Sut i adnabod sgamiau cryptoarian a Bitcoin
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Medi 2021
Mae sgamiau cryptoarian a Bitcoin yn ymddangos ledled y rhyngrwyd. Os dewiswch y cyfle buddsoddi anghywir, gallech golli llawer o arian - ac ni fydd dim ohono wedi'i ddiogelu yn yr un ffordd a pe baech yn rhoi eich arian mewn banc neu wasanaeth ariannol gwarchodedig arall. Yn aml mae gan sgamiau cryptoarian nodweddion tebyg, felly gyda'r wybodaeth gywir, fe allwch eu hadnabod.
Mae mor bwysig edrych ar y cynnig a phenderfynu a yw'n realistig. Byddai gwneud 1,000% ar eich arian mewn 18 mis yn anhygoel, ond a yw'n debygol o ddigwydd gyda'r cynnig newydd sbon hwn?
Un o’r ffyrdd y mae twyllwyr yn denu arian i’w sgamiau yw drwy wneud addewidion ffug am enillion. Heb unrhyw strategaeth na gwybodaeth ategol yn egluro pam y byddai’r cynnig darn arian cychwynnol hwn (ICO) – sef yr enw ar gyfer pan fydd cryptoarian newydd yn cael ei greu a phobl yn cael y cyfle i brynu rhywfaint o arian cyfred am bris cynnar – yn codi mewn gwerth mor gyflym, dylech osgoi hyn.
Marchnata trwm a hyrwyddo cynigion
Mae twyllwyr cryptoarian hefyd yn denu pobl drwy wario’n helaeth ar farchnata trwm. Hysbysebion tudalen lawn mewn papurau newydd, baneri enfawr ar wefannau, a llu o flogwyr taledig – mae’r cyfan wedi’i gynllunio i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl, er mwyn codi arian yn gyflym.
Ni fydd cynnig darn cryptoarian mwy cyfreithlon angen hysbysebu na ehangu mor gyflym, oherwydd bydd yn tyfu ac yn datblygu’n naturiol.
Aelodau tîm di-enw, amwys neu hyd yn oed ddim yn bodoli
Yn union fel gydag unrhyw fusnes neu fuddsoddiad arall, dylech allu canfod yn rhwydd pwy sy’n rhedeg cryptoarian, gan gynnwys pob aelod o’r tîm.
Mae'n golygu y gallwch wedyn ymchwilio iddynt, gweld beth yw eu cefndir, gwirio eu proffilau cyfryngau cymdeithasol, pa mor hen yw'r cyfrifon, pwy sy'n eu dilyn, faint o ddilynwyr sydd ganddynt ac ati.
Efallai y bydd yn swnio fel tipyn o waith, ond os na ellir dod o hyd i gwpl o ddatblygwyr yn y tîm ar-lein, mae’r cyfarwyddwyr â channoedd o ddilynwyr sy’n amlwg wedi’u prynu, ac nad ydych yn cael ateb pan fyddwch yn cysylltu â’r sefydliad… mae’n well osgoi hyn.
Gwiriwch y papur gwyn – dylai pob cryptoarian fod ag un.
Mae'r papur gwyn cryptoarian yn un o'r rhannau pwysicaf o gynnig darn arian cychwynnol (ICO). Bydd yn dweud wrthych sut mae'r prosiect cryptoarian wedi'i ddylunio, sut y bydd yn tyfu, sut y bydd yn gwneud arian, ac yn y bôn yn union sut mae'r cynnig yn mynd i weithio.
Os ydych chi'n darllen papur gwyn ac yn meddwl "nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr", gallai fod oherwydd bod y sylfaenwyr yn ceisio drysu eu buddsoddwyr, gan wybod bod eu cynnyrch yn ffug.
Ac os nad oes papur gwyn, nid yw'n werth buddsoddi ynddo.
Dim cod wedi'i gyhoeddi
Peidiwch â gadael i hwn eich rhoi ffwrdd. Nid yw llawer o bobl yn ddigon cymwys i allu darllen cod cryptoarian. Y cod yw’r hyn sy’n gwneud i’r cryptoarian weithio, ac mae’r rhan fwyaf o dimau cryptoarian dilys yn gwneud eu codau’n ‘ffynhonnell agored’. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei gyhoeddi’n agored, fel y gall unrhyw un ei ddarllen, ei olygu a gwirio ei fod yn union fel y mae’r sylfaenwyr yn ei honni.
Wrth gwrs, hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu darllen y cod eich hun, nid yw hynny’n golygu peidio â gallu ei weld i wirio ei fod yn iawn. Os yw tîm cryptoarian yn cadw eu cod yn gyfrinachol, dylai hynny godi pryder. Beth maen nhw’n ceisio ei guddio?
Nid yw pob cryptoarian cyfreithlon a dilys yn defnyddio cod ffynhonnell agored — ond mae bron pob un anghyfreithlon a thwyllodrus yn cuddio eu cod.
Pecynnau anarferol i fuddsoddi gyda nhw
Efallai y byddwch chi'n cael y cyfle i danysgrifio, buddsoddi swm penodol ac yna cael enillion bob dydd neu'n wythnosol. Mae'r dychweliad hwn yn aml yn anghynaladwy, ac mae'n debyg y bydd yn arafu neu hyd yn oed yn stopio.
Mae yna lawer o driciau a chynigion fel hyn, ac mae'n bwysig eich bod chi'n darllen y gwaith papur ac yn deall sut mae'n gweithio. Llawer o'r amser dydyn nhw ddim yn fargen dda.
Gwyliwch am lwyfannau masnachu a broceriaid twyllodrus
Mae platfform masnachu cryptoarian yn eich galluogi i brynu a gwerthu arian cyfred. Ond gwnewch eich ymchwil, a darllenwch adolygiadau ar gyfer llwyfannau. Bydd rhai yn cynnig bargeinion rhagorol, gan awgrymu y gallant guro amrywiadau cyfraddau cyfnewid, a'u bod yn defnyddio technolegau awtomataidd i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y fargen orau.
Gall broceriaid hefyd fod yn annibynadwy. Mae cynigion rhagarweiniol deniadol a chynigion unwaith mewn oes i gyd wedi'u cynllunio i gael arian o'ch waled i wefan y brocer.
Mae llwyfannau masnachu a gwefannau broceriaid sy'n defnyddio'r tactegau yma wedi eu gor-ganmol a gallant golli arian i chi. Yn aml mae ganddynt ffioedd tynnu'n ôl uchel, neu gomisiwn drud wrth fasnachu cryptoarian mewn punnoedd, doleri neu ewros. Gallant hefyd weithiau ychwanegu prosesau ychwanegol ar gyfer masnachu neu dynnu'n ôl, a all ychwanegu oriau at y weithdrefn. Gwiriwch y print mân cyn gwahanu â'ch arian parod.