Mae gan fuddsoddwyr ystod eang o gynhyrchion buddsoddi i ddewis ohonynt, pob un â'i fanteision a'i anfanteision ei hun. Yma edrychwn ar y prif fathau o fuddsoddiadau sydd ar gael a beth i'w ddisgwyl ganddynt.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cynhyrchion buddsoddi
Gallwch fuddsoddi'n uniongyrchol mewn asedau, fel cyfranddaliadau, ond mae ffordd fwy poblogaidd i fuddsoddi ynddynt yn anuniongyrchol trwy gronfa asedau. Dyma lle mae'ch arian yn cael ei gyfuno â buddsoddwyr eraill a'i wasgaru ar draws gwahanol asedau, gan helpu i leihau risg. Mae llawer o ffyrdd o gael gafael ar gronfeydd buddsoddi, megis trwy bensiynau personol, Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) a phensiynau gweithle.
Ffyrdd poblogaidd o fuddsoddi’ch arian
Byddwch yn ymwybodol y gall lefel y ffioedd a godir effeithio ar unrhyw enillion posibl y byddwch yn eu derbyn.
| Cynhyrchion buddsoddi (cynhyrchion anuniongyrchol y gellir cyrchu cronfeydd buddsoddi drwyddynt). | Sut mae’n gweithio |
|---|---|
|
Ffordd ddi-dreth o fuddsoddi mewn cyfranddaliadau neu gronfeydd buddsoddi, hyd at derfyn blynyddol (ar hyn o bryd £20,000 ar gyfer 2026/27). Mae llawer o ymddiriedolaethau uned ac OEICs yn dod wedi’u pecynnu ymlaen llaw fel ISAs. Fel arall, gallwch ddewis dros eich hun pa fuddsoddiadau a chronfeydd i'w rhoi yn eich ISA. |
|
|
Ffordd o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, â chyfraniad ‘atodol’ gan eich cyflogwr a rhyddhad treth gan y llywodraeth. Buddsoddir eich arian mewn cronfeydd cyfun. |
|
|
Ffordd o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, â rhyddhad treth gan y llywodraeth. Buddsoddir eich arian mewn cronfeydd cyfun. Gallwch gael pensiwn personol os nad oes mynediad gennych i bensiwn gweithle. Nid ydych eisiau colli allan ar gyfraniadau eich cyflogwr. |
Gallwch ddarganfod mwy am fuddsoddiadau prif ffrwdYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan FCA
Mae ein blog Risgiau buddsoddi a sgam gyda chryptoarian hefyd yn dweud wrthych am y risgiau sy'n ymwneud â chryptoarian a beth i wylio allan amdano
Faint o arian fyddwch chi'n ei gael yn ôl?
Gyda’r rhan fwyaf o fuddsoddiadau, nid oes unrhyw warant o sut y bydd eich buddsoddiad yn perfformio. Yn achos cyfranddaliadau cwmni, mae'n dibynnu'n bennaf ar berfformiad y cwmni, rhagolwg economaidd a disgwyliadau buddsoddwyr o sut y bydd y cwmni'n perfformio yn y dyfodol.
Gyda chronfeydd, mae'r swm a gewch yn ôl yn dibynnu ar ffactorau megis pa mor hir rydych chi wedi buddsoddi, y gymysgedd o fuddsoddiadau gwahanol yn y gronfa, perfformiad y buddsoddiadau hynny a'r ffioedd rydych chi'n eu talu.
Ffordd o ledaenu eich risgiau yw dewis amrywiaeth o 'ddosbarthiadau asedau' gwahanol. Er enghraifft, gallai hyn olygu dewis cronfa sy'n buddsoddi mewn cymysgedd o:
- arian parod
- bondiau
- cyfranddaliadau
- bondiau ac eiddo
- nifer o gronfeydd.
Pam mae ffioedd yn bwysig
Gall ffioedd a thaliadau leihau eich enillion buddsoddi, yn enwedig dros gyfnod hwy o amser. Pan fyddwch yn buddsoddi’n uniongyrchol, fel arfer bydd rhaid i chi dalu taliadau ‘delio’.
Mae'r ffioedd yn amrywio yn ôl y gronfa, cynnyrch a darparwr ac nid ydynt bob amser yn hawdd eu gweld. Efallai y bydd ffioedd hefyd am lwyfannau cronfa neu gyngor ariannol, yn dibynnu ar sut rydych yn prynu'ch cronfeydd.
Y rhif i edrych amdano mewn dogfennau cronfa fel y Ddogfen Gwybodaeth Buddsoddwyr Allweddol (KIID) yw'r Ffigur Taliadau Parhaus (OCF).
Mae'r OCF yn ystyried y tâl rheoli blynyddol (AMC) a holl gostau rhedeg y gronfa.
Camau nesaf
Unwaith y byddwch yn gwybod pa fath o fuddsoddiad, cronfa neu gynnyrch a allai fod yn addas i chi, rydych yn barod i feddwl am fuddsoddi.