Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Treth a phensiynau
Pensiynau ac ymddeoliad Treth a phensiynau

Cario ymlaen: cynyddu eich lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn 

Os yw eich cynilion pensiwn yn fwy na'r lwfans blynyddol (£60,000 ar gyfer y mwyafrif), gwiriwch a allwch ddefnyddio lwfansau nas defnyddiwyd o'r tair blynedd dreth ddiwethaf. Gelwir hyn yn cario ymlaen.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw cario ymlaen?
  • Beth yw’r lwfans blynyddol? 
  • Sut mae cario ymlaen yn gweithio 
  • Defnyddio cario ymlaen ar gyfer taliadau pensiwn mawr neu afreolaidd 
  • Defnyddio cario ymlaen os ydych chi'n berchennog busnes bach
  • Ystyriwch gyngor gan gynghorydd ariannol 

Beth yw cario ymlaen?

Mae cario ymlaen yn gadael i chi ddefnyddio lwfans blynyddol nas defnyddiwyd o'r tair blynedd dreth ddiwethaf.

Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu cynilo mwy i'ch pensiwn y flwyddyn dreth hon ac yn dal i fod yn gymwys i gael gostyngiad treth - ar yr amod bod eich incwm yn uwch (neu'n hafal i) y swm rydych am ei dalu i'ch pensiwn.

Er enghraifft, os ydych am dalu £80,000 i'ch pensiwn, bydd angen i chi ennill o leiaf £80,000 yn y flwyddyn dreth hon.

Gallwch weld beth sy'n cyfrif fel enillion perthnasol y DUYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Ydw i’n gymwys i ddefnyddio cario ymlaen? 

Gallwch wirio a oes gennych lwfansau blynyddol nas defnyddiwydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Fel arfer, gallwch ddefnyddio cario ymlaen os ydych:

  • wedi defnyddio'ch lwfans blynyddol cyfredol

  • yn aelod o gynllun pensiwn cofrestredig yn ystod pob blwyddyn dreth yr ydych am ei chario ymlaen, heb gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth  

  • heb sbarduno'r lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) drwy gymryd arian trethadwy yn hyblyg o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. 

Nol i’r brig

Beth yw’r lwfans blynyddol? 

Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn yw'r uchafswm y gellir ei gynilo i bensiwn cyn i ryddhad treth ddod i ben. 

Os byddwch yn mynd yn uwch na'ch lwfans bydd angen i chi dalu ffi treth lwfans blynyddol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu Treth Incwm ar yr arian a delir i'ch pensiwn uwchben y terfyn.

Y lwfans blynyddol safonol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 yw £60,000. Gall hefyd fod:

  • rhwng £10,000 a £59,999 os ydych yn ennill dros £200,000 ac mae'r lwfans blynyddol taprog yn berthnasol, neu  

  • £10,000 os ydych wedi cymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio (ar wahân i gyfandaliadau di-dreth) ac mae'r lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) wedi'i sbarduno. 

Sut ydw i’n gymwys i gael gostyngiad treth ar fy nghyfraniadau pensiwn? 

Ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio, i fod yn gymwys i gael gostyngiad treth: 

  • rhaid i gyfanswm eich cyfraniadau fod yn llai na (neu'n gyfartal â) y swm rydych yn ei ennill, ac

  • ni ddylai pob taliad mewn, gan gynnwys unrhyw un gennych chi a'ch cyflogwr, fod yn uwch na'ch lwfans blynyddol – £60,000 i'r mwyafrif.

Ar gyfer pensiynau buddion wedi'u diffinio, mae'r lwfans blynyddol yn cyfrif faint y mae eich pensiwn wedi cynyddu mewn gwerth yn ystod blwyddyn dreth, yn hytrach na faint a dalwyd i mewn. Ond mae angen i'ch cyfraniadau fod yn llai na (neu'n gyfartal â) y swm rydych yn ei ennill.  

Mae ein canllaw am y Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn esbonio sut mae'r cyfan yn gweithio'n llawn.

