Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian – gan gynnwys pa gynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio. Darganfyddwch sut i gymharu darparwyr pensiwn a chynlluniau i ddod o hyd i’r cytundeb gorau ar gyfer eich incwm ymddeol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1: Cymharwch yr holl ffyrdd o gymryd arian o'ch pensiwn
- Cam 2: Gwiriwch gytundebau eich darparwr presennol
- Cam 3: Cymharwch gynlluniau pensiwn a darparwyr i ddod o hyd i’r cytundeb gorau
- Cam 4: Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
- Cam 5: Cofrestrwch i’ch cynnyrch dewisol
- Cam 6: Gwiriwch eich pensiwn a fuddsoddwyd yn rheolaidd
Cam 1: Cymharwch yr holl ffyrdd o gymryd arian o'ch pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae angen i chi benderfynu sut a phryd yr hoffech gymryd eich arian.
Gallwch ddarganfod eich math o bensiwn gan ddefnyddio ein teclyn neu ofyn i’ch darparwr.
Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i’ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.
Gallwch gael apwyntiad os ydych chi:
- 50 neu’n hŷn
- o dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiwn.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Cam 2: Gwiriwch gytundebau eich darparwr presennol
I ddod o hyd i’r darparwr pensiwn gorau ar eich cyfer, dechreuwch drwy wirio beth allech ei gael drwy aros gyda’ch darparwr pensiwn presennol.
Mae hyn yn cynnwys gwirio:
- os yw’ch darparwr yn cynnig yr opsiwn incwm yr hoffech
- faint y byddech chi'n ei gael pe baech chi’n defnyddio eu cynnyrch – fel arfer gallwch ofyn iddynt am ddyfynbrisiau
- beth yw’r opsiynau cynnyrch a’r ffioedd
- os oes unrhyw gosbau am drosglwyddo i ddarparwr gwahanol, fel ffi ymadael
- os oes gennych unrhyw nodweddion arbennig, megis:
- Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig – gallai hyn eich galluogi i drosi’ch pensiwn yn incwm gwarantedig uwch nag y gallech ei gael mewn mannau eraill
- isafswm oedran pensiwn gwarchodedig – gallai hyn eich galluogi i gael mynediad i’ch pensiwn yn gynt nag y gallai cynlluniau eraill
- Bonws ‘gydag elw’ – mae hwn yn daliad ychwanegol y gallech ei gael os ydych chi’n aros i gael mynediad i’ch pensiwn ar ôl oedran penodol.
Cam 3: Cymharwch gynlluniau pensiwn a darparwyr i ddod o hyd i’r cytundeb gorau
Nesaf, gwiriwch a allwch gael cytundeb gwell gan ddarparwr gwahanol. Mae sut i gymharu yn dibynnu ar y ffordd yr hoffech chi gymryd eich arian.
Os ydych chi eisiau cymryd eich pensiwn ar un tro ac mae’ch darparwr presennol yn caniatáu hyn heb unrhyw gosbau, fel arfer nid oes angen cymharu darparwyr eraill.
Cewch incwm rheolaidd gwarantedig – cymharwch gyfraddau blwydd-dal
Mae blwydd-dal yn eich caniatáu chi i drosi rhywfaint neu’r cyfan o’ch arian pensiwn yn incwm gwarantedig, naill ai am oes neu gyfnod penodol.
Sut i gymharu blwydd-daliadau
Gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu blwydd-dal i weld beth fydd gwahanol ddarparwyr yn ei gynnig i chi.
Gallwch hefyd:
- gael dyfynbrisiau trwy gysylltu â gwahanol ddarparwyr blwydd-dal eich hun – mae llawer o gwmnïau yswiriant yn gwerthu blwydd-daliadau
- talu cynghorydd ariannol i argymell cynnyrch i chi – efallai y bydd cynghorwyr yn gallu cael mynediad at gyfraddau blwydd-dal gwell nag sydd ar gael i chi yn uniongyrchol.
Mae’r gyfradd blwydd-dal y byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys:
- eich oedran a’ch iechyd – efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfraddau uwch os oes gennych gyflwr meddygol
- pa mor hir yr hoffech i’r incwm bara
- yr opsiynau rydych chi’n eu dewis, gan gynnwys:
- incwm sy’n cynyddu neu’n aros yr un fath bob blwyddyn
- os bydd eich blwydd-dal yn parhau i dalu ar ôl i chi farw.
Er enghraifft, pe baech chi'n trosi cronfa bensiwn gwerth £100,000, byddai cyfradd blwydd-dal o 5% yn rhoi incwm blynyddol o £5,000 i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymerwch eich pensiwn fel incwm gwarantedig: blwydd-daliadau wedi’u hegluro.
