Pedair ffordd o gael arian yn ôl

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
31 Awst 2021
Mae cael eich talu i siopa yn ymddangos yn syniad rhyfedd, ond dyna'n union beth yw arian yn ôl. Boed hynny drwy eich cerdyn credyd neu drwy ap ar eich ffôn symudol, mae’n bosibl adfachu ychydig o’ch gwariant bob tro y byddwch yn siopa.
Ond nid arian am ddim yw hi. Mae arian yn ôl yn cael ei gynnig fel atyniad i wneud i chi wario, ac o bosibl ar bethau efallai na fyddwch wedi eu prynu yn y lle cyntaf. Hefyd, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych chi ei eisiau yn rhatach heb arian yn ôl os byddwch chi'n siopa o gwmpas.
Ond os ydych chi’n bwriadu prynu rhywbeth beth bynnag, ac yn gwybod am fanteision ac anfanteision pob dull, mae’n ffordd wych o roi hwb i’ch incwm.
Mae pedair ffordd allweddol o ennill arian yn ôl:
Cardiau credyd
Mae angen i chi wneud cais am gerdyn credyd arian yn ôl arbenigol, ond os ydych yn cael eich derbyn byddwch fel arfer yn gallu cael rhwng canran fach o arian yn ôl ar bob punt lawn a wariwch. Fel arfer telir yr arian yn ôl yn flynyddol, neu fel pwyntiau y gallwch eu cyfnewid am wobr, yn aml dalebau.
Mae pob cerdyn credyd yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae rhai yn rhoi'r un gyfradd ar bopeth rydych chi'n ei brynu, tra bod eraill ond yn rhoi arian yn ôl i chi ar bryniannau penodol, fel petrol. Os yw eich cerdyn credyd wedi'i frandio â siop benodol, efallai y cewch swm ychwanegol o arian yn ôl pan fyddwch chi'n gwario arian yno.
Mae llawer yn dod â ffi hefyd, felly mae’n werth gweithio allan a fyddwch chi’n gallu ennill digon o arian yn ôl i dalu am hyn.
Y peth pwysig i’w gofio yw eu bod ond yn syniad da os gallwch chi dalu’r balans yn llawn bob mis – bydd unrhyw log a godir yn negyddu unrhyw fuddion o arian yn ôl. Hefyd, os ydych chi'n meddwl y bydd cael cerdyn credyd yn eich annog i wario mwy, efallai y byddai'n well cadw at y ffyrdd rydych chi'n talu ar hyn o bryd.
Cyfrifon banc
Mae llond llaw o gyfrifon cyfredol a fydd yn rhoi arian yn ôl i chi ar eich biliau cartref. Maen nhw’n dod gyda ffi, felly gwiriwch faint rydych chi’n debygol o’i ennill mewn arian yn ôl i weld a yw’n werth chweil.
Mae rhai cyfrifon cyfredol eraill hefyd yn cynnig arian ychwanegol yn ôl sy'n benodol i siopau a bwytai penodedig. Fel arfer mae angen i chi roi'r cynigion hyn ar waith.
Gwefannau arian yn ôl
Mae llond llaw o wefannau sy'n gweithredu fel y dyn canol rhyngoch chi a manwerthwyr ar-lein, ac yn gyfnewid maent yn rhoi toriad o'r comisiwn i chi.
Gallai hyn fod yn gwpl y cant wrth brynu rhai dillad neu archebu gwesty, i gannoedd o bunnoedd am agor cytundeb ffôn symudol newydd.
Y prif fater yma yw nad yw'r arian wedi'i warantu, felly peidiwch â phrynu rhywbeth trwy wefannau arian yn ôl yn seiliedig ar yr arian ychwanegol a gewch yn unig. Nes bod yr arian yn eich cyfrif, peidiwch â’i wario – ac eto, mae’n werth siopa o gwmpas i wirio nad oes bargeinion gwell ar gael heb arian yn ôl.
Fodd bynnag, os dilynwch y cyfarwyddiadau ar y wefan yn ofalus, dylech allu cronni swm rhesymol yn gyflym.
Y ddau orau yw Quidco a Topcashback, er ei bod yn werth siopa o gwmpas i ddod o hyd i'r bargeinion gorau.
Newid cyfleustodau
Yn aml, gall newid eich gwasanaethau ynni, ffôn, band eang a theledu arbed cannoedd o bunnoedd i chi – ac weithiau gallwch wneud ychydig yn ychwanegol drwy chwilio am arian yn ôl.
Pan fyddwch yn defnyddio gwefan gymharu, mae’n bwysig iawn sicrhau eich bod yn dewis darparwr sy’n gweithio i’ch anghenion, ond gallai £30 ychwanegol fod yn hwb defnyddiol i’ch helpu i ddewis rhwng dau opsiwn â phris tebyg.