Gwneud eich dewisiadau arian a phensiwn yn gliriach
Mae HelpwrArian yn cynnig gwybodaeth ddiduedd am ddim i bawb ledled y DU.
Gall biliau cynyddol, incwm is, colli swydd a phryderon ariannol bob dydd ei gwneud hi’n anodd gwybod ble i droi. Rydym yn darparu teclynnau ac adnoddau ymarferol i’ch helpu i gymryd rheolaeth o’ch arian a dod o hyd i ffordd ymlaen.
Eich helpu i reoli eich arian heddiw ac ar gyfer y dyfodol
Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a dros y ffôn, mae ein harweiniad yn glir a diduedd yn gyflym i’w ddarganfod, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn cael eu cefnogi gan y llywodraeth. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau dibynadwy os oes angen mwy o gefnogaeth unigol arnoch.
Gallwn eich helpu i:
- ddelio â dyled
- deall eich opsiynau pensiwn
- gwneud penderfyniadau am gyllidebu ac adeiladu cynilion
- llywio digwyddiadau bywyd fel diswyddiad, perthynas yn chwalu, ymddeoliad neu brofedigaeth
- cyllidebu ar gyfer biliau neu bryniannau mawr
- dysgu am forgeisi a rhentu
- darganfod mwy am fudd-daliadau a hawliau ychwanegol.
Pa wasanaethau rydyn ni’n eu cynnig?
Mae ein gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn cynnwys:
- canllawiau wedi’u diweddaru’n rheolaidd sy’n ymwneud â phynciau arian allweddol
- teclynnau a chyfrifiannellau
- cefnogaeth gan ein harbenigwyr am arweiniad ariannol a phensiynau trwy ein llinellau cymorth, gwe-sgwrs, WhatsApp ac e-bost
- apwyntiadau Pension Wise ar gyfer pobl 50+ oed
- canllawiau wedi’u hargraffu ar ystod o bynciau ariannol a phensiynauYn agor mewn ffenestr newydd gan gynnwys costau byw, Credyd Cynhwysol a siarad â’ch credydwr - hefyd ar gael mewn print bras a Braille.
Teclynnau a chyfrifianellau
Gall ein teclynnau a’n cyfrifiannellau cyflym a hawdd eu defnyddio eich helpu i ddeall eich sefyllfa a’r camau y gallwch eu cymryd i’w gwella. Gallwch weld rhestr lawn, neu fynd yn syth at rai o’n teclynnau mwyaf poblogaidd::
Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth am ddim sy’n cynnig apwyntiadau os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, waeth pa mor fawr neu fach yw eich cronfa bensiwn. Gall yr apwyntiadau fod ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Mae apwyntiad Pension Wise yn eich galluogi i:
- ddeall eich opsiynau am dynnu arian o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- dysgu sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu, a beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer eich incwm wrth ymddeol
- cael awgrymiadau ar sut i osgoi sgamiau a sicrhau eich dyfodol ariannol.
Mae'r apwyntiadau yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr pensiwn hyfforddedig.