Pa yswiriant sydd ei angen arnaf wrth brynu tŷ?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
05 Chwefror 2025
Pan fyddwch yn gwario swm mawr o arian ar dŷ, y peth olaf efallai yr hoffech chi ei wneud yw gwario mwy ar yswiriant - ond mae mor bwysig, ac yn aml yn orfodol, i yswirio'r adeilad a'r eitemau ynddo rhag ofn i rywbeth ofnadwy ddigwydd i'ch cartref.
Pa yswiriant sy'n orfodol wrth brynu tŷ?
Mae dau brif fath o yswiriant y mae pobl fel arfer yn meddwl amdanynt wrth brynu eiddo (er bod mwy y dylech ei ystyried sy'n cael ei esbonio isod):
adeiladau, ac
yswiriant cynnwys.
Yswiriant cynnwys yw yswiriant sy'n cwmpasu'r holl eitemau y tu mewn i'ch cartref (ac eitemau dewisol y tu allan i'ch cartref), o'ch sanau i'ch teledu. Ni fydd unrhyw un yn eich gorfodi i gael hyn, ond byddai'n annoeth i beidio. A fyddech chi'n gallu fforddio amnewid popeth rydych chi'n berchen arno hebddo?
Yr yswiriant arall, a'r un sy'n cael ei ystyried yn orfodol fel arfer, yw yswiriant adeiladau. Mae hyn yn cynnwys y strwythur - brics a morter y tŷ a gosodiadau parhaol yn y cartref fel sinc, baddon ac unedau cegin. Pe bai storm yn taro'ch cartref, neu'n gysylltiedig â thân er enghraifft, darparwr yswiriant eich adeiladau a fyddai'n dod i mewn i asesu ac o bosibl yn helpu gyda chostau unrhyw ddifrod.
A yw'r gyfraith yn golygu bod angen yswiriant adeiladau arnaf?
Na. Nid oes angen yswiriant adeiladau arnoch yn gyfreithiol. Ond os hoffech brynu'ch tŷ neu fflat gyda morgais, bydd rhwymedigaeth gytundebol arnoch, i gael yswiriant adeiladau. Pe na baech yn ei gael, byddech yn torri eich contract, sy'n fater sifil, yn hytrach nag un cyfreithiol.
Allwch chi brynu tŷ heb yswiriant?
Gallwch. Os nad oes angen morgais arnoch i brynu eiddo, does dim angen i chi brynu unrhyw yswiriant o gwbl, gan na fydd gennych gontract gyda darparwr morgais - ond byddai hynny'n annoeth.
Mae bywyd yn anrhagweladwy ac rydym yn treulio ein bywydau cyfan yn cynilo'r arian i brynu'r eiddo ei hun a'r eitemau ynddo - gan ddefnyddio arian ychwanegol gan rieni a neiniau a theidiau os ydym yn lwcus. O ganlyniad i hynny, pe bai ein heiddo a'i gynnwys yn cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio, byddai'r rhan fwyaf ohonom yn ei chael hi'n anodd fforddio eu hamnewid.
Fel arfer, byddwch yn cael premiwm misol neu flynyddol, sef y swm rydych yn ei dalu i yswiriwr i'ch yswirio am y flwyddyn. Bydd angen i chi benderfynu faint yr hoffech ei gynnwys, a faint o arian ychwanegol yr hoffech chi ei dalu - sy'n penderfynu'n rhannol ar faint y gost ar gyfer eich taliadau misol (mae yna lawer o ffactorau).
Dywedwch eich bod wedi dioddef byrgleriaeth, a bod eich ffenestri wedi’u chwalu a chafodd eich eitemau gwerthfawr eu dwyn – byddai yswiriant adeiladau a chynnwys yn cael ei ddefnyddio. Byddai'n rhaid i chi dalu'r gormodedd, sy'n gost gychwynnol (£250 fel enghraifft), ac yna byddai'r cwmni yswiriant yn talu'r gweddill - o bosib filoedd o bunnoedd. Os nad oedd gennych yswiriant, byddai'r gost enfawr honno i gyd yn gyfrifoldeb arnoch chi i’w thalu.
Pryd ddylai fy yswiriant cartref ddechrau wrth brynu tŷ?
Dylech gael yswiriant adeiladau cyn gynted ag y byddwch yn cyfnewid contractau ar yr eiddo, oherwydd hyd yn oed os nad ydych wedi symud i mewn yn gorfforol – eich eiddo chi yw'r eiddo erbyn hyn, ac rydych yn gyfreithiol gyfrifol amdano.
Cyn gynted ag y byddwch yn darganfod y dyddiad yr ydych yn cyfnewid contractau, dylech ddechrau dod o hyd i gytundeb. Mae gennym awgrymiadau ar sut y gallwch ddod o hyd i bolisi yswiriant adeiladau rhad.
Dylech gael yswiriant cynnwys ar yr un pryd ag y byddwch yn cael yswiriant adeiladau. Fel hyn, gellir yswirio’ch eitemau wrth eu symud hefyd. Rhowch wybod i’ch yswiriwr.
Mae yswiriant adeiladau ac yswiriant cynnwys yn arferol wrth brynu tŷ, ond efallai yr hoffech hefyd ystyried yswiriant arall os oes gennych yr arian:
Diogelu incwm a diweithdra – Mae'r yswiriant hwn yn eich yswirio pe baech yn colli'ch swydd neu’n methu gweithio am gyfnod oherwydd salwch neu ddamwain. Os na allech chi dalu'ch morgais oherwydd eich bod chi neu bwy bynnag arall sydd ar y morgais wedi stopio cael incwm am ryw chwe mis neu fwy dyweder, gallai diogelu incwm o bosibl ddiogelu eich cartref.
Yswiriant bywyd – Pe baech chi neu'ch partner er enghraifft, yn marw, a fyddai un cyflog yn talu eich taliadau morgais? Mae prynu tŷ yn amser da iawn i edrych i mewn i yswiriant bywyd, gan y byddai hynny'n talu talp mawr neu'r morgais gyfan pe bai'r gwaethaf yn digwydd.
Diogelu rhag llifogydd neu stormydd – Mae'n teimlo fel ein bod ni'n gweld mwy a mwy o’r stormydd enfawr hyn, sy'n gallu gwneud pob math o ddifrod i'ch eiddo - yn enwedig os yw eich eiddo mewn ardal sy'n agored i lifogydd. Ystyriwch gael yswiriant sy'n eich diogelu.