Pe baech yn cymryd eich car eich hun tramor neu’n llogi car pan fyddwch yna, mae’n rhaid ichi gael yswiriant. Ond byddwch yn ofalus, mae’n rhwydd gwario gormod ar sicrwydd hurio car diangen a gall y tâl dros ben fod yn uchel iawn. Darganfyddwch sut i osgoi'r peryglon a chael bargen addas.
A yw fy nghar wedi’i yswirio dramor?
Os ydych chi'n mynd ar daith lle rydych chi'n bwriadu gyrru eich car eich hun, mae'n bwysig bod gennych chi'r yswiriant cywir. Bydd gan y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant ceir cynhwysfawr y DU cynnwys ar gyfer gyrru o fewn yr UE a'r AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd).
Os ydych chi'n gyrru eich car eich hun y tu allan i Ewrop, efallai y bydd angen i chi brynu yswiriant ar wahân a gwneud cais am drwydded yrru ryngwladol ar gyfer y llefydd rydych chi'n ymweld â nhw.
Pan fyddwch chi'n mynd â'ch car eich hun dramor, mae'n syniad da dod â’r canlynol gyda chi:
- eich trwydded yrru a'ch dogfennau cofrestru cerbyd (V5C) os ydych yn mynd â’ch car eich hun.
- Os ydych chi'n bwriadu gyrru yn yr AEE ac mae gennych chi drwydded yrru bapur, bydd angen i chi gael trwydded yrru ryngwladolYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch brynu un o Swyddfa'r Post am £5.50.
- prawf o yswiriant, fel copi PDF printiedig neu electronig o'ch tystysgrif yswiriant.
I ddarganfod mwy am yrru dramor ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau sy'n gysylltiedig â Brexitewch i wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pa yswiriant byddaf ei angen pan yn hurio car dramor
Gwnewch yn siŵr bod y dogfennau cywir gennych
Bydd angen i chi ddod â'ch trwydded yrru DU gyda llun neu ddangos trwydded yrru ryngwladol (IDP). Yn yr UE a'r AEE mae eich trwydded yrru DU gyda llun yn ddilys ac nid oes angen dangos cerdyn gwyrdd mwyach.
Edrychwch ar wefan GOV.UK i weld pa fath o IDP sydd ei angen arnochYn agor mewn ffenestr newydd i yrru mewn gwahanol wledydd.
Gwiriwch beth a gynhwysir wrth hurio’r car
Bydd y cwmni llogi ceir yn cynnwys y lefel isaf o yswiriant sydd ei angen i yrru'r car yn gyfreithlon yn eich cost llogi. Bydd hyn yn lefel debyg i yswiriant trydydd parti, a byddwch wedi'ch diogelu os caiff y cerbyd ei ddwyn. Bydd yn rhaid i chi dalu gormodedd os bydd hawliad. Gall y taliadau hyn fod yn uchel felly gwiriwch eich gwaith papur am swm y gormodedd.
Gallwch brynu yswiriant i dalu gormodedd rhag ofn y bydd hawliad, ond gall y rhain fod yn eithaf drud os cânt eu prynu gan y cwmni llogi.
Deall cyn-awdurdodi cerdyn credyd
Pan lofnodwch gytundeb hurio car, fel arfer mae’n cynnwys awdurdodiad i’r cwmni hurio godi tâl ar eich cerdyn credyd ar gyfer eitemau ychwanegol.
Dyma pam bod rhaid ichi ddangos eich cerdyn credyd wrth y ddesg wrth gasglu’ch car fel arfer.
Gall y cwmni hurio gymryd taliad o’ch cerdyn heb ddweud wrthych na chael eich caniatâd.
Mewn theori, gallai cwmni rhentu ceir godi'r swm 'gormodedd' llawn arnoch chi am hyd yn oed difrod bach i'r car.
Mae'n bwysig gwirio'r car yn drylwyr a chofnodi pob crafiad a marc. Gallwch chi gymryd fideo o bob ongl o'r car cyn i chi yrru i ffwrdd ac eto pan fyddwch chi'n ei ddychwelyd i'r cwmni llogi rhag ofn bod unrhyw anghydfodau. Pan fyddwch chi'n ei gymryd yn ôl, gwnewch yn siŵr bod y cwmni llogi yn llofnodi ac yn cofnodi pob marc fel eich bod chi'ch dau yn cytuno ar y cyflwr y cafodd ei ddychwelyd ynddo.
Darllenwch y print man
Darllenwch yr holl delerau ac amodau ar-lein cyn ichi brynu. Er mai dim ond wrth y ddesg y bydd y dogfennau i gyd ar gael ar brydiau wrth ichi fynd i gasglu’r car.
Gwiriwch fod gennych sicrwydd ar gyfer milltiroedd dyddiol diderfyn os ydych yn teithio am bellter hir.
Gwiriwch eich datganiad cerdyn credyd ar ddiwedd eich teithiau i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gostau annisgwyl. Os oes unrhyw daliadau rydych am eu herio rhowch wybod amdanynt i’r cwmni hurio a darparwr eich cerdyn credyd ill dau - a fydd yn helpu i ddatrys hyn i chi.
Cadwch lygaid ar y tâl dros ben ar eich yswiriant hurio car
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau llogi ceir yn codi gormodedd uchel iawn os yw'r car yn cael ei ddifrodi neu ei ddwyn – rhwng £500 a £1,500. Y gormodedd yw'r swm a godir arnoch neu a fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad pan fyddwch chi'n gwneud hawliad ar eich yswiriant. Gallant godi swm uchel iawn arnoch chi hyd yn oed am grafiadau bach.
Ystyriwch gymryd yswiriant gormodedd
Fe allech chi eich diogelu’ch hunan trwy brynu yswiriant ad-dalu tâl dros ben Mae hyn yn eich galluogi i hawlio’ch tâl dros ben yn ôl - os codwyd y tâl. Gelwir hyn hefyd yn yswiriant llogi ceir annibynnol. Gallwch ei brynu ar-lein gan wefannau brocer a chymharu.
Mae’r sicrwydd hwn yn cynnwys pethau nas cynhwysir fel arfer mewn unrhyw yswiriant atodol, er enghraifft difrod i’r teiars neu allweddau coll. Er na allwch fel arfer ei gael am geir ddrud iawn neu fan gwersylla.
Mae dau fath o sicrwydd:
- polisi dyddiol, sy’n dechrau ar oddeutu £3
- polisi blynyddol o oddeutu £39 - yn aml yn werth da am bythefnos neu fwy.
Peidiwch â phrynu ‘yswiriant atodol’ gan y cwmni hurio ceir
Bydd eich cwmni hurio ceir yn ceisio gwerthu yswiriant atodol ichi – sy’n lleihau eich tâl dros ben i sero. Adnebir hyn hefyd fel ‘hawlildiad difrod gwrthdrawiad mawr’, ‘sicrwydd tynadwy’ neu ‘sicrwydd di-hawlildiad’
Mae’r yswiriant atodol hwn yn ddrud iawn - oddeutu £10 y dydd.
Gall fod yn werth gwael am arian ond bydd yn osgoi unrhyw ddadleuon pan ddychwelwch y cerbyd gan y dylai unrhyw ddifrod gael ei warchod fel mater o drefn gan eu polisi eu hunain.