Cyfrifiannell pensiwn
Faint rydych ei angen ar ôl ymddeol a faint ydych chi'n mynd i'w gael? Dyna'r cwestiynau y bydd ein cyfrifiannell pensiynau yn eich helpu i'w hateb.
Mewn cwpl o funudau yn unig, fe gewch:
- Rhagolwg o'r incwm pensiwn tebygol y byddwch yn ei gael pan fyddwch chi'n ymddeol.
- Bydd eich rhagolwg yn cynnwys incwm o bensiynau buddion wedi’u diffinio a chyfraniadau wedi’u diffinio, a'ch Pensiwn y Wladwriaeth.
- Incwm ymddeol targed i anelu ato, gan ystyried eich cyflog.
A phan gewch eich canlyniadau, gallwch newid eich oedran ymddeol i weld sut mae hynny'n effeithio ar eich incwm. Gallwch hefyd weld sut mae cyfraniadau uwch neu gymryd cyfandaliad di-dreth llai yn effeithio ar eich pensiwn blynyddol.
Byddwn hefyd yn rhoi rhai camau nesaf i chi eu cymryd os gallai eich incwm pensiwn fod yn llai na'r hyn rydych ei eisiau.