incwm gwarantedig uwch gyda darparwr gwahanol
- teclyn cymharu tynnu pensiwn i lawr i weld a yw darparwyr eraill yn codi ffioedd is neu’n cynnig opsiynau buddsoddi mwy addas.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau am:
- Sut i ddod o hyd i'r cytundeb gorau wrth gymryd eich pensiwn
- trosglwyddo’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Gallech hefyd ystyried talu ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig i argymell cynhyrchion addas i chi.
Peidiwch â chyrchu eich pensiwn os ydych chi’n teimlo dan bwysau neu’n ansicr
Peidiwch â chyrchu eich pensiwn na throsglwyddo unrhyw arian i ddarparwr pensiwn oherwydd galwad, ymweliad, e-bost neu neges destun diwahoddiad. Mae’n debygol o fod yn sgam sydd wedi’i chynllunio i ddwyn eich arian.
Efallai y byddwch chi’n colli’ch holl gynilion ymddeol a gorfod talu bil treth drud.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn.
Cam 6: Hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth
Dylech gael cod gwahoddiad drwy’r post tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych chi wedi’i dderbyn dri mis cyn hyn, neu os ydych chi wedi’i golli, gallwch ofyn am god gwahoddiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Yna gallwch ddefnyddio’ch cod gwahoddiad i wneud cais pan fyddwch chi’n barod - nid oes terfyn amser. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cael mwy os byddwch chi’n oedi’ch hawliad.
| Os ydych chi’n byw: | Gwnewch gais am eich Pensiwn y Wladwriaeth: |
|---|---|
|
Yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban |
Ar-lein: Cael eich Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK Dros y ffôn neu drwy’r post: Cysylltwch â’r Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK |
|
Yng Ngogledd Iwerddon |
Ar-lein: Cael eich Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect Dros y ffôn neu drwy’r post: Cysylltwch â’r Northern Ireland Pension Centre Yn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect |
|
Tu allan i’r DU |
Trwy e-bost neu dros y ffôn: Cysylltwch â Chanolfan Bensiwn RhyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK Trwy’r post: Cwblhewch ffurflen gais y Ganolfan Bensiwn RhyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK |
Gwiriwch a allwch hawlio Credyd Pensiwn
Gwiriwch bob amser a oes gennych hawl i Gredyd Pensiwn i roi hwb i’ch incwm. Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael llawer o arian ychwanegol, gall eich gwneud yn gymwys i gael grantiau a chymorth eraill.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i weld beth rydych yn gymwys iddo neu darganfyddwch fwy yn ein canllaw am fudd-daliadau yn ystod ymddeoliad.