Nol i’r brig

Sut mae cario ymlaen yn gweithio 

Os yw eich cynilion pensiwn ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol yn uwch na'ch lwfans blynyddol (£60,000 ar gyfer y rhan fwyaf, gan gynnwys cyfraniadau gennych chi, eich cyflogwr a gostyngiad treth), fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth lwfans blynyddol.

Ond os gallwch 'gario ymlaen' lwfans blynyddol nas defnyddiwyd o'r tair blynedd dreth ddiwethaf, gallech leihau neu ddileu'r tâl treth. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Enghraifft: Os gwnaethoch dalu £35,000 i mewn uwchlaw'r lwfans blynyddol safonol o £60,000 y flwyddyn dreth hon, gallai unrhyw lwfans nas defnyddiwyd o dair blynedd yn ôl ei dalu yn lle.

Os nad oes digon, gallech gario ymlaen lwfans nas defnyddiwyd o ddwy flynedd yn ôl.

Cyn cario ymlaen
Blwyddyn dreth Eich lwfans blynyddol Taliadau i mewn i'ch pensiwn Lwfans nas defnyddiwyd

Presennol (2025/26)

£60,000

£95,000

-£35,000

2024/25

£60,000

£14,000

£46,000

2023/24

£40,000

£12,000

£48,000

2022/23

£40,000

£10,000

£30,000

Ar ôl cario ymlaen
Blwyddyn dreth Eich lwfans blynyddol Taliadau i mewn i'ch pensiwn Lwfans nas defnyddiwyd

Presennol (2025/26)

£60,000

£95,000

£0

2024/25

£60,000

£14,000

£46,000

2023/24

£40,000

£12,000

£43,000

2022/23

£40,000

£10,000

£0

Os ydych yn cyfrannu at bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, ni allwch gael gostyngiad treth ar fwy nag yr ydych yn ei ennill o hyd.

Felly, pe baech yn talu £75,000 o'r £95,000 i mewn a'ch cyflogwr wedi talu £20,000 i mewn, byddai angen i chi ennill o leiaf £75,000 yn y flwyddyn dreth hon i fod yn gymwys i gael cario ymlaen.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn dewis peidio â gwneud cyfraniadau gan gyflogwyr, byddai angen i chi ennill o leiaf £95,000 i fod yn gymwys i gario ymlaen.

Mae'r enghreifftiau hyn hefyd yn tybio eich bod wedi cael y lwfans blynyddol safonol ar gyfer pob blwyddyn dreth. Os ydych yn ennill dros £200,000 mewn blwyddyn dreth, efallai y bydd gennych Y lwfans blynyddol taprog ar gyfer cynilion pensiwn di-dreth rhwng £10,000 a £59,999 i gario ymlaen yn lle.  

Sut i ddefnyddio cario ymlaen 

Os gallwch ddefnyddio cario ymlaen i dalu'ch holl dâl treth lwfans blynyddol, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth mwy. Os bydd cario ymlaen yn lleihau eich tâl treth, bydd angen i chi dalu'r gweddill o hyd.

Sut i gyfrifo a thalu unrhyw dâl treth sy'n weddill 

Gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell ar GOV.UK i wirio a oes gennych ffi treth lwfans blynyddol Yn agor mewn ffenestr newydd

Mae dwy ffordd o dalu'r tâl treth lwfans blynyddol:

  1. Gofynnwch i'ch darparwr pensiwn dalu ar eich rhan. Gelwir hyn yn ‘cynllun yn talu' ac mae'n golygu y bydd eich buddion pensiwn yn cael eu lleihau. 

    Ond nid oes rhaid i'ch darparwr wneud hyn bob amser, gan gynnwys os yw'r tâl treth yn llai na £2,000. Gwelwch ar GOV.UK y rheolau am bwy sy'n gorfod talu'r tâl treth lwfans blynyddol ar bensiynauYn agor mewn ffenestr newydd

  2. Talu'r tâl treth eich hun.

Y naill ffordd neu'r llall, mae angen i chi lenwi ffurflen dreth HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd – mae hyn yn cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu neu ddweud wrth CThEF bod eich darparwr eisoes wedi'i dalu.

