Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian. Un opsiwn yw gadael yr arian a fuddsoddwyd a chymryd cyfandaliad arian parod pan fyddwch chi eisiau, naill ai nes i chi redeg allan neu eich bod yn dewis opsiwn arall.

Beth sydd yn y canllaw hwn:

  • Sut mae nifer o gyfandaliadau pensiwn yn gweithio
  • Beth i’w ystyried cyn cymryd nifer o gyfandaliadau
  • Cymharu’r holl ffyrdd o gymryd arian o’ch pensiwn
  • Sut i ddechrau cymryd nifer o gyfandaliadau o’ch pensiwn
  • Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
  • Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Sut mae nifer o gyfandaliadau pensiwn yn gweithio

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae gennych yr opsiwn i:

  • adael eich pensiwn wedi’i fuddsoddi fel y gall barhau i dyfu
  • cymryd cyfandaliadau arian parod pa bryd rydych eu hangen – fel arfer gallwch benderfynu faint a pha mor aml.

Gelwir yr opsiwn hwn yn Gyfandaliad Pensiwn Cronfeydd Di-grisial (UFPLS) ac mae’n ffordd o gael mynediad at eich pensiwn mewn ffordd hyblyg.

Tra bod eich pensiwn yn parhau i fod wedi’i fuddsoddi, gall ei werth godi neu ostwng nes i chi gymryd yr arian.

Ddim yn siŵr pa fath o bensiwn sydd gennych? Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i’ch darparwr pensiwn.

Mae hyd at 25% o bob cyfandaliad yn ddi-dreth

Mae 25% o bob cyfandaliad fel arfer yn cael ei dalu’n ddi-dreth. Mae’r gweddill yn cael ei drethu ynghyd ag unrhyw enillion eraill sydd gennych.

Byddwch ond yn cael llai na 25% yn cael ei dalu’n ddi-dreth os byddwch yn derbyn mwy na’r lwfans cyfandaliad (LSA). Mae’r LSA yn £268,275 i’r mwyafrif o bobl ac mae’n cyfrif yr holl arian parod di-dreth a gymerir o’ch holl bensiynau. 

Gallwch gymryd cyfandaliadau nes i chi redeg allan neu ddewis opsiwn arall

Gallwch gymryd eich pensiwn cyfan fel nifer o gyfandaliadau neu gymryd rhywfaint fel cyfandaliad a’r gweddill mewn ffordd wahanol.

Er enghraifft, gallech chi:

  • gymryd cyfandaliad tra byddwch yn dal i weithio
  • trosi eich cronfa bensiwn sy’n weddill yn incwm gwarantedig pan fyddwch yn ymddeol yn llawn, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth.

Cyn penderfynu, dylech bob amser gymharu yr holl ffyrdd o gymryd eich pensiwn

Nol i’r brig

Beth i’w ystyried cyn cymryd nifer o gyfandaliadau

Mae cymryd cyfandaliad o’ch pensiwn yn caniatáu i chi gael mynediad at eich arian fel a phryd byddwch ei angen – ychydig fel tynnu arian allan o gyfrif cynilo safonol.

Mae hefyd yn golygu y gallwch gwasgau’r symiau rydych yn eu cymryd ar draws sawl blwyddyn dreth, felly nid yw cyfanswm eich incwm yn eich gwthio i mewn i fraced treth uwch.

Ond mae hefyd rai anfanteision posibl. Dyma beth arall i’w ystyried.

Nid yw eich incwm ymddeol wedi’i warantu

Tra bod eich pensiwn yn cael ei adael wedi fuddsoddi, gall ei werth godi a gostwng nes i chi gymryd yr arian. Mae hyn yn golygu y gallai’r swm y gallwch ei gymryd allan fod yn uwch neu’n is na’r disgwyl.

Mae faint mae eich pensiwn werth yn dibynnu ar faint sy’n cael ei dalu i mewn, pa mor dda mae’r buddsoddiadau yn perfformio a’r ffioedd mae eich darparwr yn eu tynnu.

Mae angen i chi gynllunio’n ofalus i wneud yn siŵr bod eich arian yn para

Fel arfer, gallwch ddewis pa mor aml i gael mynediad at eich pensiwn a faint i’w gymryd bob tro. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gynllunio’n ofalus i leihau’r risg o redeg allan o arian.

Er enghraifft, efallai na fydd eich arian yn para os:

  • ydych yn byw yn hirach nag yr ydych yn ei ddisgwyl – mae llawer yn tanamcangyfrif hyd eu hymddeoliad
  • ydych yn tynnu gormod allan yn y blynyddoedd cynnar
  • nad ydych yn addasu’r symiau rydych yn eu cymryd os yw’ch pensiwn sydd wedi’i fuddsoddi yn tyfu llai nag yr ydych wedi’i gynllunio amdano.

