Mae cael cyfrif cynilo fel arfer yn hawdd - mae modd agor llawer ar-lein mewn ychydig funudau. Dyma sut i benderfynu pa fath sydd orau, cymharu’r cyfraddau uchaf a gwirio’n rheolaidd eich bod yn dal i gael y cytundeb gorau.
Cyfrifwch pa fath o gyfrif sydd orau
Bydd yr un sydd orau yn dibynnu ar beth rydych am ei wneud.
Talu arian i mewn a thynnu arian allan unrhyw bryd
|
Mae’r arian wrth law pan fyddwch ei angen. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau, y cynllun Cymorth i Gynilo sydd orau gan ei fod yn rhoi bonws o 50%. |
|
|
Mae’r holl log yn ddi-dreth. Gallwch gynilo hyd at £20,000. Gallwch gynilo hyd at £20,000 hyd at ddiwedd blwyddyn dreth 2026/27. O fis Ebrill 2027, bydd pobl sy’n iau na 65 oed yn gallu cynilo hyd at £12,000, a bydd y rheiny sy’n 65 oed neu’n hŷn yn gallu arbed hyd at £20,000. |
|
|
Rydych chi’n cael eich cynnwys mewn raffl fisol yn hytrach na chael llog wedi’i dalu. Gallwch gynilo hyd at £50,000. |
|
|
Efallai y bydd rhai cyfrifon banc yn talu llog ar symiau penodol, ond nid yw llawer yn gwneud hynny. |
Gweithio o amgylch cyfyngiadau i sicrhau’r enillion mwyaf posibl
|
Mae’n rhoi bonws o 25% ar gynilion a ddefnyddir ar gyfer ymddeol neu brynu cartref cyntaf. Mae angen i chi fod rhwng 18 a 39 oed i agor un. |
|
|
Mae’n gadael i chi gynilo swm misol penodol yn gyfnewid am gyfradd llog uwch. Ond efallai na fyddwch yn gallu tynny arian allan. |
|
|
Mae’n gwarantu cyfradd llog am gyfnod penodol rhwng chwe mis a saith mlynedd. Ond ni allwch dynny arian allan tan y diwedd. |
|
|
Os y byddwch yn talu treth ar log cynilion, gall y rhain dalu mwy na’r bondiau arferol uchod. Gallwch dynny arian allan neu gau’n gynnar, fel arfer am ffi. |
|
|
Cyfrifon rhybudd |
I dynnu arian allan fel arfer bydd angen i chi roi rhwng 30 a 120 diwrnod o rybudd. Efallai y byddwch yn gallu cael mynediad at eich cynilion yn gynt na hyn ond bydd ffioedd cosb. |
Gallwch gael nifer o gyfrifon cynilo, felly efallai y byddwch yn penderfynu mai agor mwy nag un math sydd orau. Er enghraifft, un ar gyfer cynilion brys y gallwch gael mynediad atynt ac un gydag arian y gallwch roi heibio am gyfradd uwch.
Os yw’ch banc yn cysylltu â chi am newid eich cyfradd llog, defnyddiwch hwn fel sbardun i siopa o gwmpas i weld a ellir cael gwell yn rhywle arall.
Cyfrifwch a fyddwch yn talu treth ar log cynilion
Mae faint o log di-dreth y gallwch ei ennill (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn dibynnu ar eich incwm blynyddol. Gweler sut mae treth ar gynilion yn gweithio am eglurhad llawn.
Mae llog yn cael ei gyfrif yn y flwyddyn dreth y gallwch gael mynediad iddo. Rhowch gynnig ar gyfrifiannell cynilo Banc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd i gyfrifo faint o log y byddech yn ei gael.
Os yw hyn yn fwy na’ch lwfans, chwiliwch am gyfrif cynilo di-dreth ar gyfer y gweddill.
Rhannwch eich arian os oes gennych fwy na £120,000
Mae'r £120,000 cyntaf y pen wedi'i ddiogelu. Yr eithriad yw NS&I, lle mae eich holl gynilion yn cael eu diogelu.
Mae'n werth nodi bod rhai brandiau bancio yn rhan o'r un grŵp a gallent rannu trwydded bancio. Er enghraifft, mae Halifax a Bank of Scotland yn frandiau gwahanol ond yn rhan o un grŵp bancio ac yn rhannu un 'drwydded bancio'.
Os oes gennych fwy na'r terfyn o fewn yr un banc neu sefydliad trwydded blaendal, ystyriwch symud y gormodedd i wneud yn siŵr bod eich arian wedi'i ddiogelu. Gallwch wirio a yw eich banciau'n rhannu trwydded a darganfod faint o'ch arian sydd wedi'i ddiogeluYn agor mewn ffenestr newydd gyda Gwiriwr Diogelu Banc a Chynilion yr FSCS.
Talu dyledion sy’n costio mwy nag y mae cynilion yn eu talu
Mae cynilion fel arfer yn talu cyfradd llog is na’r gyfraddau sy’n berthnasol i fenthyg. Felly, yn aml mae’n well i chi glirio dyled yn gyntaf. Gweler ein canllaw ar Sut i leihau benthyg ar gredyd am fwy o wybodaeth.
Cymharwch y cyfraddau uchaf
Mae’r safleoedd canlynol i gyd yn rhestru’r cyfrifon cynilo sy’n talu uchaf:
Moneyfacts’ best savings comparisonYn agor mewn ffenestr newydd
Which? round up of the best savings ratesYn agor mewn ffenestr newydd
Yna mae’n fater o agor eich cyfrif dewisol. Bydd llawer yn gadael i chi agor ar-lein mewn ychydig funudau, er bod opsiynau y gallwch agor mewn ap, dros y ffôn, drwy’r post neu mewn cangen.
Dylech bob amser wirio am unrhyw gyfyngiadau ar dynnu arian allan neu gosbau am gau’n gynnar. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon ond yn gadael i chi dynnu arian allan ar un diwrnod y flwyddyn.
Gwiriwch yn rheolaidd eich bod yn cael y gyfradd orau
Gall y gyfradd gynilo uchaf newid sawl gwaith y dydd, gyda banciau gwahanol yn cystadlu i fod y gorau. Felly, oni bai bod eich holl arian mewn bond cyfradd sefydlog, mae’n syniad da i wirio’n rheolaidd a ellir cael cyfradd well yn rhywle arall.
Os yw’ch banc yn cynyddu eich cyfradd, dylech barhau i siopa o gwmpas
Byddwch yn cael gwybod a fydd eich cyfradd llog yn cynyddu (neu’n gostwng) ymlaen llaw, fel arfer trwy e-bost neu lythyr. Defnyddiwch hwn fel sbardun i gymharu’r cyfraddau uchaf - os yw’ch banc wedi newid ei gyfradd, mae’n debygol bod eraill hefyd.
Rhaid i fanciau sicrhau eich bod ar gytundeb deg - ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod y gorau yn y farchnad.