Sut mae’r Cyfrifiannell cyflog yn gweithio
- atebwch rai cwestiynau allweddol
- cynnwys manylion ychwanegol dewisol am eich cyfraniadau pensiwn neu ad-daliadau benthyciad myfyrwyr
- dewis i gymharu i ail gyflog
- cael amcangyfrif o’ch tâl cymryd adref ar ôl treth a’ch didyniadau.
Sut gallai’r Cyfrifiannell cyflog eich helpu i reoli eich arian
- yn rhoi darlun clir o’ch enillion ar ôl treth a didyniadau eraill, fel y gallwch gymryd rheolaeth dros eich gwario a chynilo.
- yn dangos sut gallai gyflog gwahanol effeithio ar eich tâl cymryd adref – os ydych chi’n ystyried newid swydd neu oriau.
- yn eich helpu i greu cyllideb realistig.
Ydy’ch oriau yn cynyddu a gostwng?
Os nad ydych yn gweithio’r un oriau pob wythnos neu fis, gallwch dal ddefnyddio’r Cyfrifiannell cyflog i gael syniad o’ch cyflog cymryd adref – ond efallai bydd Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd yn fwy o help i chi.
Ydych chi’n hunangyflogedig?
Os ydych chi’n hunangyflogedig nid yw’r Cyfrifiannell cyflog i chi. Mae hyn oherwydd bod y cyfrifiannell yn cyfrifo’ch tâl yn seiliedig ar y system dreth Talu Wrth Ennill (PAYE) ac Yswiriant Gwladol. Pan rydych chi’n hunangyflogedig mae’r ffordd rydych chi’n talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gweithio’n wahanol.