Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Cymerwch eich pensiwn yn hwyrach na’r disgwyl: ymddeoliad hwyr wedi’i esbonio

Mae eich pensiwn wedi'i gynllunio i ddechrau talu ar ddyddiad penodol, ond fel arfer gallwch ddewis pryd rydych chi am ei hawlio. Os gallwch fforddio, gallai oedi ymddeoliad a chymryd eich pensiwn yn hwyrach olygu y gallwch gael incwm uwch a'ch helpu i dalu llai o dreth os oes gennych enillion eraill o hyd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am ymddeoliad hwyr.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pryd mae fy mhensiwn wedi’i gynllunio i dalu?
  • Beth sy’n digwydd i’m pensiwn os byddaf yn oedi cyn ei gymryd?
  • Beth i’w ystyried cyn oedi cymryd eich pensiwn
  • Cynlluniwch pryd a sut y byddwch chi’n cymryd arian o’ch pensiwn
  • Sut i oedi cyn cymryd eich pensiwn
  • Gallwch gael arweiniad am ddim ar eich opsiynau ar gyfer eich pensiwn
  • Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Pryd mae fy mhensiwn wedi’i gynllunio i dalu?

Mae'r rhan fwyaf o bensiynau wedi'u cynllunio i dalu naill ai:

  • eich oedran pensiwn arferol (NPA) – pan fydd eich darparwr yn disgwyl i chi ymddeol

  • dyddiad ymddeol dethol (SRD) – os ydych wedi dweud dyddiad gwahanol wrth eich darparwr pensiwn.

Mae'r NPA yn amrywio rhwng darparwyr ond gall fod rhwng 55 oed a'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ddod o hyd i'ch NPA yn nogfennau eich cynllun neu drwy ofyn i'ch darparwr pensiwn. 

Pryd alla i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth?

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn gyflym Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Dyma'r cynharaf y gallwch wneud cais am bensiwn y Wladwriaeth. 

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd i’m pensiwn os byddaf yn oedi cyn ei gymryd?

Os yw'ch pensiwn wedi'i gynllunio i dalu'n gynt nag yr hoffech chi, fel arfer gallwch oedi eich cais.

Gallai hyn olygu:

  • bydd eich arian pensiwn yn para'n hirach neu'n rhoi incwm uwch i chi
  • byddwch yn talu llai o Dreth Incwm os ydych chi'n dal i ennill.

Gallwch hefyd barhau i elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn hyd at 75 oed.

Mae'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n gohirio'ch pensiwn yn dibynnu ar y math sydd gennych. Gallwch ddarganfod eich math o bensiwn gan ddefnyddio ein teclyn neu ofyn i'ch darparwr pensiwn. 

Gallai pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio elwa o dwf buddsoddi

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, mae'r swm y bydd yn ei dalu i chi yn dibynnu ar:

  • faint sy'n cael ei dalu i mewn
  • pa mor dda y mae eich arian sydd wedi’i fuddsoddi yn perfformio
  • y costau sy'n cael eu tynnu i ffwrdd
  • sut a phryd rydych chi'n dewis cymryd eich arian.

Os byddwch yn oedi eich cais ar ôl dyddiad ymddeol disgwyliedig eich cynllun, bydd eich darparwr yn parhau i'w reoli ar eich cyfer. Gall hyn olygu:

  • bod gan eich pensiwn fwy o amser wedi’i fuddsoddi ac o bosibl i gynyddu
  • yn aml, gallwch drosi eich pensiwn yn incwm gwarantedig uwch gan fod cyfraddau blwydd-dal fel arfer yn cynyddu po hŷn yr ydych chi, gan na fydd yn debygol o dalu allan am gymaint o amser.

Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio fel arfer yn rhoi incwm gwarantedig uwch i chi

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, byddwch yn cael incwm misol gwarantedig yn seiliedig ar:

  • eich cyflog
  • pa mor hir y gwnaethoch weithio i'ch cyflogwr.

Os ydych yn penderfynu ymddeol yn hwyr, gallai eich cynllun:

  • gynyddu'r incwm pensiwn y byddwch chi'n ei gael, gan ei fod yn debygol o gael ei dalu am gyfnod byrrach, neu
  • talu cyfandaliad o'r taliadau rheolaidd nad oeddech yn eu hawlio.

Bydd eich darparwr yn gallu esbonio'r rheolau sy'n berthnasol i chi.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu os ydych chi’n oedi gwneud cais am o leiaf bum neu naw wythnos

Gallwch ddechrau hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd

Ond os ydych chi'n aros, bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol yn cynyddu ar gyfer pob wythnos nad ydych chi'n ei hawlio – cyn belled â'ch bod chi'n oedi o leiaf:

  • naw wythnos neu
  • pum wythnos os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016.

Yna gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi'n barod. Cofiwch, bydd yn cael ei dalu dros gyfnod byrrach felly efallai na fyddwch chi'n ennill mwy yn gyffredinol os oes gennych ddisgwyliad oes byr.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ohirio'ch cais
Nol i’r brig

Beth i’w ystyried cyn oedi cymryd eich pensiwn

Gall cymryd eich pensiwn yn hwyrach olygu eich bod chi'n cael incwm ymddeoliad uwch ac yn talu llai o dreth os oes gennych enillion eraill o hyd.

Ond mae rhai anfanteision posibl i'w hystyried hefyd.

Efallai y byddwch chi’n colli allan ar fudd-daliadau drwy ohirio’ch cais

Mae gan rai cynlluniau pensiwn fudd-daliadau sy'n talu dim ond pan fyddwch chi'n cyrraedd oedran penodol. Mae hyn yn golygu y gallech golli allan os byddwch chi'n cymryd arian ar ôl i hyn ddigwydd.

Gofynnwch i'ch darparwr pensiwn a oes gan eich cynllun unrhyw nodweddion arbennig a phryd rydych chi'n gymwys ar eu cyfer. Er enghraifft, gallai eich cynllun:

  • dalu taliad ychwanegol os ydych chi'n cymryd eich pensiwn ar ddyddiad penodol, a elwir yn aml yn fonws gydag elw
  • gadael i chi drosi'ch pensiwn yn incwm gwarantedig uwch nag y gallwch ei gael mewn mannau eraill, a elwir yn gyfraddau blwydd-dal gwarantedig
  • talu budd-daliadau marwolaeth penodol dim ond os ydych chi wedi dechrau cymryd incwm ohono.

Efallai y bydd angen i chi hefyd dalu tâl i newid eich dyddiad ymddeol arfaethedig, felly gwiriwch bob amser.

Fel arfer mae’n rhaid i chi ddechrau cymryd eich pensiwn cyn 75 oed

Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn uchafswm oedran y mae'n rhaid i chi ddechrau gymryd eich arian – yn aml yn 75 oed.

Os byddwch yn oedi yn hwyrach nag oedran pensiwn arferol eich cynllun, mae'n werth gwirio a allwch wneud cais amdano ar unrhyw adeg neu a fyddai angen i chi aros tan ddyddiad penodol

Efallai y bydd angen i chi newid y ffordd y mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd eich darparwr fel arfer yn symud eich holl arian pensiwn a fuddsoddwyd i fuddsoddiadau mwy sefydlog po agosach y byddwch yn dod at oedran pensiwn arferol eich cynllun.

Os ydych eisiau cymryd eich pensiwn yn hwyrach na hyn, efallai y byddwch yn colli twf buddsoddiad trwy adael eich arian yng nghronfa ddiofyn eich darparwr. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun.

Efallai y byddwch yn talu cyfradd uwch o dreth pan fyddwch yn gwneud cais am eich pensiwn

Mae incwm pensiwn yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo faint o Dreth Incwm y byddwch chi'n ei dalu. Os yw oedi eich pensiwn yn cynyddu'r incwm y byddwch chi'n ei gael, gallai hyn eich gosod mewn band treth uwch pan fyddwch chi'n dechrau gwneud cais amdano.

