Beth yw tâl ychwanegol mewn yswiriant?

Last updated:
18 Chwefror 2025
Wrth brynu unrhyw fath o yswiriant mae’n debygol iawn y bydd yn dod â rhyw fath o dâl ychwanegol, faint o arian y bydd yn rhaid i chi ei dalu os ydych yn gwneud hawliad. Gall hefyd wneud gwahaniaeth i faint mae eich polisi'n ei gostio.
Beth yw ‘tâl ychwanegol’ mewn yswiriant modur, teithio, cartref, iechyd ac anifeiliaid anwes?
‘Tâl ychwanegol’ yw'r swm o arian y bydd yn rhaid i chi ei dalu os ydych yn gwneud hawliad yn erbyn eich yswiriant.
Y tâl ychwanegol yw'r rhan o'r hawliad rydych yn cytuno i'w dalu eich hun. Yna bydd eich cwmni yswiriant yn talu'r gweddill hyd at derfyn y polisi.
Mae eich tâl ychwanegol yn swm sefydlog y cytunwyd arno pan fyddwch yn cymryd polisi yswiriant. Byddwch yn gallu gweld y swm yn eich dogfennau polisi yswiriant.
Sut mae tâl ychwanegol yn gweithio wrth wneud hawliad?
Dyma enghraifft o sut y gallai tâl ychwanegol weithio.
- mae gennych bolisi yswiriant car gyda thâl ychwanegol o £250
- rydych yn gwneud hawliad yn erbyn eich yswiriant am waith drwsio sy'n costio £2,000
- mae eich cais yn llwyddiannus
- mae eich yswiriwr yn cymryd £250 allan o'r bil trwsio o £2,000, sy'n golygu y byddwch yn derbyn £1,750 i dalu am y gwaith trwsio.
Beth yw'r gwahanol fathau o dâl ychwanegol mewn yswiriant car?
Wrth brynu polisi yswiriant car, mae dau fath o dâl ychwanegol i fod yn ymwybodol ohonynt:
- tâl ychwanegol gorfodol
- tâl ychwanegol gwirfoddol.
Beth yw tâl ychwanegol gorfodol?
Mae hyn yn dâl ychwanegol y mae'r darparwr yswiriant yn ei ychwanegu at y polisi yn ddiofyn. Fel arfer, ni allwch newid y swm hwn.
Beth yw tâl ychwanegol gwirfoddol?
Dyma'r swm ychwanegol y gallwch ddewis ei ychwanegu at eich polisi, yn aml fel ffordd o ostwng y gost yswiriant cyffredinol.
Mae'n cael ei ychwanegu at eich tâl ychwanegol gorfodol, felly os ydych yn cael polisi yswiriant gyda:
- £100 o dâl ychwanegol gorfodol a
- £100 o dâl ychwanegol gwirfoddol
bydd £200 yn cael ei dynnu o unrhyw hawliad yswiriant.
Ydy tâl ychwanegol gwirfoddol yn gostwng pris fy yswiriant car?
Yn aml bydd yn gwneud hynny, ond nid hynny yw’r dewis gorau bob amser.
Wrth gymharu cytundebauyswiriant car, un ffordd o ddod o hyd i brisiau is yw addasu'r swm y byddwch chi'n ei ychwanegu fel tâl ychwanegol gwirfoddol. Mae tâl ychwanegol gwirfoddol uwch yn golygu y bydd eich polisi yswiriant yn rhatach i'w brynu.
Ond meddyliwch yn ofalus:
- A yw'r premiwm yn ddigon isel i fod yn werth y tâl ychwanegol uwch y byddwch yn ei dalu os byddwch yn gwneud hawliad?
- Os oes angen i chi wneud hawliad, a fyddwch yn gallu fforddio'r swm ychwanegol y bydd yn ei gostio?
Efallai y bydd ffyrdd gwell o ostwng eich costau yswiriant – mae ein blog Sut i gael yswiriant car rhatach yn edrych ar rai o'ch opsiynau eraill.
Sut alla i hawlio fy yswiriant car yn ôl?
Os ydych wedi cael damwain nad chi oedd ar fai, fel arfer bydd angen i gwmni yswiriant y gyrrwr a achosodd y ddamwain dalu am eich tâl ychwanegol.
Os yw'ch yswiriwr neu'ch cwmni hurio credyd yn delio â'ch hawliad, dylent gael y tâl ychwanegol yn ôl i chi os yw'n amlwg nad chi oedd ar fai, er enghraifft:
- os nad oeddech yn y car ar adeg y ddamwain neu
- os nad oedd eich car yn symud ar adeg y ddamwain.
Nid yw pob cwmni yswiriant yn ei drin yn yr un ffordd, felly siaradwch â'ch yswiriwr i ddarganfod beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Os oes gennych yswiriant treuliau cyfreithiol, efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys eich tâl ychwanegol ac unrhyw dreuliau eraill sy’n dod allan o’ch poced.
Fel arall, efallai y bydd angen i chi hawlio'r swm yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr arall. Os ydynt yn cymryd gormod o amser neu'n gwrthod eich talu, efallai y bydd angen i chi fynd â'r cwmni yswiriant neu'r gyrrwr i'r llys.
Sut mae tâl ychwanegol yn gweithio mewn yswiriant teithio?
Mae tâl ychwanegol mewn yswiriant teithio yn gweithio'n debyg i bolisïau eraill - bydd angen i chi dalu'r tâl ychwanegol tuag at unrhyw hawliad a wnewch.
Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod polisïau yswiriant teithio fel arfer yn cynnwys sawl rhan, a bod eich tâl ychwanegol yn cael ei gymhwyso 'fesul adran'. Er enghraifft, os bydd rhywbeth yn digwydd a bod angen i chi hawlio yn erbyn:
- yr adran treuliau meddygol
- yr adran eiddo personol ac
- yr adran arian
o'ch polisi, bydd yn rhaid i chi dalu’r tâl ychwanegol dair gwaith.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant teithio?
A allaf gael yswiriant teithio heb dâl ychwanegol?
Bydd rhai darparwyr yn cynnig yr opsiwn hwn. Gellir ei alw'n 'hepgor y tâl ychwanegol' y gallwch ei ychwanegu at un o'u polisïau safonol.
Bydd hyn yn cynyddu cost prynu'r polisi, felly meddyliwch yn ofalus ai hyn fyddai’r dewis iawn i chi.
Sut mae tâl ychwanegol yn gweithio mewn yswiriant cartref?
Mae tâl ychwanegol mewn yswiriant cartref yn debyg i yswiriant car. Fel arfer, bydd gennych chi:
- tâl ychwanegol gorfodol – swm sefydlog a bennir gan y cwmni yswiriant.
- tâl ychwanegol gwirfoddol – swm y gallwch ei ddewis ar ben y tâl ychwanegol gorfodol i geisio gostwng cost y polisi.
Symiau tâl ychwanegol gwahanol ar gyfer hawliadau yswiriant cartref
Os ydych chi'n cael y ddau:
- yswiriant cynnwys, sy'n cynnwys eich eiddo yn y cartref ac
- yswiriant adeiladau, sy'n cwmpasu'r cartref ei hun
Yn aml fe welwch fod y taliadauychwanegol yn wahanol ar gyfer pob rhan o'r yswiriant.
Efallai y gwelwch hefyd fod gan rai mathau o hawliad dâl ychwanegol uwch. Fel arfer, bydd hawliadau sy'n ymwneud â difrod a achosir gan lifogydd neu ymsuddiant yn codi tâl ychwanegol uwch, felly mae'n werth edrych trwy'ch manylion polisi i'w gwirio.
Os ydych chi'n byw yn rhywle sydd â risg uchel o lifogydd, mae help ar gael i ddod o hyd i yswiriant fforddiadwyYn agor mewn ffenestr newydd ar Flood Re.
Sut mae tâl ychwanegol yn gweithio mewn yswiriant iechyd
Os oes gennych bolisi yswiriant iechyd, bydd eich tâl ychwanegol yn gweithio mewn ffordd debyg i yswiriant car neu deithio.
Bydd yn rhaid i chi dalu'r tâl ychwanegol ar unrhyw hawliad a wnewch am driniaethau gofal iechyd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r tâl ychwanegol sawl gwaith os ydych yn hawlio am:
- mwy nag un person neu
- mwy nag un driniaeth.
Bydd gan rai polisïau derfyn ar faint o daliadau ychwanegol y gallwch eu talu bob blwyddyn - gwiriwch eich dogfennau polisi i weld a yw hyn yn berthnasol i chi.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant meddygol preifat?
Sut mae tâl ychwanegol yn gweithio mewn yswiriant anifeiliaid anwes?
Mae tâl ychwanegol mewn yswiriant anifeiliaid anwes yn gweithio'n debyg i yswiriant car – fel arfer bydd gennych:
- dâl ychwanegol gorfodol, sy'n cael ei ychwanegu gan y cwmni yswiriant – yn aml mewn yswiriant anifeiliaid anwes byddwch yn cael ystod o opsiynau ar gyfer y tâl ychwanegol gorfodol
- tâl ychwanegol gwirfoddol, y gallwch ei ychwanegu ar ben y tâl ychwanegol gorfodol i ostwng cost prynu'r polisi.
Byddwch wedyn yn talu cyfanswm y tâl ychwanegol gorfodol a gwirfoddol pryd bynnag y byddwch yn gwneud hawliad.
Beth yw cyd-daliadau mewn yswiriant anifeiliaid anwes
Mae trydydd math o dâl ychwanegol yn bodoli o'r enw cyd-daliadau. Fel arfer, ychwanegir hyn at bolisïau ar gyfer anifeiliaid anwes sy'n cyrraedd oedran penodol, yn aml ar bolisïau ar gyfer cŵn.
Gyda chyd-daliadau, bydd angen i chi dalu canran o'ch biliau milfeddyg. Fel arfer caiff ei ychwanegu ar ben eich tâl ychwanegol gorfodol a gwirfoddol.
Bydd rhai polisïau anifeiliaid anwes yn cynnwys cyd-daliadau fel amod safonol. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu canran am unrhyw driniaeth a ddarperir o dan eich polisi yswiriant.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Yswiriant Anifeiliaid Anwes – oes ei angen arnoch?
Beth yw atebolrwydd tâl ychwanegol mewn yswiriant?
Peidiwch â chael eich drysu - mae atebolrwydd tâl ychwanegol yn rhywbeth gwahanol iawn i ‘dâl ychwanegol’ mewn yswiriant car a theithio.
Mae atebolrwydd tâl ychwanegol, a elwir weithiau'n yswiriant ymbarél, yn fath o yswiriant busnes. Mae'n darparu amddiffyniad ychwanegol i fusnes ar ben eu hyswiriant atebolrwydd safonol.