Mae prynu a gwerthu tai yn golygu penderfyniadau ariannol mawr. Felly mae’n bwysig cael help a gwybod ble i ddod o hyd i gyngor dibynadwy ar bob cam - o gymryd morgais neu ailforgeisio i ystyried opsiynau i fenthyg yn ddiweddarach mewn bywyd.
Cynghorwyr morgeisi
Gall cynghorwyr chwilio’r farchnad ar eich rhan ac argymell y cytundeb gorau i chi. Darllenwch ein canllaw A ddylech chi ddefnyddio cynghorydd morgeisi?
Defnyddiwch gynghorydd morgeisi rheoledig bob amser – gallwch ddod o hyd i un gan ddefnyddio’r gwefannau hyn:
Gwnewch yn siŵr bod y cwmni rydych chi’n penderfynu delio ag ef yn cael ei reoleiddio drwy wirio Cofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn y corff proffesiynol ar gyfer y cynghorwyr hyn, The Association of Mortgage IntermediariesYn agor mewn ffenestr newydd
Rhyddhau ecwiti a chynghorwyr morgeisi diweddarach mewn bywyd
Os ydych chi’n ystyried cymryd cynnyrch benthyca diweddarach mewn bywyd, gall cynghorwyr arbenigol mewn cynnyrch diweddarach mewn bywyd eich helpu i ddeall y manteision a’r anfanteision ac unrhyw ddewisiadau eraill.
Dod o hyd i gynghorydd:
- Society of Later Life AdvisersYn agor mewn ffenestr newydd – gallwch ddod o hyd i gynghorydd yn eich ardal chi i helpu gyda phob mater ariannol diweddarach mewn bywyd.
- Cyfeiriadur aelodau’r Equity Release CouncilYn agor mewn ffenestr newydd – os ydych chi’n ystyried rhyddhau ecwiti, RHAID i chi gael cyngor rheoledig. Bydd corff masnach y sector yn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd.
- Gallwch hefyd gael cyngor diduedd ar ryddhau ecwiti gan StepChange ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ffonio 0808 1686 719.
- Mae ein Cyfeiriadur cynghorwyr ymddeoliad yn rhestru cynghorwyr ariannol cofrestredig sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad.
Gweler mwy yn ein canllaw rhyddhau ecwiti.
Cyfreithwyr a thrawsgludwyr
- Mae cyfreithiwr neu drawsgludwr yn ymdrin â’r agwedd gyfreithiol o brynu neu werthu eiddo ar eich rhan. Maent yn delio â throsglwyddo arian ac yn eich cynorthwyo hyd at gyfnewid contractau a’u cwblhau.
- Er bod trawsgludwyr yn arbenigo mewn cyfraith eiddo, mae gan gyfreithwyr wybodaeth gyfreithiol ehangach os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Felly mae cyfreithiwr fel arfer yn opsiwn mwy costus.
- Gwnewch yn siŵr bod yr arbenigwr eiddo rydych wedi’i ddewis yn aelod o Gymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr Yn agor mewn ffenestr newydd a Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd ac aelod o’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y CyfreithwyrYn agor mewn ffenestr newydd
- Rhaid i drawsgludwyr fod yn aelodau o’r Cyngor Trawsgludwyr TrwyddedigYn agor mewn ffenestr newydd
Syrfewyr eiddo
Mae syrfewyr yn asesu cyflwr eiddo i’ch helpu i nodi unrhyw broblemau posibl gyda’r tir neu’r adeilad.
Os ydych chi’n prynu eiddo, bydd angen syrfewr arnoch i drefnu Arolwg Cartref.
Dod o hyd i syrfewr lleol: