Arian ac lechyd meddwl: pam fod siarad amdano yn bwysig
Last updated:
03 Tachwedd 2025
Gall pryderon arian effeithio ar ein hiechyd meddwl ac effeithio ar sut rydyn ni'n rheoli arian, gan ddatblygu’n gylch cythreulig, gan ei gwneud hi'n anoddach cadw ar ben cyllid a theimlo fel eich bod yn boddi. Y peth cyntaf i'w gofio yw nad ydych chi ar eich pen eich hun a gall siarad amdano a chymryd camau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Sut y gall lechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych chi'n rheoli arian
Pan fyddwch yn teimlo’n isel, gall hyd yn oed tasgau ariannol sylfaenol fel gwirio balans eich banc neu agor biliau deimlo'n amhosibl. Gallai iselder neu bryder ddwyn eich cymhelliant neu wneud i chi fod eisiau osgoi meddwl am arian yn gyfan gwbl. I eraill, gall gwariant ddod â theimlad byr o ryddhad neu reolaeth, a all arwain at orwariant neu brynu sydyn.
Mae yna hefyd symptomau iechyd meddwl a all ysgogi ymddygiad peryglus neu fyrbwyll na allwch ei reoli, neu efallai nad ydych hyd yn oed yn gwybod eich bod chi'n ei wneud. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd rheoli cyllid.
Ac os yw'ch iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i weithio neu astudio, gall hynny wneud eich incwm yn llai sefydlog, gan ychwanegu hyd yn oed mwy o bwysau.
Sut y gall problemau ariannol effeithio ar eich lechyd meddwl
Gall pryderon arian gael effaith emosiynol fawr hefyd. Efallai y byddwch chi'n gweld eich hun yn:
- teimlo'n bryderus neu mewn panig wrth agor y post neu wrth fynychu apwyntiadau
- cael trafferth cysgu oherwydd pryderon ariannol
- methu fforddio hanfodion fel bwyd, tai, gwres, neu feddyginiaeth
- teimlo'n unig neu'n ynysig oherwydd na allwch fforddio cymdeithasu.
Mae hefyd yn gyffredin iawn i deimlo euogrwydd, cywilydd neu ofn pan fyddwch chi'n cael trafferth ariannol. Ond cofiwch, mae pawb yn haeddu teimlo'n dda ac i gael yr hyn sydd ei angen arnynt i fyw. Nid yw estyn allan am gefnogaeth yn arwydd o wendid, mae'n gam tuag at sefydlogrwydd a hunan-ofal.
Deall eich arian a’ch hwyliau
Un ffordd syml o ddechrau teimlo mwy o reolaeth yw sylwi ar y patrymau rhwng eich hwyliau a'ch arian. Ceisiwch gadw cofnod o'ch gwariant a sut y mae'n gwneud i chi deimlo. Ydych chi'n gwario mwy pan fyddwch chi o dan straen? Ydych chi'n cynilo pan fyddwch chi'n teimlo'n ddiogel? Gall sylwi ar y patrymau hyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y dyddiau anodd.
Os ydych chi'n poeni am orwariant, gallech roi cynnig ar gamau bach fel dileu apiau siopa, peidio â chadw manylion eich cerdyn ar-lein, neu aros 24 awr cyn prynu rhywbeth rydych chi ei eisiau. Ac os ydych chi'n ymddiried mewn rhywun, rhowch wybod iddyn nhw pa arwyddion i chwilio amdanynt os ydych chi'n cael trafferth. Weithiau gall sgwrs gyflym gyda ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu i oedi cyn gwneud penderfyniadau y gallech ddifaru yn nes ymlaen.
Pwysigrwydd siarad am arian
Gall siarad am arian deimlo'n anghyfforddus, ond gall eich helpu i ofalu am eich lles meddyliol ac ariannol. Mae llawer ohonom yn tyfu i fyny yn meddwl na ddylem siarad am arian, ond gall cadw'n dawel wneud problemau'n waeth.
Gall agor eich calon i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo ddod â rhyddhad a phersbectif. P'un ai mai ffrind, aelod o'r teulu, neu wasanaeth cymorth ydynt, gall rhannu sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol gyda'ch gilydd.
Ble i ddod o hyd i gymorth
Os ydych chi'n cael trafferth, mae help ar gael:
- Cyngor ar Bopeth – cyngor am ddim ar arian, tai a materion cyfreithiol.
- HelpwrArian – teclynnau ac awgrymiadau ar gyfer rheoli ar incwm tynn.
- Turn2Us – help gyda budd-daliadau, grantiau a chymorth ariannol.
- Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian – canllawiau ar fudd-daliadau ac iechyd meddwl.
- Llinellau Cymorth Budd-daliadau Lles Mind – help a gwybodaeth.
Nid oes yn rhaid i chi wynebu pryderon ariannol neu drafferthion iechyd meddwl ar eich pen eich hun. Gall siarad amdanynt, a chael y gefnogaeth gywir, eich helpu i deimlo'n ysgafnach, mwy mewn rheolaeth, ac yn barod i gymryd y cam bach nesaf ymlaen.