Efallai y bydd angen i chi newid y ffordd y caiff eich pensiwn ei fuddsoddi

Mae llawer o ddarparwyr pensiwn yn rheoli ac yn dewis y buddsoddiadau i chi, fel arfer yn rhoi eich arian yn eu cronfa ddiofyn.

Mae hyn fel arfer yn golygu bod eich arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau mwy sefydlog yr agosaf y byddwch yn dod at ‘oedran pensiwn arferol’ eich cynllun – sy’n aml yr un fath â’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd

Mae hyn yn digwydd gan fod eich darparwr yn cymryd yn ganiataol y byddwch yn cymryd eich holl arian pensiwn ar eich oedran pensiwn arferol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cymryd cyfandaliad arian parod a defnyddio’r gweddill i gael incwm rheolaidd am oes (blwydd-dal).

Os hoffech adael eich pensiwn wedi’i fuddsoddi y tu hwnt i’ch oedran pensiwn arferol, efallai y byddwch yn colli twf buddsoddi trwy adael eich arian yng nghronfa ddiofyn eich darparwr.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun.

Efallai y byddwch yn cael llai o ryddhad treth os byddwch yn parhau i dalu i mewn i bensiwn

Pan fyddwch yn talu i mewn i bensiwn, mae’r llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad ychwanegol o’r enw rhyddhad treth. Dyma’r arian y byddech chi’n ei dalu fel arfer mewn Treth Incwm.

Fel arfer, gallwch gael rhyddhad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn hyd at y lwfans blynyddol. I’r mwyafrif o bobl, mae hyn yn golygu:

  • rhaid i’ch cyfraniadau fod yn llai na (neu’n hafal i) y swm rydych yn ei ennill, a
  • rhaid i gyfraniadau gennych chi a’ch cyflogwr fod yn llai na £60,000.

Ond os ydych yn cymryd arian trethadwy o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio (fel nifer o gyfandaliadau), mae’r terfyn o £60,000 yn gostwng i £10,000. Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian (MPAA).  

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i’ch cyfraniadau pensiwn. 

Gall incwm uwch effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau

Os yw cymryd arian o’ch pensiwn yn cynyddu eich incwm neu gynilion cyffredinol, gallai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl wneud cais amdanynt.

Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio beth sydd gennych hawl iddo nawr a sut y gallai newid pe bai’ch incwm neu gynilion yn cynyddu.

Gallwch hefyd ddefnyddio AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gyngor am ddim a chyfrinachol am fudd-daliadau.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Budd-daliadau mewn ymddeoliad. 

Efallai y bydd eich cyfandaliad yn cael eu hawlio i ad-dalu dyledion

Fel arfer, ni all unrhyw arian a gedwir yn eich pensiwn gael ei hawlio gan unrhyw un y mae arnoch arian iddynt, hyd yn oed os ydych yn cael eich datgan yn fethdalwr neu os oes gennych gynllun ad-dalu dyled ffurfiol.

Ond os ydych yn cymryd arian allan o’ch pensiwn, efallai y dywedir wrthych am ei ddefnyddio i wneud ad-daliadau rheolaidd neu gellid hawlio’r cyfandaliad cyfan.

Cyn cymryd arian pensiwn, gallwch siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim i ddeall eich opsiynau.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw A allaf ddefnyddio fy mhensiwn i ad-dalu dyledion?

Gall arian sydd ar ôl yn eich pensiwn gael ei etifeddu’n ddi-dreth os byddwch yn marw cyn 75 oed

Os byddwch yn marw cyn 75 oed, fel arfer gellir etifeddu eich pensiwn yn ddi-dreth cyn belled:

  • bod yr arian yn cael ei dalu i’ch buddiolwyr enwebedig o fewn dwy flynedd i’ch darparwr pensiwn fod yn ymwybodol o’ch marwolaeth
  • nid yw cyfanswm y swm a etifeddwyd o’ch holl bensiynau yn uwch na’r lwfans cyfandaliad a budd-dal marwolaeth (LSDBA).

Mae’r LSDBA yn £1,073,100 i’r mwyafrif o bobl ac mae’n cyfrif cyfandaliadau di-dreth a gymerwyd o’ch pensiwn cyn ac ar ôl i chi farw. Mae hyn yn golygu y gallai eich terfyn fod yn is os ydych wedi cymryd arian di-dreth yn barod. Bydd eich buddiolwyr fel arfer yn talu Treth Incwm ar unrhyw symiau uwchlaw’r LSDBA.

Ym mhob achos arall, gan gynnwys os byddwch yn marw ar ôl 75 oed, ni ellir fel arfer etifeddu eich pensiwn yn ddi-dreth. Mae’r swm etifeddol fel arfer yn cael ei ychwanegu at incwm arall eich buddiolwr i gyfrifo faint o Dreth Incwm sy’n ddyledus.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys y rheolau ar Dreth Etifeddiant, gweler ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?  

Nol i’r brig

Cymharu’r holl ffyrdd o gymryd arian o’ch pensiwn

Mae cymryd nifer o gyfandaliadau yn un ffordd o gymryd arian o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio.

Gallwch hefyd ddewis:

  • cymryd eich pensiwn mewn un tro
  • cymryd rhywfaint o arian parod di-dreth (hyd at 25%), a:
    • cadw’r gweddill wedi’i fuddsoddi mewn cynllun tynnu pensiwn hyblyg nes eich bod ei angen
    • trosi’r gweddill yn incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal
    • sefydlu incwm hyblyg y gallwch ei stopio neu ei newid ar unrhyw adeg
    • cymryd y gweddill fel un neu fwy o gyfandaliadau.

Mae’n werth gofyn i’ch darparwr pensiwn a oes gennych unrhyw nodweddion arbennig cyn cymharu eich opsiynau. Er enghraifft, gallai eich pensiwn gynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig a fyddai’n rhoi incwm gwarantedig uwch nag y gallech ei brynu ar y farchnad agored.

I gael mwy o wybodaeth am eich holl opsiynau, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?

Rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau arweiniad Pension Wise am ddim a diduedd i esbonio’ch opsiynau pensiwn.

Nol i’r brig

Sut i ddechrau cymryd nifer o gyfandaliadau o’ch pensiwn

Os yw cymryd nifer o gyfandaliadau yn iawn ar eich cyfer chi, dyma'r camau i’w cymryd.

Cam 1: Cymharu darparwyr pensiwn i ddod o hyd i’r fargen orau

Nid oes rhaid i chi aros gyda’ch darparwr pensiwn presennol – efallai na fyddant yn cynnig yr opsiwn o gymryd sawl cyfandaliad neu mae gan ddarparwr arall well bargen.

Er enghraifft, gallai rhai darparwyr:

  • godi ffi bob tro y byddwch yn cymryd cyfandaliad
  • cyfyngu ar faint y gallwch ei gymryd bob tro.

Nid yw safleoedd cymharu ar gyfer darparwyr pensiwn yn bodoli, felly fel arfer bydd angen i chi:

  • chwilio am ddarparwyr pensiwn sy’n caniatáu nifer o gyfandaliadau
  • talu ymgynghorydd ariannol rheoledig i argymell darparwr a chynnyrch i chi.

Am help i gymharu darparwyr eich hun, gweler ein canllaw am siopa o gwmpas am gynhyrchion incwm pensiwn.

Os byddai’n well gennych gael cyngor, gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeol. Mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych faint y byddant yn ei godi cyn i chi ymrwymo.

Os yw darparwr pensiwn gwahanol yn cynnig bargen well, gallwch ystyried symud eich pensiwn iddynt. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw am drosglwyddo eich pensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. 

Peidiwch â chofrestru os ydych yn teimlo dan bwysau neu’n ansicr

Peidiwch â chael mynediad at eich pensiwn na throsglwyddo unrhyw arian i ddarparwr pensiwn oherwydd galwad ddi=groeso, ymweliad, e-bost neu neges destun. Mae’n debygol o fod yn sgam sydd wedi’i gynllunio i ddwyn eich arian.

Efallai y byddwch yn colli eich holl gynilion ymddeol ac yn gorfod talu bil treth drud.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn.

Cam 2: Cynllunio faint rydych yn ei dynnu allan i gyfyngu ar y dreth y byddwch yn ei thalu

Pan fyddwch yn cymryd nifer o gyfandaliadau o’ch pensiwn, mae 25% o bob swm fel arfer yn cael ei dalu’n ddi-dreth – cyn belled nad yw cyfanswm yr arian parod di-dreth a gymerir o’ch holl bensiynau yn uwch na'r lwfans cyfandaliad (£268,275 i’r rhan fwyaf o bobl).

Mae’r 75% arall yn cyfrif fel enillion ac yn cael ei ychwanegu at eich incwm arall i gyfrifo faint o Dreth Incwm y mae angen i chi ei dalu ar gyfer y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu lgwasgaru eich cyfandaliadau ar draws gwahanol flynyddoedd treth er mwyn osgoi symud i fand Treth Incwm uwch.

Gallwch weld y bandiau Treth IncwmYn agor mewn ffenestr newydd a bandiau Treth Incwm yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. 

Enghraifft

Os oes gennych enillion o £25,000 yn barod ac yn cymryd cyfandaliad o £40,000 o’ch pensiwn ar 1 Ebrill, byddai cyfanswm eich incwm trethadwy yn £55,000 – gan y gellir cymryd £10,000 fel arfer yn ddi-dreth.