Cymerwch arian fel a phryd y dymunwch – cymharwch gynhyrchion tynnu i lawr
Mae tynnu pensiwn i lawr yn eich caniatáu i:
- gymryd hyd at 25% ymlaen llaw fel cyfandaliad di-dreth (neu gymaint neu gyn lleied ag sydd ei angen arnoch ar y pryd)
- gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi nes eich bod chi eisiau cymryd yr arian.
Yna gallwch ddewis fel arfer i:
- gymryd cyfandaliadau fel a phryd y dymunwch,
- cymryd incwm rheolaidd
- prynu blwydd-dal ar gyfer incwm gwarantedig.
Sut i gymharu cynhyrchion tynnu pensiwn i lawr
Gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu llwybrau buddsoddi i ddod o hyd i ddarparwyr tynnu i lawr sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gymryd eich arian ac opsiynau buddsoddi parod.
Gallwch hefyd:
- gymharu darparwyr tynnu i lawr eich hun – mae llawer o ddarparwyr pensiwn yn cynnig tynnu i lawr
Wrth gymharu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio:
- os yw’r darparwr yn cynnig y ffordd yr hoffech chi gymryd eich arian
- sut y byddai’ch arian yn cael ei fuddsoddi
- yr hyn y byddai angen i chi ei dalu – gan gynnwys ffi reoli flynyddol a thaliadau bob tro y byddwch chi'n cymryd arian.
Os yw darparwr newydd yn cynnig cytundeb gwell, ystyriwch drosglwyddo’ch pensiwn. Ond gwiriwch bob amser a fyddwch chi'n colli unrhyw fudd-daliadau cyn newid i ffwrdd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio.
Cam 4: Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Gall y penderfyniad ynghylch pryd a sut i gymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus fydd eich ymddeoliad.
Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys:
- argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
- cynghori ble i fuddsoddi eich arian
- egluro eich opsiynau i leihau’r dreth y gallech fod angen ei thalu.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad.
Gallwch gwyno os ydych chi'n cael cyngor ariannol gwael
Os ydych chi’n talu am gyngor ariannol rheoledig ac mae’n profi i fod yn wael, gan gynnwys os ydych chi’n colli arian o ganlyniad i gyngor gwael, gallwch gwyno a gofyn am iawndal.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i hawlio iawndal am broblem pensiwn neu gyngor gwael.
Cam 5: Cofrestrwch i’ch cynnyrch dewisol
Os ydych chi’n defnyddio cynghorydd ariannol, gallant fel arfer sefydlu’r blwydd-dal neu'r cynnyrch tynnu i lawr drosoch.
Os ydych chi wedi dewis y cynnyrch eich hun, gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais a pha mor hir sydd gennych chi i newid eich meddwl – fel arfer ni ellir canslo blwydd-dal ar ôl i’ch cyfnod callio o 30 diwrnod ddod i ben.
Os ydych wedi penderfynu trosglwyddo’ch pensiwn i ddarparwr gwahanol, dewch o hyd i gymorth cam wrth gam yn ein canllaw Sut i drosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio.
Peidiwch â chael mynediad i’ch pensiwn os ydych chi’n teimlo dan bwysau neu’n ansicr
Peidiwch â throsglwyddo’ch arian i ddarparwr pensiwn newydd neu fuddsoddi unrhyw arian oherwydd galwad, ymweliad, e-bost neu neges destun diwahoddiad – mae’n debygol o fod yn sgam. Gallech golli’ch arian ac wynebu bil treth mawr.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn.
Gwiriwch fod y swm cywir o dreth wedi’i dynnu i ffwrdd
Pan fydd eich taliad cyntaf yn cael ei wneud, efallai y defnyddir cod treth dros dro neu frys. Mae hyn yn golygu y gallech dalu gormod o Dreth Incwm.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gordalu treth, gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad treth ar GOV.UK. Efallai y bydd CThEF hefyd yn ei dalu'n ôl i chi yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn.
Cam 6: Gwiriwch eich pensiwn a fuddsoddwyd yn rheolaidd
Os yw rhan o’ch pensiwn yn parhau i gael ei fuddsoddi, gall ei werth godi a gostwng nes i chi ddewis ei gymryd.
Yn dibynnu ar ba mor dda y mae’n perfformio, efallai yr hoffech ystyried newid sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi neu'r ffordd rydych chi’n cymryd eich arian.
Mae hefyd yn werth cymharu darparwyr pensiwn o leiaf unwaith y flwyddyn i weld a fyddai’n well i chi drosglwyddo eich pensiwn i rywle arall.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau: