Cyfrifiannell cynilo
Croeso i'r Gyfrifiannell Cynilo. Mae yma i'ch helpu i gyrraedd eich nodau cynilo, cyfrifo faint o log rydych yn ei ennill a gwneud penderfyniadau ariannol gwell.
P'un ag ydych angen gwybod faint o amser fydd yn ei gymryd i gyrraedd swm targed - neu faint y mae angen i chi ei roi ar un ochr yn rheolaidd i gyrraedd terfyn cynilo, gall y Gyfrifiannell cynilo eich helpu i osod targed, aros ar y trywydd iawn a chyrraedd eich nod.
Sut mae'r Gyfrifiannell cynilio yn gweithio
1. Mae'n dangos i chi faint o amser fydd yn ei gymryd i gyrraedd eich nod
Os ydych eisoes yn gwybod faint y gallwch ei gynilo'n rheolaidd, bydd y Gyfrifiannell cynilo yn dangos i chi faint o amser fydd yn ei gymryd.
2. Mae'n dangos i chi faint fydd angen i chi ei roi ar un ochr
Os oes gennych derfyn amser y mae angen i chi ei fodloni, bydd y gyfrifiannell cynilo yn dangos i chi faint y mae angen i chi roi ar un ochr yn rheolaidd.
Faint o amser fydd yn ei gymryd i gyrraedd fy nod cynilo?
P'un ag ydych eisiau adeiladu eich cynilon wrth gefn neu gynilo ar gyfer eitem benodol, gall y Gyfrifiannell cynilo eich helpu i gael syniad faint o amser fydd yn ei gymryd. Gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell i weld y gwahaniaeth y gall ychydig o bunnoedd ychwanegol ei wneud.
Manteision o ddefnyddio'r Gyfrifiannell cynilio
Nid yw cynilo byth yn hawdd, dyna pam rydym hefyd wedi cynnwys awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu defnyddio ar unwaith a all eich helpu i wneud y gorau o'ch arian.
Trwy ddefnyddio'r Gyfrifiannell bynilo byddwch yn:
- Cynilo yn ddoethach – trwy gael syniad clir o'r swm cywir y mae angen i chi ei gynilo.
- Dechrau eich cynllun cynilo – trwy gynllunio ymhell cyn unrhyw derfyn amser gallech leihau eich angen i fenthyca ar gyfer treuliau annisgwyl.
- Gwneud i'ch cynilion weithio'n galetach – trwy weld y llog y mae eich cynilion yn ei ennill gallwch siopa o gwmpas yn haws am y cyfraddau gorau. Os nad ydych wrthi yn sicrhau eich bod yn cael y gyfradd orau bosibl, rydych mewn perygl o golli allan - nid yn unig mewn llog ychwanegol ond yn dibynnu ar ba mor hirdymor yw eich nodau, mae chwyddiant, y cynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau, yn golygu eich bod angen mwy o arian i brynu'r un peth.
Darganfyddwch fwy am gynilion yn Sut i gynilo.
Mae llog yn arian ychwanegol y mae sefydliad ariannol yn ei dalu i chi am ddal eich arian. Y gyfradd llog ar eich cynilion yw'r swm o arian y byddwch yn ei ennill ar eich arian.
Er enghraifft, os oes gennych £100 yn eich cyfrif ac mae’r gyfradd llog flynyddol yn 3.5%, byddwch yn ennill £3.50 mewn llog erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn dod â balans eich cyfrif i £103.50. Gallwch weld eich cyfradd llog ar ddatganiad eich cyfrif. Ddim yn siŵr neu eisiau gwybod mwy am gyfraddau llog? Gweler ein canllaw – Egluro cyfraddau llog.
Gallai swm y llog rydych yn ei ennill fod yn wahanol os yw'r gyfradd llog yn newid neu'r balans yn eich cyfrif cynilo yn amrywio yn ystod y cyfnod y cyfrifwyd y llog.
Nid oes dim ond un ffordd i gynilo arian. Yn dibynnu ar eich nodau a'ch amgylchiadau, efallai y byddai'n well gennych ddal eich cynilion mewn math arbennig o gyfrif cynilo. Mae gan wahanol gyfrifon wahanol nodweddion y gallech eu gweld yn ddefnyddiol i'ch nodau – fel cael mynediad hawdd, lleihau'r dreth rydych yn ei dalu ar eich llog neu roi mwy o log i chi ond cloi eich cynilion i ffwrdd am nifer o flynyddoedd.
Os ydych yn drethdalwr yn y DU, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y llog rydych yn ei ennill ar eich cynilion, ac eithrio ISAs Arian Parod.
Mae gan y rhan fwyaf o oedolion y DU lwfans cynilo personol, sy'n gadael i drethdalwyr cyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 mewn llog heb dalu treth, a gall trethdalwyr cyfradd uwch ennill £500 yn ddi-dreth.
Mae hefyd gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion, hyd at £5,000. Mae hyn yn golygu bod y £5,000 cyntaf o incwm o gynilion yn ddi-dreth, ar yr amod bod cyfanswm eich incwm a enillir neu bensiwn yn is na £17,570 ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Mae hyn yn caniatáu i rai pobl dderbyn hyd yn oed mwy o log heb dalu treth.
Gweler ein canllaw ar Gynilion a buddsoddiadau.