Mae benthyca cyfoed i gyfoed (P2P) yn ffordd i bobl fenthyca arian i unigolion neu fusnesau. Rydych chi - fel rhoddwr y benthyciad - yn derbyn llog ac yn cael eich arian yn ôl pan fydd y benthyciad wedi ei ad-dalu. Ond gall benthyca P2P gyflwyno mwy o risg na chyfrif cynilo.
Beth yw benthyciadau cyfoed i gyfoed?
Mae gwefannau P2P yn debyg i farchnadoedd.
Maent yn uno pobl neu fusnesau sydd eisiau benthyca arian i’r rhai sydd eisiau benthyciad.
Mae’n ffordd i fenthycwyr gael cyllid heb fynd ar ofyn y banciau i'r ffynonellau cyllid traddodiadol, fel banciau a chymdeithasau adeiladu.
Darganfyddwch fwy am fenthyca cyfoed i gyfoed, gan gynnwys costau a phrosesau, yn ein canllaw Benthyca trwy blatfform cyfoed i gyfoed
Mae'r cyfraddau llog ar fenthyca P2P fel arfer yn uwch na'r rhai sydd ar gael o gyfrifon cynilo traddodiadol. A siarad yn gyffredinol, po uchaf yw'r gyfradd llog y bydd rhywun yn ei thalu, po uchaf yw'r risg na fyddant yn gallu ad-dalu'r benthyciad.
Ar rai gwefannau, bydd unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyg yn cael ei rannu’n awtomatig rhwng nifer o fenthycwyr, ond ag eraill gallwch ddewis i bwy yr hoffech roi benthyg arian iddynt.
Cychwyn arni â benthyciadau cyfoed i gyfoed
Os ydych eisiau rhoi benthyg arian, dylech gymharu darparwyr benthyciadau P2P yn gyntaf i ganfod yr un rydych hapusaf yn ei ddefnyddio.
Mae tri phrif gam:
- Agor cyfrif â darparwr benthyciadau P2P a thalu arian i mewn trwy gerdyn debyd neu drosglwyddiad uniongyrchol.
- Gosod y gyfradd llog yr hoffech dderbyn neu gytuno ar gyfradd sydd ar gael.
- Benthyg swm o arian am gyfnod penodedig o amser – er enghraifft, tair neu bum mlynedd. Efallai bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud benthyciad (h.y. 1% o’r benthyciad).
Mae gan rai darparwyr benthyciadau nodwedd ‘bidio awtomatig’.
Mae hyn yn golygu y gallwch osod terfyn ar faint rydych eisiau ei fenthyg i bob busnes a’r gyfradd llog isaf rydych yn fodlon ei derbyn.
Deall y risgiau
Mae sawl risg o fenthyca P2P.
Mae’n ddefnyddiol deall y risgiau hyn a sut i’w lleihau.
Y risg o ddiffygdalu
Efallai na fydd y person rydych yn benthyca arian iddo yn gallu ei ad-dalu (gelwir hyn yn ‘diffygdalu’).
Po fwyaf yw’r gyfradd diffygdalu ar y wefan P2P, po uchaf yw’r nifer o bobl neu fusnesau nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciadau.
Yn wahanol i gynilion banc a chymdeithas adeiladu, nid yw arian y byddwch yn ei fenthyg trwy wefan P2P wedi ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig os bydd y benthyciad yn methu neu os bydd y wefan P2P yn mynd i'r wal.
Ond mae gan nifer o wefannau P2P gronfeydd at raid neu ddarpariaeth, sydd wedi eu cynllunio i dalu os yw benthyciwr yn diffygdalu ar fenthyciad.
Mae’r cronfeydd darpariaeth hyn yn amrywio’n helaeth o un safle i’r llall, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi ei ddiogelu os ydych yn ystyried benthyg arian.
Y risg o ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr
Os yw’r benthyciad yn cael ei dalu’n gynnar neu’n hwyr, efallai y byddwch yn gwneud llai o elw nag y byddech yn ei ddisgwyl.
Os telir benthyciad yn gynnar, gallwch roi’r arian ar fenthyciad eto.
Ond mae perygl y na fyddwch yn gallu cynnig benthyciad ar yr un gyfradd.
Y risg y bydd y safle P2P yn mynd i’r wal
Gallech golli arian os yw’r cwmni P2P ei hun yn mynd allan o fusnes (mae nifer ohonynt wedi).
Fodd bynnag, os ydynt wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (fel mae rhaid i bob darparwr benthyciadau P2P sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig fod), mae rhaid iddynt gadw arian i’w fenthyg mewn cyfrifon neilltuol ar wahân i’w harian eu hunain.
Benthyciadau P2P a threth
Mae arian a enillir drwy fenthyciadau cyfoed i gyfoed yn cael ei gydnabod fel incwm fel arfer, ac felly mae’n drethadwy.
Oherwydd y lwfans cynilion personol, ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn talu treth o gwbl.
Mae’r lwfans cynilion personol yn caniatáu i drethdalwyr cyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log yn ddi-dreth. £500 yn unig o lwfans sydd gan drethdalwyr cyfradd uwch. Os ydych chi'n drethdalwr cyfradd ychwanegol, yna nid oes lwfans di-dreth.
Telir unrhyw log a enillir uwchben y lwfans ar eich cyfradd ffiniol uchaf o dreth.
Darganfyddwch fwy am y Lwfans Cynilo Personol yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Mae ISA Cyllid Arloesol (IFISA) newydd yn caniatáu i fenthyciadau P2P gael eu cadw mewn cyfrif cynilion unigol (ISA). Mae hyn yn golygu y gallwch gael llog o fenthyciadau P2P yn ddi-dreth ac osgoi cael eich trethu ar unrhyw dreth cyfalaf (yn berthnasol fel arfer â buddsoddiadau mawr iawn yn unig).
Mae IFISA yn caniatáu i roi benthyg hyd at derfyn cyffredinol o £20,000 fesul blwyddyn dreth (ar gyfer 2025/26). Rhennir y lwfans cyfraniad blynyddol o £20,000 rhwng yr holl wahanol fathau o ISAs: IFISAs, ISAs arian parod, ISAs gydol oes – sydd ag uchafswm lwfans blynyddol o £4,00 ar hyn o bryd – ac ISAs stociau a chyfranddaliadau.
Nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ISA i Gyllid a Thollau EM, nac ychwaith unrhyw enillion mewn IFISA.
Sefydliadau a allai helpu
Cyn i chi fenthyg trwy ddarparwr benthyciadau P2P, dylech wirio ei fod wedi ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gallwch wneud hyn trwy chwilio amdano ar Gofrestr yr FCA