Dechreuwch y sgwrs am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn yr Alban
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
03 Tachwedd 2025
Oeddech chi’n gwybod mai ar lafar yw’r ail ffordd fwyaf poblogaidd o ddarganfod gwybodaeth am Social Security Scotland? Rydym yn darparu 17 budd-dal i deuluoedd, cartrefi incwm isel, pobl anabl, pobl o oedran Pensiwn y Wladwriaeth a gofalwyr, ac mae rhai ohonynt yn fudd-daliadau sy’n unigryw i ddinasyddion yr Alban.
Os ydych yn adnabod rhywun a allai fod yn gymwys i gael cefnogaeth, rydym yn eich annog i ddechrau’r sgwrs gyda nhw er mwyn iddynt allu gwirio pa fudd-daliadau y gallent fod yn gymwys i’w cael.
Cefnogaeth tuag at gostau bod yn feichiog neu ofalu am blentyn
Mae ein pum taliad i deuluoedd yn cefnogi rhieni, gofalwyr a phlant o feichiogrwydd, trwy addysg a than iddynt droi’n 16 oed.
Mae Best Start Foods yn helpu teuluoedd gyda chostau bwyd iach trwy gydol beichiogrwydd tan i’w plentyn droi’n dair oed.
Mae’r taliadau Best Start Grant yn darparu cefnogaeth pan rydych yn feichiog neu ar ôl geni’r babi, pan fo plentyn o oed meithrinfa a phan fo plentyn yn ddigon hen i ddechrau yn yr ysgol gynradd.
Caiff y Scottish Child Payment ei dalu bob pedair wythnos i gefnogi teuluoedd o incwm isel ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed. Mae cymhwysedd yn amrywio gan ddibynnu ar y taliad ac oed y plentyn.
Help ar gyfer pobl sy’n dechrau swydd newydd
Gallai pobl ifanc a’r rhai sydd wedi gadael gofal ac sydd wedi cael swyddi tymhorol neu barhaol dros y gwyliau haf fod yn gymwys i gael y Job Start Payment
Mae’r Job Start Payment yn daliad un tro o £319.80 ac sy’n gallu helpu gyda chostau dechrau swydd newydd gan gynnwys teithio i’r gwaith, costau gofal plant neu brynu dillad newydd. Mae taliad uwch o £503.10 ar gael i bobl sy’n brif ofalwyr plant.
Gall pobl wneud cais am y taliad hyd at chwe mis ar ôl dyddiad y cynnig swydd. Mae Social Security Scotland yn annog pobl i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer y Job Start Payment ac i wneud cais heddiw.
Cefnogaeth ariannol ar gyfer gofalwyr a phobl anabl
Mae Social Security Scotland hefyd yn gwneud y taliadau ar gyfer pobl anabl gan gynnwys Child Disability Payment, Adult Disability Payment a Pension Age Disability PaymentYn agor mewn ffenestr newydd Gall pobl sydd â diagnosis afiechyd terfynol wneud cais trwy lwybr carlam. Gall gofalwyr wneud cais am Carer Support PaymentYn agor mewn ffenestr newydd a Young Carer GrantYn agor mewn ffenestr newydd
Help gyda chostau angladd
Mae’r Funeral Support PaymentYn agor mewn ffenestr newydd wedi helpu miloedd o bobl sydd wedi gorfod talu am angladd. Mae ar gael i bobl cymwys yn yr Alban sydd angen cymorth ar ôl i rywun farw. Gall cael ei ddefnyddio ar gyfer costau angladd babi, plentyn neu oedolyn. Mae’r taliad hefyd yn cynnwys babanod marw-anedig. Gall cynnwys costau claddu neu amlosgi ynghyd â chostau trafnidiaeth a theithio a chostau gweinyddol eraill.
I wirio a ydych yn gymwys ac i wneud cais am fudd-daliadau, ewch i mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd Fel arall, gallwch gysylltu trwy’r post neu dros y ffôn drwy ffonio Social Security Scotlant yn rhad ac am ddim ar 0800 182 2222. Gall pobl hefyd wneud cais wyneb yn wyneb gydag un o’n Client Support Advisers sydd wedi’u lleoli ym mhob ardal awdurdod lleol.
Mae gwybodaeth mewn ieithoedd eraillYn agor mewn ffenestr newydd ar gael a gall cyfieithydd ar y pryd gael ei drefnu os oes angen cefnogaeth ar bobl i wneud cais am fudd-daliadau.