Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Ysgariad a gwahanu
Teulu a gofal Ysgariad a gwahanu

Cael ysgariad neu ddiddymiad yn y DU

Mae'r broses o gael ysgariad neu roi terfyn ar bartneriaeth sifil (diddymiad) yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y DU. Gall fod yn gymhleth os ydych chi a'ch partner yn anghytuno ynghylch sut i rannu arian, asedau neu ofal plant, felly ceisiwch gyngor cyfreithiol neu ariannol bob tro os bydd hyn yn digwydd. Yn y canllaw hwn, byddwn yn esbonio'r pethau sylfaenol ac yn dangos i chi ble y gallwch fynd am fwy o wybodaeth.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Nghymru a Lloegr
  • Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban
  • Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Ngogledd Iwerddon
  • Sut i baratoi ar gyfer ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil

Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Nghymru a Lloegr

Sut mae'n gweithio

Yng Nghymru a Lloegr, mae'r broses i roi terfyn ar eich priodas (ysgariad) neu bartneriaeth sifil (diddymiad) yr un peth.

Mae angen i chi wneud cais i'r llys a dweud wrthynt fod eich perthynas wedi dod i ben yn barhaol. Gwneir hyn ar-lein, drwy'r post neu drwy eich cyfreithiwr.

Dim ond un cais sydd ei angen, felly gallwch wneud hyn ar eich pen eich hun (cais unigol) neu gyda'ch partner (cais ar y cyd).

Nid oes rhaid i chi roi rheswm na rhoi’r bai ar eich partner – gelwir hyn yn ysgariad neu ddiddymiad 'di-fai'. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni all eich cyn-bartner atal yr ysgariad neu'r diddymiad oherwydd eu bod yn anghytuno ag ef yn unig.

Y cynharaf y gallwch wneud cais yw'r diwrnod ar ôl eich pen-blwydd priodas cyntaf.

Faint mae ysgariad neu ddiddymiad yn ei gostio yng Nghymru a Lloegr?

Y ffi ymgeisio gychwynnol yw £612. Mae hyn yn dechrau'r broses i ddod â'ch perthynas i ben yn gyfreithlon. 

Gall ffioedd llys newid felly gwiriwch ffioedd yn y llys sifil a theuluYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK cyn i chi wneud cais.

Bydd costau eraill hefyd yn berthnasol, fel ffioedd cyfreithwyr, ond bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Os ydych ar fudd-daliadau penodol neu os oes gennych incwm isel ac efallai y byddwch yn cael trafferth talu'r ffi llys, mae gan GOV.UK fanylion ar sut i gael help gyda ffioedd llysYn agor mewn ffenestr newydd

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Nghymru a Lloegr?

Mae'r broses gyfan fel arfer yn cymryd o leiaf 6 mis.

Mae isafswm cyfnod aros wedi'i gadarnhau i roi amser i chi fyfyrio ar eich penderfyniad.

Yna rhaid i chi aros 20 wythnos ar ôl i'r llys gyhoeddi eich cais cyn y gallwch wneud cais am y gorchymyn amodol (y cyntaf o'r ddau orchymyn ysgariad neu ddiddymiad).

Ar ôl i'ch gorchymyn amodol gael ei gyhoeddi, mae'n rhaid i chi aros o leiaf 6 wythnos ac 1 diwrnod cyn y gallwch wneud cais am y gorchymyn terfynol (yr ail o'r ddau orchymyn).

Ers Ebrill 2022, mae'n llawer anoddach i un person ddadlau unrhyw ran o'r broses ysgariad. Ond gall gymryd mwy o amser os oes oedi gyda'r gwaith papur neu gyflwyno'r cais neu os oes angen i chi drefnu trefniadau ariannol.

Os ydych chi neu'ch partner yn dadlau unrhyw ran o'r broses, gall gymryd mwy o amser.

Cyn i chi wneud cais

Dylech chi a'ch partner geisio cytuno:

  • sut i rannu'r arian a'r asedau rydych chi'n eu rhannu
  • pwy sy'n gyfrifol am unrhyw ddyled sydd gennych
  • beth sy'n digwydd i'ch cartref teuluol (megis pwy sy'n talu'r morgais neu'r rhent)
  • y trefniadau byw a/neu gynhaliaeth ar gyfer unrhyw blant rydych chi'n eu rhannu.

