Efallai’ch bod eisoes wedi penderfynu eich bod angen cynnyrch cynilo neu fenthyca, ond beth dylech ei ystyried wrth ddewis pa un sydd orau i chi? Byddwn yn dangos i chi beth dylech fod yn chwilio amdano i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cynnyrch addas i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gwylio’r gyfradd llog
P’un a ydych yn chwilio am gynnyrch cynilo (ISAs a chyfrifon cynilo) neu gynnyrch benthyca (benthyciadau a chardiau credyd), mae’r gyfradd llog yn bwysig.
I’w gwneud yn haws i gymharu cynnyrch yn erbyn ei gilydd, mae dau derm sy’n dangos cyfanswm y llog i chi am un flwyddyn:
- Cyfradd Flynyddol Gyfatebol (AER) – dyma gyfanswm y llog fyddwch yn ei dderbyn ar eich cynilion mewn un flwyddyn. Dangosir hyn fel canran, po fwyaf yw’r AER, y mwyaf o log fyddwch yn ei dderbyn.
 - Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) – mae hyn yn dangos cyfanswm y llog (gan gynnwys unrhyw daliadau neu ffioedd rheoli) y byddwch yn talu ar eich benthyca mewn un flwyddyn. Dangosir hyn fel canran, po fwyaf yw’r APR, y mwyaf y byddwch yn ei dalu am eich benthyciad.
 
Pan fyddwch yn chwilio am gynnyrch cynilion neu fenthyca, chwiliwch am yr AER neu APR i helpu eu cymharu
Talu dyled ddrud cyn cymryd mwy
Os oes gennych ddyled eisoes, mae'n bwysig ystyried ei ad-dalu cyn tynnu mwy neu ddewis rhoi unrhyw arian sydd gennych mewn cynilion.
Darganfyddwch fwy ynghylch a ddylid talu dyled neu roi arian mewn cynilion yn ein canllaw Sut i leihau benthyca ar gredyd
Peidiwch mond â dewis y gyfradd llog orau
Er bod y gyfradd llog yn bwysig iawn, ni ddylai fod yr unig beth rydych yn edrych amdano.
Efallai na fydd y cynnyrch â'r gyfradd llog orau bob amser yr un gorau i chi.
| Beth i’w wirio | Disgrifiad | 
|---|---|
| 
                             Balans agoriadol  | 
                    
                        
                             Faint fyddwch ei angen i agor cyfrif. Gall hyn amrywio o £0 i dros £1,000.  | 
                    
| 
                             Taliadau cyson  | 
                    
                        
                             Mae rhai cyfrifon cynilo yn gofyn i chi dalu swm penodol i mewn bob mis. Gydag eraill, gallwch roi un cyfandaliad i mewn a’i adael am faint o amser ag y mynnwch.  | 
                    
| 
                             Cyfnod rhybudd – pa mor fuan gallwch gael mynediad at eich arian  | 
                    
                        
                             Mae nifer o gyfrifon cynilo yn cynnig mynediad i chi ar unwaith, sy’n golygu y gallwch gael gafael ar eich arian pryd bynnag y mynnwch. Mae rhai yn cynnig cyfraddau llog uwch os byddwch yn rhoi rhybudd o 30 niwrnod neu hyd yn oed 90 niwrnod cyn cael eich arian.  | 
                    
| 
                             Nifer o alldyniadau – sawl gwaith y gallwch dynnu arian allan bob blwyddyn  | 
                    
                        
                             Mae rhai cyfrifon cynilo yn cyfyngu sawl gwaith gallwch dynnu arian allan bob blwyddyn. Fel arfer, y cyfrifon â’r nifer isaf o alldyniadau mewn blwyddyn yw’r rhai â’r gyfradd llog uchaf.  | 
                    
| 
                             Sut i gael mynediad at y cyfrif  | 
                    
                        
                             Mae’n werth edrych a allwch gael mynediad at eich cyfrif ar-lein, dros y ffôn, yn y gangen neu hyd yn oed trwy’r post. Os ydych yn hoffi bancio ar-lein, efallai y byddwch eisiau bancio yn defnyddio ap ar eich ffôn, neu negeseuon testun sy’n rhoi’ch balans i chi.  | 
                    
| 
                             Rhoddion am ddim  | 
                    
                        
                             Mae rhai banciau neu gymdeithasau adeiladu yn cynnig rhoddion deniadol am ddim am agor cyfrifon cynilo â hwy. Byddwch yn siŵr eich bod yn agor y cyfrif am mai dyma’r un sy’n bodloni’ch anghenion orau, nid dim ond oherwydd y rhoddion.  | 
                    
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
| Beth i’w wirio | Disgrifiad | 
|---|---|
| 
                             A oes arnoch wir angen benthyca?  | 
                    
                        
                             Y peth cyntaf y dylech ei wneud bob tro yw gwirio a ydych wir angen benthyg. Mae benthyg yn ymroddiad ariannol drud a mawr, felly peidiwch â benthyg oni bai’ch bod wir angen gwneud hynny.  | 
                    
| 
                             Y tymor – am ba hyd ydych yn benthyg yr arian  | 
                    
                        
                             Po fwyaf yw’r cyfnod hwn, po fwyaf y byddwch yn ei dalu’n ôl.  | 
                    
| 
                             A yw’r benthyciad yn warantedig neu’n anwarantedig?  | 
                    
                        
                             Mae benthyciad gwarantedig fel arfer wedi ei osod yn erbyn eich cartref neu gar. Mae hyn yn golygu os nad ydych yn gwneud y taliadau, mae perygl y bydd eich car yn cael ei adfeddiannu.  | 
                    
| 
                             Cosbau ad-dalu’n gynnar  | 
                    
                        
                             Mae rhai cynnyrch benthyca yn codi ffi gosb arnoch os ydych yn talu’r ddyled yn gynnar. Darganfyddwch a yw’n berthnasol i chi a faint fyddai hyn.  |