Dysgu mwy am forgeisi
Mae morgais yn fenthyciad mawr, fel arfer gan fanc neu gymdeithas adeiladu, sy’n eich galluogi i fenthyg arian i brynu eiddo, fel tŷ, fflat neu ddarn o dir.
Rydych chi’n ad-dalu’r swm a fenthycwyd, ynghyd â llog, dros amser y cytunwyd arno. Gallai hyn fod mor hir â 40 mlynedd gyda rhai benthycwyr, yn dibynnu ar eich oedran a’r hyn y gallwch ei fforddio.
Mae eich cartref yn gweithredu fel ‘diogelwch’ ar gyfer eich benthyciad morgais, sy’n golygu, os nad ydych chi’n cadw i fyny ag ad-daliadau, gall y benthyciwr werthu’r eiddo i glirio’r ddyled.
Dyma’r taliad misol rheolaidd a wneir gennych chi (y benthyciwr) i’r benthyciwr arian (fel banc) i ad-dalu’r arian rydych chi wedi’i fenthyg, ynghyd ag unrhyw log sy’n berthnasol.
Byddwch chi a’r benthyciwr arian yn cyfrifo pryd a faint y byddwch chi’n ei dalu bob mis pan fyddwch chi’n cymryd eich morgais.
Pan fyddwch chi’n cymryd benthyciad morgais, mae’r benthyciwr arian yn codi llog arnoch ar y swm a fenthycwch. Mae’r llog hwn yn ganran o swm eich benthyciad ac yn ychwanegu at eich ad-daliadau morgais misol.
Os bydd eich cyfradd llog morgais yn newid, bydd eich ad-daliadau hefyd yn newid. Gwiriwch y gallwch fforddio eich ad-daliadau os yw’r gyfradd yn cynyddu.
Mae dau brif fath o forgeisi:
- Cyfradd sefydlog: Mae’r gyfradd llog yn aros yr un fath am gyfnod penodol, fel arfer 2 i 10 mlynedd.
- Cyfradd amrywiol: Gall y gyfradd llog newid. Mae hyn yn cynnwys morgeisi traciwr a chyfradd ostyngol.
A gallwch ddewis sut i ad-dalu’r morgais:
- Ad-daliad cyfalaf: Rydych chi’n talu rhan o’r benthyciad a’r llog yn ôl bob mis.
- Llog yn unig: Rydych chi’n talu’r llog yn unig bob mis ac yn ad-dalu’r benthyciad ar ddiwedd y tymor.
Mae manteision ac anfanteision i bob morgais, felly siaradwch â chynghorydd morgais i ddod o hyd i’r opsiwn gorau i chi. Gallwch hefyd ddarllen ein canllaw Deall morgeisi a chyfraddau llog.
Teclynnau neu gyfrifianellau eraill i roi cynnig arnynt
Cael help gyda morgeisi a phrynu cartrefi
Delio â phroblemau gyda’ch morgais
Perchnogaeth cartref yn ddiweddarach mewn bywyd
Camau nesaf
Dechreuwch adeiladu eich blaendal gyda’n Cyfrifiannell cynilo
Dysgwch sut i wneud y gorau o’ch arian gyda’n Cynlluniwr cyllideb