Mae'n bwysig cofio, er bod ysgariad neu ddiddymu yn dod â'ch perthynas i ben yn gyfreithlon, nid yw'n datrys eich cyllid yn awtomatig.

Gall ein cyfrifiannell ysgariad ac arian eich helpu i weithio allan beth sydd gennych, beth sy'n ddyledus i chi a sut y gallech rannu asedau a chyllid. Sut bynnag y byddwch chi'n dod i gytundeb ariannol, dylech sicrhau ei fod yn gyfreithiol rwymol trwy ei droi'n orchymyn llys. 

Gallwch wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad o hyd os ydych chi'n anghytuno ar y pethau hyn, ond efallai y byddwch yn elwa o gael cyngor cyfreithiol neu ariannol.

Gall cyfreithiwr neu gyfryngwr helpu, yn enwedig os na allwch gytuno ar gytundeb ariannol. Ewch i Cymdeithas y CyfreithwyrYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Ble i ddarganfod mwy

Am ganllaw cam wrth gam gan gynnwys sut i wneud cais i'r llys, ewch i:

  • Cael ysgariadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
  • Dod â phartneriaeth sifil i benYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nôl i'r brig

Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban

Sut mae'n gweithio

Yn yr Alban, mae ysgariad neu ddiddymiad yn broses un cam; mae'r rhan fwyaf o gyplau yn cytuno ar drefniadau ariannol a gofal plant yn gyntaf ac yna’n gwneud cais am ysgariad neu ddiddymiad.

Gallwch wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil os ydych wedi gwahanu am:

  • o leiaf un flwyddyn (os yw'r ddau bartner yn cytuno), neu
  • dwy flynedd (os nad yw un partner yn cytuno).

Gallwch hefyd wneud cais ar unwaith os yw godineb neu ymddygiad afresymol wedi digwydd.

Mae dwy weithdrefn y gallwch eu defnyddio:

  • gwneud hyn eich hun / DIY (a elwir hefyd yn weithdrefn symlach), neu
  • y cyffredin (a elwir hefyd yn weithdrefn heb ei symleiddio).

Byddwch yn codi cais yn y llys siryf neu Llys y Sesiwn. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n gwneud cais, mae gwahanol ffioedd, taliadau, gweithdrefnau i'w dilyn a ffurflenni i'w llenwi.

DIY neu ysgariad neu ddiddymiad symlach

Gallwch ddefnyddio'r opsiwn DIY os yw'r holl ddatganiadau canlynol yn berthnasol i'ch sefyllfa:

  • Rydych chi'n gwneud cais oherwydd chwalfa anadferadwy eich priodas neu bartneriaeth sifil, yn seiliedig ar flwyddyn o wahanu gyda chaniatâd neu ddwy flynedd o wahanu heb ganiatâd, neu oherwydd bod tystysgrif cydnabod rhywedd dros dro wedi’i rhoi.
  • Nid oes plant o'r briodas na'r bartneriaeth o dan 16 oed.
  • Nid oes unrhyw faterion ariannol i'w datrys.
  • Nid oes unrhyw achos llys arall ar y gweill a allai arwain at ddiwedd eich priodas neu bartneriaeth sifil.

Mae gofynion preswylio i'w bodloni hefyd, ond mae'r rhain yn wahanol yn dibynnu ar ba lys rydych chi'n gwneud cais iddo.

Nid yw'r weithdrefn symlach ar gael os nad oes gennych chi neu'ch cyn-bartner 'gallu cyfreithiol' i gydsynio, er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd meddwl.

Darganfyddwch fwy am y weithdrefn Syml/Gwna dy hunYn agor mewn ffenestr newydd ar Scottish Courts and Tribunals Service

Ysgariad neu ddiddymiad cyffredin neu heb ei symleiddio

Rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio'r weithdrefn arferol / heb ei symleiddio os yw eich ysgariad neu ddiddymiad yn fwy cymhleth.

Mae hyn yn cynnwys:

  • os nad yw'ch sefyllfa yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cais DIY
  • os ydych chi neu'ch partner yn herio'r ysgariad neu'r diddymiad.