Mae hyn yn eich gwthio i mewn i fand treth uwch, felly byddwch yn talu tua £6,950 mewn treth ar y cyfandaliad (£8,650 os ydych chi’n byw yn Yr Alban).

Ond os ydych yn cymryd £20,000 ar 1 Ebrill a £20,000 arall ar 6 Ebrill pan fydd y flwyddyn dreth newydd yn dechrau, byddech chi’n aros mewn band treth is a byddech chi’n talu tua £6,000 mewn treth ar y cyfandaliad (£6,250 yn Yr Alban).

Defnyddiwch ein cyfrifiannell treth cyfandaliad pensiwn

Gall ein cyfrifiannell amcangyfrif faint o dreth y gallech ei thalu ar wahanol gyfandaliadau, yn seiliedig ar gyfraddau Treth Incwm Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae gan Which? gyfrifiannell treth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd sy’n cynnwys cyfraddau Treth Incwm yr Alban.

Cam 3: Gwiriwch fod y swm cywir o dreth wedi’i dynnu i ffwrdd

Mae darparwyr pensiwn fel arfer yn defnyddio codau treth dros dro neu frys pan fyddwch yn cymryd eich cyfandaliad cyntaf.

Mae hyn fel arfer yn golygu eich bod yn cael eich trethu fel pe byddech yn derbyn y cyfandaliad hwnnw bob mis, felly efallai y byddwch yn talu mwy o dreth nag y dylech.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gordalu treth, gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad trethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Efallai y bydd CThEF hefyd yn ei dalu’n ôl i chi yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn.

Cam 4: Gwiriwch yn rheolaidd werth eich pensiwn a fuddsoddwyd 

Gan y gall eich pensiwn a fuddsoddwyd godi a gostwng mewn gwerth nes i chi gymryd eich cyfandaliad, mae’n bwysig gwirio’n rheolaidd pa mor dda mae’n perfformio.

Os yw’ch pensiwn yn tyfu ar gyfradd arafach na’r disgwyl, efallai yr hoffech ystyried:

  • addasu’r swm rydych yn bwriadu ei gymryd bob tro
  • dewis ffordd wahanol o gymryd eich arian
  • newid sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi.

Mae hefyd yn werth cymharu darparwyr pensiwn o leiaf unwaith y flwyddyn i weld a fyddech yn well eich byd yn trosglwyddo’ch pensiwn i rywle arall.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun
  • Sut i drosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Nol i’r brig

Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn

Er mwyn helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn, gallwch gael apwyntiad Pension Wise am ddim. Mae hyn yn esbonio:

  • pryd y gallwch gymryd eich pensiwn
  • y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd arian
  • sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu
  • sut i nabod ac osgoi sgamiau.

Rydych yn gymwys i gael apwyntiad os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio yn y DU ac os ydych:

  • yn 50 oed neu drosodd
  • dan 50 oed ac:
    • yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
    • wedi etifeddu pensiwn.

Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiynau. 

Oes gennych gwestiynau eraill am eich pensiwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich pensiwn, gall ein harbenigwyr pensiwn eich helpu – does dim ots faint yw eich oed.

Gallwch:

  • ddefnyddio ein gwesgwrs
  • ffonio ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd (+44 20 7932 5780Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych tu allan i’r DU)
  • defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. 

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Gall sut rydych yn dewis cymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus yw eich ymddeoliad.

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeol, gan gynnwys:

  • argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
  • cynghori ble i fuddsoddi’ch arian
  • esbonio’ch opsiynau i leihau’r dreth y gallai fod angen i chi ei thalu.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Ffyrdd y gallwch gymryd eich pensiwn

  • Cymryd eich pensiwn fel incwm gwarantedig: blwydd-daliadau wedi'u hesbonio
  • Cymryd arian o'ch pensiwn pan fydd ei angen arnoch: esboniad tynnu pensiwn i lawr
  • Tynnu pensiwn i lawr yn raddol neu’n rhannol wedi’i egluro
  • Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
  • Cymerwch eich pensiwn cyfan mewn un taliad
  • Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
  • Beth yw tynnu i lawr wedi'i gapio?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Ffyrdd y gallwch gymryd eich pensiwn

  • Cymryd eich pensiwn fel incwm gwarantedig: blwydd-daliadau wedi'u hesbonio
  • Cymryd arian o'ch pensiwn pan fydd ei angen arnoch: esboniad tynnu pensiwn i lawr
  • Tynnu pensiwn i lawr yn raddol neu’n rhannol wedi’i egluro
  • Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
  • Cymerwch eich pensiwn cyfan mewn un taliad
  • Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
  • Beth yw tynnu i lawr wedi'i gapio?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau