Mae ein tîm Partneriaethau yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn hapus i weithio â phob sefydliad. Gallwn eich helpu i ddarparu arweiniad diduedd, clir, rhad ac am ddim i’ch cwsmeriaid, cleientiaid a chynulleidfaoedd, â chefnogaeth y llywodraeth, sy’n eu rhoi mewn rheolaeth dros eu dewisiadau arian a phensiwn.
Gallwch ailgyhoeddi, creu dolen i, a rhannu ein harweiniad arian a phensiynau ar HelpwrArian, fel erthyglau, teclynau a fideos, o fewn eich sianelau cyfathrebu eich hun - i gyd ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae creu dolen i’n cynnwys am ddim
Nid ydych angen ein caniatâd i greu dolen o’ch gwefan ag unrhyw ran o’r cynnwys ar wefan HelpwrArian - rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn argymell ein harweiniad i’ch defnyddwyr.
Rydym yn argymell darllen trwy ein canllaw arfer gorau wrth greu dolenni i’ch helpu i wneud y gorau o’n cynnwys.
Gallwch hefyd lawrlwytho ein pecyn cymorth HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd (ZIP, 70MB) i gael mynediad i’n logos a’n canllawiau brand.
Os ydych angen rhywfaint o help
Os hoffech gael unrhyw arweiniad ar y cynnwys mwyaf priodol i greu dolen iddo, neu os hoffech drafod unrhyw beth pellach, peidiwch ag oedi cyn e-bostio ein tîm Partneriaethau, neu fel arall dewch o hyd i’ch rheolwr rhanbarthol perthnasol a fydd yn hapus i helpu.
Defnyddio ein cynnwys
Teclynnau a chyfrifianellau
Gallwch osod nifer o’n teclynnau ar eich tudalennau gwe. Gallwch weld y rhestr lawn o gynnwys bydd wedi’i syndiceiddio a gofyn am y codau gosod diweddaraf ar ein gwefan.
Canllaw ac erthyglau gwybodaeth
Os hoffech ddefnyddio unrhyw ran o’n cynnwys ysgrifenedig, ebostiwch ein tîm PartneriaethauYn agor mewn ffenestr newydd.
Ein nod yw sicrhau unwaith y bydd y cynnwys wedi’i syndiceiddio, ein bod yn gofalu ei gadw’n gyfoes.
Fideos
Gellir creu dolen i neu osod unrhyw un o’n fideos i’ch gwefan sianeli cyfathrebu eraill drwy YouTube.
I gael mwy o wybodaeth ar sut i osod fideo HelpwrArian ar eich gwefan, ewch i’n tudalen Rhoi ein teclynnau a’n cyfrifianellau ar eich gwefan.