Os ydych chi’n symud dramor, fel arfer gallwch hawlio’ch holl bensiynau – gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Ond mae’n aml yn newid sut mae eich pensiynau yn cael eu trethu. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A allaf gael fy mhensiwn os ydw i’n byw dramor?
- A allaf hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os byddaf yn symud dramor?
- A fyddaf yn talu treth ar bensiynau’r DU os byddaf yn symud dramor?
- A allaf gynilo mewn i gynllun pensiwn yn y DU os ydw i’n byw dramor?
- Beth i’w wneud os ydych chi’n symud yn ôl i’r DU
- Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
A allaf gael fy mhensiwn os ydw i’n byw dramor?
Os ydych chi’n symud dramor, fel arfer mae gennych ddau opsiwn ar gyfer eich pensiwn yn y DU – ei adael lle mae neu fynd ag ef gyda chi.
Opsiwn 1: Gadael eich pensiwn lle mae
Rhaid i chi ddweud wrth eich darparwr eich bod chi’n symud dramor, ond bydd eich pensiwn yn parhau i gael ei reoli yn y DU.
Pan fyddwch chi’n barod i gymryd eich pensiwn, fel arfer mae’n cael ei dalu mewn punnoedd a’i drethu fel incwm y DU. Os oes ei angen arnoch mewn arian cyfred gwahanol, gallech drosglwyddo’r arian i gyfrif cyfnewid tramor - mae llawer o fanciau mawr yn cynnig y rhain.
Y prif risg yw peidio â gwybod faint o incwm pensiwn rydych chi’n mynd i’w gael oherwydd:
- efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd cyfnewid
- mae cyfraddau cyfnewid yn aml yn newid bob dydd.
Os ydych chi’n bwriadu parhau i dalu mewn i bensiwn y DU ar ôl i chi symud dramor, efallai na fyddwch yn gymwys i gael unrhyw ryddhad treth ar eich cyfraniadau.
Am ragor o wybodaeth, gweler A allaf gynilo mewn pensiwn yn y DU os ydw i’n byw dramor?
Opsiwn 2: Trosglwyddo eich pensiwn i gynllun tramor
Gallech ystyried symud eich pensiwn i gynllun tramor i gael eich incwm pensiwn:
- wedi’i dalu yn eich arian cyfred lleol
- wedi’i drethu yn y wlad rydych chi’n symud iddi.
Gall hyn fod yn gymhleth, felly fel arfer mae’n syniad da talu am gyngor ariannol yn y DU ac yn y wlad rydych chi'n symud eich pensiwn iddi.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i symud eich pensiwn y DU dramor.
Peidiwch â throsglwyddo neu gael mynediad at eich pensiwn os ydych chi’n teimlo’n ansicr
Efallai y bydd sgamwyr yn eich targedu os ydych chi am gael mynediad i’ch pensiwn neu ei drosglwyddo dramor. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gweld hysbysebion neu’n derbyn galwadau, negeseuon e-bost a negeseuon testun am:
- cyngor neu adolygiadau pensiwn am ddim
- cynhyrchion pensiwn neu fuddsoddi sy’n addo enillion uchel.
Efallai y byddwch hefyd yn cael gwybod bod dyddiad cau i drosglwyddo’ch pensiwn i gynllun tramor, felly rydych chi’n teimlo eich bod dan bwysau i weithredu’n gyflym.
Os ydych chi’n teimlo’n ansicr am unrhyw beth, peidiwch â chael mynediad neu drosglwyddo eich pensiwn. Efallai y byddwch chi’n colli eich holl gynilion ymddeol a gorfod talu tâl treth ddrud.
Yn lle hynny:
- gwiriwch fod y ymgynghorydd neu’r cwmni yn ymddangos ar gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
- ystyried talu am gyngor ariannol
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn.
A allaf hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os byddaf yn symud dramor?
Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU os byddwch yn symud dramor, ond ni fyddwch yn gymwys ar gyfer:
- cynnydd blynyddol - oni bai bod y wlad rydych chi’n symud iddi wedi’i rhestru ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Credyd Pensiwn.
Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu i gyfrif rhyngwladol, byddwch yn ei dderbyn yn eich arian cyfred lleol. Mae hyn yn golygu bod y swm y byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar y gyfradd cyfnewid ar y pryd.
Faint o Bensiwn y Wladwriaeth ydw i’n gymwys i’w gael?
Gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld:
- pryd y gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth
- faint rydych chi ar y trywydd iawn i’w gael, gan fod y swm yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Os yw’ch rhagolwg yn dangos nad ydych yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y swm llawn, gallech ystyried cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth trwy:
Os ydych chi’n gweithio dramor ac yn talu mewn i system bensiwn y wladwriaeth gwlad arall, efallai y bydd y cyfraniadau hynny hefyd yn cyfrif wrth gyfrifo faint o Bensiwn y Wladwriaeth y DU y byddwch chi’n ei gael.
Am ragor o wybodaeth, gweler Pensiwn y Wladwriaeth newydd: Os ydych wedi byw neu weithio dramorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Sut i hawlio Pensiwn y Wladwriaeth o’r tu allan i’r DU
Gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych o fewn pedwar mis i gyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd neu unrhyw bryd ar ôl.
Os ydych chi’n hawlio o dramor, gallwch:
- cysylltu â’r Ganolfan Bensiwn RyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd
- postio’r ffurflen hawlio Pensiwn y Wladwriaeth RhyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych eisoes yn derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn bwriadu symud dramor, cysylltwch â:
- Canolfan Bensiwn RyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- Northern Ireland Pension CentreYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon.
A fyddaf yn talu treth ar bensiynau’r DU os byddaf yn symud dramor?
Er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth, rhaid i chi ddweud wrth CThEF os byddwch yn symud dramorYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi’n byw dramor, rydych chi fel arfer yn cael eich dosbarthu fel un nad yw’n breswylydd yn y DU. Mae hyn fel arfer yn golygu:
- nad ydych chi’n talu Treth Incwm y DU ar eich Pensiwn Wladwriaeth y DU – ond efallai y byddwch yn talu treth yn y wlad rydych chi’n byw ynddi
- efallai y byddwch yn talu Treth Incwm y DU ar bensiynau eraill y DU – ac weithiau yn y wlad rydych chi’n byw ynddi hefyd.
Mae swm Treth Incwm y DU y mae angen i chi ei dalu yn dibynnu ar gyfanswm eich enillion mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Gallwch weld y bandiau Treth IncwmYn agor mewn ffenestr newydd a bandiau Treth Incwm yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Bydd angen i chi ymchwilio rheolau treth y wlad rydych chi’n symud iddi
Mae gan rai gwledydd gytundeb trethiant dwbl gyda’r DUYn agor mewn ffenestr newydd
Mae hyn yn golygu y gallwch hawlio:
- ad-daliad os ydych wedi talu Treth Incwm y DU a threth yn y wlad rydych chi’n byw ynddi, neu
- rhyddhad treth cyn i chi gael eich trethu ddwywaith.
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’ch pensiwn yn ddi-dreth yn y DU, ond efallai y bydd hyn yn dal i gael ei drethu yn y wlad rydych chi’n byw ynddi os ydych chi’n ei gymryd fel preswylydd nad yw’n byw yn y DU.
Mae’n werth ystyried talu am gyngor ariannol i ddarganfod pa reolau treth tramor sy’n berthnasol i chi.
Darganfyddwch fwy am dreth os ydych chi’n symud dramorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
A allaf gynilo mewn i gynllun pensiwn yn y DU os ydw i’n byw dramor?
Os yw’ch darparwr yn cytuno, gallwch barhau i gynilo mewn i gynllun pensiwn y DU os ydych chi’n byw dramor. Ond efallai na fyddwch yn elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau.
Sut mae rhyddhad treth pensiwn yn gweithio yn y DU
Mae rhyddhad treth yn daliad ychwanegol y mae’r llywodraeth fel arfer yn ei ychwanegu pan fyddwch chi’n talu mewn i’ch pensiwn. Dyma’r arian y byddech fel arfer wedi’i dalu mewn Treth Incwm.
Bob blwyddyn dreth hyd nes eich bod yn 75 oed, fel arfer gallwch gael rhyddhad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn hyd at:
- y swm rydych chi’n ei ennill yn y DU ac
- eich lwfans blynyddol – mae hyn yn £60,000 i’r rhan fwyaf ac mae’n cwmpasu’r holl daliadau mewn i’ch pensiwn, gan gynnwys unrhyw daliadau gan eich cyflogwr.
Os ydych chi’n ennill llai na £3,600 ac mae’ch darparwr pensiwn yn hawlio’r rhyddhad treth i chi (a elwir yn rhyddhad yn y ffynhonnell), gallwch gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn rydych chi’n eu gwneud hyd at £2,880 bob blwyddyn dreth.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad treth os ydych chi’n byw dramor
Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU, rydych fel arfer yn gymwys ar gyfer yr un rheolau rhyddhad treth bob blwyddyn dreth os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol:
- Fe wnaethoch chi fyw yn y DU yn y pum mlynedd dreth ddiwethaf ac roeddech eisoes yn aelod o gynllun pensiwn y DU.
- Rydych chi neu’ch partner yn Was y Goron gydag enillion trethadwy yn y DU.
- Roedd gennych ‘enillion perthnasol yn y DU’ ar gyfer y flwyddyn dreth honno – nid yw incwm pensiwn yn cyfrif.
Gallwch weld beth sy’n cyfrif fel ‘enillion perthnasol yn y DU’Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Beth i’w wneud os ydych chi’n symud yn ôl i’r DU
Os byddwch yn symud yn ôl i’r DU, rhaid i chi ddweud wrth eich darparwr(wyr) pensiwn a’r canlynol:
- Canolfan Bensiwn RyngwladolYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi’n symud i Gymru, Lloegr neu yr Alban
- Northern Ireland Pension CentreYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi’n symud i Ogledd Iwerddon.
Efallai y bydd angen i chi hefyd ddweud wrth CThEF fel eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Gweler Treth os byddwch yn dychwelyd i’r DUYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu cysylltwch â CThEFYn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych gynllun pensiwn tramor ac yn ystyried ei drosglwyddo i gynllun yn y DU, gweler ein canllaw Sut i drosglwyddo’ch pensiwn tramor i’r DU.
Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Gan y gall rheolau treth rhwng gwledydd fod yn gymhleth, mae’n syniad da talu am gyngor ariannol yn y DU ac yn y wlad rydych chi’n symud iddi.
Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoledig
Gall ein canllaw eich helpu chi darganfod ymgynghorydd ymddeoliad wedi’i leoli yn y DU sy’n cynnig cyngor i alltudion (pobl sy’n byw y tu allan i'w gwlad enedigol). Rhaid dweud wrthych faint y bydd y cyngor yn ei gostio cyn i chi ymrwymo.
Bydd angen i chi wneud eich ymchwil eich hun i ddod o hyd i ymgynghorydd dramor. Wrth chwilio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r canlynol am y ymgynghorydd:
- ffioedd, gan gynnwys os ydynt yn codi comisiwn
- cymwysterau
- profiad
- statws rheoleiddio.
Gallwch gwyno os ydych chi’n cael cyngor ariannol gwael
Os ydych chi’n talu am gyngor ariannol rheoledig yn y DU ac mae’n troi allan i fod yn wael, neu os ydych chi’n colli arian o ganlyniad, gallwch gwyno a gofyn am iawndal.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i hawlio iawndal am broblem pensiwn neu gyngor gwael.
Am gyngor gwael y tu allan i’r DU, bydd angen i chi gwyno gan ddefnyddio rheolau’r wlad honno.