Mae apwyntiad Pension Wise am ddim yn esbonio’r opsiynau ar gyfer cymryd arian o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae’n ddiduedd ac yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth.
Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad
Byddwch yn darganfod:
pryd y gallwch gael mynediad i’ch cronfa bensiwn
y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd arian o’ch pensiwn
sut mae pob opsiwn fel arfer yn cael eu trethu
sut i weld ac osgoi sgamiau.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch gael apwyntiad os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU ac os ydych yn:
50 neu’n hŷn
dan 50 oed ac wedi:
- etifeddu pensiwn rhywun arall neu
- ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu gofynnwch i’ch darparwr pensiwn. Does dim gwahaniaeth faint yw gwerth eich pensiwn.
Sut i gael apwyntiad
Gallwch gael apwyntiad ar-lein ar unrhyw adeg neu gadw dyddiad ac amser gydag un o’n harbenigwyr pensiwn.

Help os nad ydych yn gymwys ar gyfer Pension Wise
Gallwn helpu o hyd os nad ydych chi’n gymwys i gael Pension Wise. Gallwch:
ddefnyddio ein canllawiau a theclynnau pensiwn
cysylltu â’n harbenigwyr pensiwn am arweiniad am ddim trwy:
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.