Am help gyda'r broses, gweler ein canllaw Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
Nol i’r brig

Defnyddio cario ymlaen ar gyfer taliadau pensiwn mawr neu afreolaidd 

Gall y rheolau cario ymlaen fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhoi hwb i'ch cynilion ymddeol os:

  • rydych chi am wneud cyfraniadau pensiwn mawr

  • yw eich enillion yn newid bob blwyddyn dreth – gan effeithio ar faint y gallwch ei elwa o ryddhad treth bob blwyddyn.

Os ydych chi'n ennill llai un flwyddyn na hoffech dalu i mewn, ystyriwch ledaenu eich taliadau ar draws nifer o flynyddoedd treth. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i’ch cyfraniadau
Nol i’r brig

Defnyddio cario ymlaen os ydych chi'n berchennog busnes bach

Os ydych yn rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun, fel arfer gallwch benderfynu pa daliadau i'ch pensiwn sy'n cael eu gwneud fel:

  • cyfraniadau personol gan eich cyflog

  • cyfraniadau gan eich cwmni.

Er mwyn i gyfraniadau gweithwyr fod yn gymwys i gael gostyngiad treth, ni allant fod yn uwch na chyfanswm eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth. Nid yw difidendau yn cyfrif fel enillion. 

Rhaid i bob cyflogwr a chyflogai fod o fewn eich lwfans blynyddol hefyd, gan gynnwys unrhyw lwfans y gallwch ei gario ymlaen.

Gellir didynnu cyfraniadau cyflogwr fel cost busnes 

Nid yw cyfraniadau cyflogwyr yn gymwys i gael gostyngiad treth, ond fel arfer gellir eu didynnu fel cost busnes i leihau faint o dreth gorfforaeth y mae angen i chi ei thalu.

Caniateir hyn cyn belled â bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn 'gyfan gwbl ac yn unigryw' at ddibenion busnes, sydd fel arfer yn golygu eu bod yn swm rhesymol am y gwaith sy'n cael ei wneud.

Er enghraifft, defnyddir symiau cyson ar gyfer unrhyw staff sy'n gwneud swyddi tebyg ac nid yw cyfraniadau pensiwn yn uwch nag elw blynyddol.

Am fwy o wybodaeth am y prawf  gyfan gwbl ac yn unigryw, gweler Llawlyfr Incwm Busnes CThEFYn agor mewn ffenestr newydd 

Mae'n syniad da siarad â chynghorydd ariannol, gan y gallant egluro'r rheolau a gweithio allan beth sydd orau i'ch sefyllfa.

Nol i’r brig

Ystyriwch gyngor gan gynghorydd ariannol 

Os ydych chi'n credu y gallai tâl treth lwfans blynyddol effeithio arnoch chi, ystyriwch gael cyngor gan gynghorydd ariannol rheoledig.

Gall cynghorydd eich helpu i ddeall:

  • faint yw eich lwfans blynyddol

  • yr hyn y gallwch ei gario ymlaen 

  • sut i leihau'r dreth y gallai fod angen i chi ei thalu

  • sut i dalu unrhyw ffioedd treth.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau. Gallwch:

  • ddefnyddio ein gwesgwrs
  • ffonio ar 0800 756 1012 neu +44 (0)20 7932 5780 os ydych tu allan i’r DU
  • Defnyddiwch ein ffurflen ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd 

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Treth a phensiynau

Treth ar eich cynilion pensiwn

  • Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i'ch cyfraniadau pensiwn
  • Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn
  • Y lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) ar gyfer cynilion pensiwn
  • Y lwfans blynyddol taprog ar gyfer cynilion pensiwn
  • Cario ymlaen: cynyddu eich lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Treth ar eich cynilion pensiwn

  • Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i'ch cyfraniadau pensiwn
  • Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn
  • Y lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) ar gyfer cynilion pensiwn
  • Y lwfans blynyddol taprog ar gyfer cynilion pensiwn
  • Cario ymlaen: cynyddu eich lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

WhatsApp

Nid yw WhatsApp ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Cysylltwch â ni drwy gwe-sgwrs neu ffôn.

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012