Gallwch weld y bandiau Treth IncwmYn agor mewn ffenestr newydd a bandiau Treth Incwm yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Gall incwm uwch hefyd effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl i'w hawlio. Gallwch ddefnyddio:

  • ein cyfrifiannell budd-daliadau i wirio beth sydd gennych hawl iddo a sut y gallai newid pe bai'ch incwm neu gynilion yn cynyddu
  • Advicelocal i ddod o hyd i gyngor budd-daliadau am ddim a chyfrinachol Yn agor mewn ffenestr newydd
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
  • Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn
  • Budd-daliadau mewn ymddeoliad

Efallai na fydd eich pensiwn yn cael ei etifeddu’n ddi-dreth

Os oes gennych arian ar ôl wedi'i fuddsoddi mewn pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio a'ch bod yn marw cyn 75 oed, gellir etifeddu eich pensiwn fel arfer yn ddi-dreth – cyn belled:

  • bod yr arian yn cael ei dalu i'ch buddiolwyr enwebedig o fewn dwy flynedd i'ch darparwr pensiwn fod yn ymwybodol o'ch marwolaeth
  • nad yw cyfanswm y swm a etifeddwyd o'ch holl bensiynau yn uwch na'r lwfans cyfandaliad a budd-dal marwolaeth (LSDBA).

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y rheolau ar Dreth Etifeddiant, gweler ein canllaw Beth sy'n digwydd i'm pensiwn pan fyddaf yn marw?

Nol i’r brig

Cynlluniwch pryd a sut y byddwch chi’n cymryd arian o’ch pensiwn

Hyd yn oed os ydych chi'n siŵr na fydd angen i chi wneud cais am eich pensiwn ar oedran penodol, mae'n syniad da cynllunio pryd y gallai fod ei angen arnoch flynyddoedd lawer cyn – a chael cynllun wrth gefn rhag ofn i'ch sefyllfa newid.

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, fel arfer mae gennych yr opsiwn i gymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth a bydd y gweddill yn incwm trethadwy rheolaidd.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gallwch ddewis cymryd hyd at 25% o'ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth a:

  • gadael y gweddill wedi'i fuddsoddi fel y gallwch gymryd incwm trethadwy fel a phryd y mae ei angen arnoch, o'r enw tynnu penswin i lawr
  • cael incwm gwarantedig trethadwy drwy brynu blwydd-dal.

Fel arall, gallech gymryd eich pensiwn cyfan fel un neu fwy o gyfandaliadau trethadwy, gyda hyd at 25% o bob swm yn cael ei dalu'n ddi-dreth.

Gallai fod yn werth ystyried a fyddwch chi'n well cymryd eich pensiwn cyn i chi ymddeol yn llawn. Er enghraifft, gallech ddefnyddio eich pensiwn i’ch galluogi chi i ostwng eich oriau.

Am help i benderfynu, rydym yn cynnig arweiniad am ddim a diduedd ar eich opsiynau pensiwn

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i baratoi a chynllunio ar gyfer ymddeoliad
Nol i’r brig

Sut i oedi cyn cymryd eich pensiwn

Os ydych chi'n siŵr bod cymryd eich pensiwn yn hwyrach na'r cynllun yn iawn i chi, mae yna bethau y mae angen i chi eu gwneud.

Cam 1: Dywedwch wrth eich darparwr yr hoffech oedi eich cais pensiwn

Cysylltwch â'ch darparwr pensiwn fel eu bod yn gwybod pryd rydych chi'n bwriadu dechrau cymryd eich pensiwn.

Gofynnwch iddyn nhw bob amser:

  • os oes unrhyw ffioedd neu gosbau i oedi eich oedran ymddeol disgwyliedig
  • os byddwch yn colli unrhyw fudd-daliadau drwy gymryd eich pensiwn yn hwyrach
  • a allwch chi gymryd eich pensiwn ar unrhyw adeg
  • yr uchafswm oedran y mae'n rhaid i chi wneud cais am eich pensiwn.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, darganfyddwch hefyd sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd ac a allai fod yn well i chi:

  • symud i gronfa arall eich darparwr
  • dewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun. 

Os na allwch oedi eich cais i'r oedran yr hoffech gyda'ch darparwr presennol, gallech ystyried trosglwyddo'ch pensiwn. Ond mae risg bob amser y byddwch chi'n waeth eich byd os ydych yn symud eich pensiwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pa fudd-daliadau neu nodweddion y gallech fod yn rhoi'r gorau iddi.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw A ddylwn i drosglwyddo neu gyfuno fy mhensiynau?

Cam 2: Gwiriwch am ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm ymddeol, gan gynnwys:

  • talu mwy i'ch pensiwn – efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cyfateb i'ch cyfraniadau
  • gwirio eich bod chi'n cael yr holl ryddhad treth rydych chi'n gymwys amdano
  • gwneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn ar gyfer uchafswm Pensiwn y Wladwriaeth
  • oedi eich dyddiad ymddeol.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Ffyrdd o roi hwb i'ch pensiwn.

Cam 3: Gwiriwch yn rheolaidd sut mae eich pensiwn yn perfformio

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gall ei werth godi a gostwng nes i chi gymryd eich arian.

Yn dibynnu ar ba mor dda mae'n perfformio, efallai yr hoffech ystyried newid:

  • pryd byddwch chi'n bwriadu dechrau cymryd arian
  • sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi.

Mae hefyd yn werth cymharu darparwyr pensiwn o leiaf unwaith y flwyddyn, i weld a fyddai'n well i chi drosglwyddo'ch pensiwn i rywle arall.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
  • Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun 
  • Sut i drosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio

Cam 4: Gwneud cais am eich pensiwn pan fyddwch chi’n barod

Pan fyddwch chi'n barod ac yn gallu gwneud cais am eich pensiwn, neu pan fyddwch chi'n cyrraedd yr oedran uchaf y gallwch wneud cais amdano, cysylltwch â'ch darparwr i ddweud wrthynt sut i ddechrau eich talu.

Am fwy o gymorth, gweler ein canllaw Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam
Nol i’r brig

Gallwch gael arweiniad am ddim ar eich opsiynau ar gyfer eich pensiwn

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i’ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.

Gallwch gael apwyntiad os ydych chi:

  • 50 neu’n hŷn
  • o dan 50 oed ac:
    • yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
    • wedi etifeddu pensiwn.

Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiwn.

Cysylltwch â’n harbenigwyr pensiwn am gymorth am ddim

Gallwch gysylltu â'n harbenigwyr pensiwn am gymorth ac arweiniad am ddim – does dim ots pa fath o bensiwn sydd gennych neu pa mor hen ydych chi.

Gallwch:

  • ddefnyddio ein gwesgwrs
  • ffonio ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd (+44 20 7932 5780Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych tu allan i’r DU)
  • defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. 

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Gall y penderfyniad ynghylch pryd a sut i gymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus fydd eich ymddeoliad.    

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys:    

  • argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
  • cynghori ble i fuddsoddi eich arian
  • egluro eich opsiynau i leihau’r dreth y gallech fod angen ei thalu.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Pryd y gallwch gymryd eich pensiwn

  • Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
  • Ymddeoliad salwch: sut i gymryd eich pensiwn yn gynnar
  • Cymerwch eich pensiwn yn hwyrach na’r disgwyl: ymddeoliad hwyr wedi’i esbonio
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Pryd y gallwch gymryd eich pensiwn

  • Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
  • Ymddeoliad salwch: sut i gymryd eich pensiwn yn gynnar
  • Cymerwch eich pensiwn yn hwyrach na’r disgwyl: ymddeoliad hwyr wedi’i esbonio
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau