Rhaid i chi roi gwybod i’r canlynol:
Bydd angen i chi hefyd anfon copïau ardystiedig o’r atwrneiaeth.
Os bu farw’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cynhwyswch gopi o’r dystysgrif marwolaeth.
Bydd eich atwrneiaeth yn cael ei chanslo os:
- oedd yr atwrnai a fu farw eich unig atwrnai, neu
- bydd atwrnai’n marw a bu’n rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd (a elwir yn weithredu ‘ar y cyd’).
Bydd eich atwrneiaeth yn cael ei ddiweddaru:
- os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn weithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’).
Rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon eich atwrneiaeth yn ôl.