Mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn fenthycwyr anghyfreithlon sy’n aml yn targedu pobl sydd angen arian ar frys ond na allant ddod o hyd i fenthyciwr arall. Gallant hefyd godi cyfraddau llog uchel iawn a dylent gael eu hosgoi – hyd yn oed os ydych yn teimlo fel nad oes gennych ddewis arall.
Rhesymau dros osgoi darparwyr benthyciadau didrwydded
Efallai y bydd darparwyr benthyciadau didrwydded yn ymddangos yn gyfeillgar pan ddônt o gwmpas. Ac os byddwch yn parhau i wneud eich ad-daliadau, efallai y byddant yn aros felly.
Ond bydd benthyg ganddynt yn parhau i fod yn ddrud ac mae nifer o risgiau’n gysylltiedig. Er enghraifft:
byddwch yn talu llawer mwy o log nag y byddech yn ei dalu trwy ddulliau benthyca cyfreithlon
efallai y cewch eich aflonyddu neu eich bygwth pe byddech yn methu’ch ad-daliadau
efallai y cewch eich rhoi dan bwysau i fenthyca un benthyciad ar ôl y llall, gan wynebu dyled diddiwedd na allwch ei had-dalu.
Sut i adnabod darparwr benthyciadau didrwydded
Mae’n bwysig osgoi benthyg gan bobl nad ydych yn eu hadnabod yn dda, fel cydweithwyr, ffrind i ffrind, neu aelodau o’ch cymuned leol neu grŵp ffydd. Mae hyn oherwydd y gallent fod yn ddarparwr benthyciadau didrwydded.
Dyma rai o’r arwyddion i gadw golwg amdanynt os ydych yn meddwl y gallech fod yn benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded:
Dim gwaith papur - mae gwaith papur yn gwneud i rywbeth ymddangos yn fwy cyfreithlon, ac mae benthycwyr arian didrwydded yn ei osgoi.
Benthyciadau arian parod neu drosglwyddiadau banc – er bod mwy o ddarparwyr benthyciadau didrwydded nawr yn defnyddio trosglwyddiadau banc, fel arfer mae’n well ganddynt arian parod.
Gwrthod rhoi gwybodaeth i chi am y benthyciad - bydd y mwyafrif o ddarparwyr benthyciadau didrwydded yn osgoi rhoi manylion clir i chi am eich benthyciad, fel y gyfradd llog, manylion ad-daliadau blaenorol a’r cyfanswm sy’n ddyledus gennych.
Cymryd eiddo fel sicrwydd - bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn cymryd eiddo personol fel sicrwydd, fel pasbort neu gardiau banc.
Mae eich benthyciad yn cynyddu - gallai darparwyr benthyciadau didrwydded gynyddu’r ddyled neu ychwanegu taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd.
Bygythiadau trais - mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn aml yn defnyddio braw a bygythiadau i ddychryn pobl i dalu eu harian yn ôl.
Maent yn benthyca i fwy nag un person – os yw’n rhywun rydych yn ei adnabod ac rydych yn ymwybodol ei fod wedi cynnig i fenthyca arian i bobl eraill hefyd.
Os oes rhywun wedi cysylltu â chi a’ch bod yn meddwl y gallai fod yn fenthyciwr anghyfreithlon, gallwch roi gwybod amdanynt - hyd yn oed os ydych eisoes wedi benthyg arianYn agor mewn ffenestr newydd ganddynt ar wefan Stop Loan Sharks.
Sut i wirio bod darparwr benthyciadau yn un dilys
Rhaid i unrhyw un sy’n benthyca arian gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Os nad yw darparwr wedi’i restru fel un sydd ag awdurdod i fenthyca arian i rywun, peidiwch â benthyca ganddo a pheidiwch â gadael iddo ddod i mewn i’ch cartref.
Darparwyr benthyciadau didrwydded a’r gyfraith
Mae unrhyw fenthyciwr, awdurdodedig neu ddidrwydded, sy’n eich aflonyddu yn torri’r gyfraith.
Bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn eich bygwth trwy ddweud y byddwch yn cael eich erlyn, ac yn cael eich anfon i’r carchar hyd yn oed, os na fyddwch yn talu. Ni all hyn ddigwydd.
Nid oes gan fenthyciwr anawdurdodedig fel darparwr benthyciadau didrwydded yr hawl cyfreithiol i wneud i chi ad-dalu’r benthyciad o gwbl. Mae hyn oherwydd bod y benthyciad yn anghyfreithlon.
Os oes rhywun rydych chi’n meddwl sy’n ddarparwr benthyciadau didrwydded wedi cysylltu â chi, cysylltwch â’r heddlu. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Ni fydd darparwyr benthyciadau didrwydded byth yn rhoi’r gorau i fynd ar eich ôl am arian, felly mae’n bwysig eich bod yn gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrth yr heddlu’n gyfrinachol a gallwch aros yn ddienw.
Adrodd ar ddarparwr benthyciadau didrwydded
Os ydych wedi darganfod bod benthyciwr yn ddarparwr benthyciadau didrwydded, gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw. Gallwch naill ai ffonio neu adrodd ar-lein os oes gwell gennych beidio siarad â rhywun.
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch adrodd i’r tîm Stop Loan Sharks trwy ffonio 0300 555 2222 neu ewch i Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban ffoniwch Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon yr Alban ar 0800 074 0878 neu ewch i Safonau Masnach yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, ffoniwch Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon Cymru ar 0300 1234 3311 neu ewch i Stop Loan Sharks WalesYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch eu hadrodd i’r heddlu trwy e-bostio predatorylending@psni.police.uk, ffonio 101 a gofyn am y tîm benthyg arian yn anghyfreithlon, neu fynd ar Police Service of Northern Ireland i adrodd arnynt ar-lein.
 
Dewisiadau amgen yn lle benthycwyr anghyfreithlon
Os yw'ch incwm yn isel, mae gennych sgôr credyd gwael neu swm bach o arian yn unig rydych ei angen am gyfnod byr, mae benthycwyr rheoledig y gallwch droi atynt yn lle benthycwyr anghyfreithlon.
Darganfyddwch am yr holl ffynonellau incwm a chymorth posibl eraill sydd ar gael yn Byw ar incwm gwasgedig.
Os ydych angen benthyca o hyd, defnyddiwch ein teclyn Eich opsiynau ar gyfer benthyg arian i weld ystod o opsiynau credyd a allai weddu i'ch anghenion.
Mae rhai opsiynau eraill a allai fod yn fforddiadwy i chi yn cynnwys:
- Benthyciad trefnu di-log neu daliad ymlaen llaw – os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol neu Gredyd Cynhwysol.
 - Help gan y llywodraeth - gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
 - Benthyciadau undeb credyd – fel arfer os byddwch yn dod yn aelod.
 - Benthyciadau Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI) – mae'r rhain yn canolbwyntio ar gynnig benthyciadau i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael benthyciad yn rhywle arall – darganfyddwch ble i gael un a sut maent yn gweithio ar FindingFinance.co.uk.
 - Darganfyddwch fwy am fenthyca yn Rheoli credyd yn dda.
 
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynhonnell incwm a chymorth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.