Mae'r weithdrefn gyffredin yn broses fwy cymhleth a drud. Nid oes ffurflen gais benodol, ac mae ganddi sawl cam, felly bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol cymwys – gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal gan ddefnyddio Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd ddarllen mwy am y weithdrefn gyffredin/heb ei symleiddioYn agor mewn ffenestr newydd ar Scottish Courts and Tribunals Service.

Faint mae ysgariad neu ddiddymiad yn ei gostio yn yr Alban?

Mae cost ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban yn amrywio yn dibynnu:

  • a allwch wneud cais gan ddefnyddio'r weithdrefn DIY neu'r weithdrefn arferol, ac
  • os ydych chi neu'ch partner yn herio.

Ar gyfer cais DIY/symlach lle mae'r ddau bartner yn cytuno, y ffi yw £156 (ynghyd â ffioedd llys).

Ar gyfer cais Cyffredin/heb ei symleiddio, cost eich cais cychwynnol yw £191, ond byddwch hefyd yn talu ffioedd cyfreithiwr a ffioedd llys y siryfYn agor mewn ffenestr newydd ychwanegol  ar gyfer pob cam o'r broses.

Gwiriwch  Ganllaw Scottish Courts and Tribunals Service am Ffioedd LlysYn agor mewn ffenestr newydd cyn gwneud cais.

Mae llawer o gyfreithwyr yn cynnig pecynnau ffioedd sefydlog os ydych chi a'ch partner eisoes yn cytuno ar fanylion eich gwahanu. Gelwir hyn yn ysgariad neu ddiddymiad 'heb ei amddiffyn'.

Ar gyfer achosion mwy cymhleth neu ddadleuol (amddiffynedig), mae'n debygol y bydd y gost yn £1,000 neu fwy.

Os na allwch fforddio talu eich ffioedd ysgariad/diddymiad eich hun, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am gymorth - ewch i mygov.scot i ddarganfod Sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol sifilYn agor mewn ffenestr newydd

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban?

DIY neu ysgariad neu ddiddymiad symlach

Os yw'r ddau bartner yn cytuno ac nad oes plant neu anghydfodau ariannol, gall y broses DIY gymryd cyn lleied â 6 i 10 wythnos.

Ysgariad neu ddiddymiad cyffredin neu heb ei symleiddio

Os yw'r ddau bartner yn cytuno ac nad oes plant neu anghydfodau ariannol, gall y broses arferol gymryd rhwng 3 a 6 mis. Bydd ceisiadau cymhleth neu ddadleuol am ysgariad neu ddiddymiad yn cymryd mwy o amser.  

Ble i ddarganfod mwy

Mae gan Citizens Advice Scotland ganllawiau defnyddiol sy'n dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wybod:

  • YsgaruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Dod â phartneriaeth sifil i benYn agor mewn ffenestr newydd

Neu gallwch ymweld â’r Scottish Courts and Tribunals ServiceYn agor mewn ffenestr newydd i gael arweiniad ar y broses ysgariad a diddymiad yn yr Alban, gan gynnwys ffurflenni y gellir eu lawrlwytho a gwybodaeth lawn am ffioedd.

Nôl i'r brig

Sut i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Ngogledd Iwerddon

Sut mae'n gweithio

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r dull o wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil yr un peth.

Mae'r broses yn cael ei ddechrau pan fyddwch yn cyflwyno cais ffurfiol i'r Swyddfa PriodasolYn agor mewn ffenestr newydd (a elwir yn cyflwyno deiseb) a talu'r ffi llys.

Y cynharaf y gallwch gyflwyno deiseb yw ar ôl eich ail ben-blwydd eich priodas, os yw'ch partner yn cytuno (yn cydsynio).

Rhaid i'ch deiseb gynnwys un o'r rhesymau canlynol dros chwalu'r berthynas:

  • gwahanu am ddwy flynedd (gyda chaniatâd eich partner)
  • pum mlynedd o wahanu
  • ymddygiad afresymol
  • eich partner wedi gadael
  • godineb (ar gyfer deisebau ysgariad yn unig).

Mae pwy bynnag sy'n ffeilio'r ddeiseb gyda'r Swyddfa Priodasol yn cael ei adnabod fel y deisebydd, a'u partner yw'r ymatebydd.

Oes angen cyfreithiwr arnoch?

Ni fydd angen cyfreithiwr arnoch i gyflwyno deiseb os yw'r ddau ohonoch yn cytuno:

  • bod eich perthynas drosodd, ac
  • ni fydd un ohonoch yn herio'r ddeiseb.

Gallwch ddefnyddio canllaw yr Adran Gyfiawnder Cael ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifilYn agor mewn ffenestr newydd i wneud cais heb gyfreithiwr.

Pan fydd angen cyfreithiwr arnoch

Os na allwch gytuno ar fanylion eich gwahanu, dylech logi cyfreithiwr.

I ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal chi, ewch i Law Society of Northern Ireland Yn agor mewn ffenestr newydd

Faint mae ysgariad neu ddiddymiad yn ei gostio yng Ngogledd Iwerddon?

Y ffi gychwynnol ar gyfer cyflwyno deiseb ysgariad neu ddiddymiad yw £326.

Mae costau cyfreithiol yn amrywio wrth i'r broses symud ymlaen. Byddwch chi'n talu llai os ydych chi'n cytuno a mwy os yw'ch ysgariad yn gymhleth:

  • Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno, ffi'r Llys Sirol yw £407.
  • Os gwrthwynebir y ddeiseb, ffi'r Uchel Lys yw £488.

Gall ffioedd llys newid, felly gwiriwch y costau ar Northern Ireland Department of JusticeYn agor mewn ffenestr newydd cyn gwneud cais.

Efallai y byddwch yn gallu cael help gyda ffioedd os ydych ar fudd-daliadau neu os oes gennych incwm isel, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael ysgariad neu ddiddymiad yng Ngogledd Iwerddon?

Fel arfer mae'n cymryd rhwng 4 a 6 mis, er y gall gymryd mwy o amser os yw trefniadau ar gyfer plant neu gyllid yn gymhleth.

Ble i ddarganfod mwy

Defnyddiwch ganllaw nidirect Cael ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifilYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i wybodaeth fanwl am ysgariad a diddymiad yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys sut i wneud cais a beth sy'n digwydd nesaf. 

Nôl i'r brig

Sut i baratoi ar gyfer ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil

Gall fod yn amser emosiynol, ond mae'n bwysig dechrau'n ymarferol a nodi unrhyw arian a phethau eraill o werth sydd wedi'u caffael yn ystod eich priodas neu bartneriaeth sifil.

Efallai y bydd creu rhestr o bethau fel eiddo, buddsoddiadau a chynilion yn ymddangos yn amlwg, a pheidiwch ag anghofio am bensiynau - gallant fod eich asedau mwyaf a gallant hyd yn oed fod yn werth mwy na'ch cartref. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i rannu pensiynau wrth ysgaru neu ddiddymu.   

Cyfrifiannell ysgariad ac arian

Meddwl am ysgariad neu am ddod â'ch partneriaeth sifil i ben? Mae ein cyfrifiannell yn dangos beth sydd gennych, pa ddyled sydd gennych a sut y gallech rannu'ch arian a'ch asedau.

 

Lawrlwythwch ein taenlen Cyfrifiannell Ysgariad ac arianYn agor mewn ffenestr newydd (XLSX, 80KB)

Nôl i'r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Ysgariad a gwahanu

Ysgariad a gwahaniad

  • Cytundebau gwahanu os ydych yn ystyried ysgariad neu ddiddymiad
  • Ysgariad neu ddiddymiad DIY (ei wneud eich hun)
  • Canllaw i ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
  • Toriad llwyr neu gynhaliaeth i gymar ar ôl ysgariad neu ddiddymiad
  • Cael ysgariad neu ddiddymiad yn y DU

Ysgariad a gwahaniad

  • Cytundebau gwahanu os ydych yn ystyried ysgariad neu ddiddymiad
  • Ysgariad neu ddiddymiad DIY (ei wneud eich hun)
  • Canllaw i ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
  • Toriad llwyr neu gynhaliaeth i gymar ar ôl ysgariad neu ddiddymiad
  • Cael ysgariad neu ddiddymiad yn y DU
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012