Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch ad-daliadau morgais, gallai’r llywodraeth helpu. Efallai gallech arwyddo i gynllun achub morgeisi, y cynllun Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais neu fudd-daliadau eraill y llywodraeth a all rhoi hwb i’ch incwm.
Cysylltwch â’ch benthyciwr i ddechrau
Ydych chi angen torri'n ôl ar wariant? Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb.
Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais, dylai’ch cam cyntaf bob amser fod cysylltu â’ch benthyciwr.
Maent eisiau’ch helpu chi i wneud eich ad-daliadau.
Bydd eich benthyciwr yn gallu trafod eich opsiynau â chi, ac yn gallu cynnig awgrymiadau gan gynnwys:
- trefniadau dros dro ar gyfer talu
- ymestyn hyd tymor y morgais neu
- newid dros dro i ad-daliadau llog-yn-unig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ôl-ddyledion morgais neu broblemau wrth dalu’ch morgais
Cael cyngor am ddim
Os ydych chi’n poeni na fyddwch yn gallu talu’ch ad-daliadau, mae digon o wasanaethau cynghori ar gael sy’n rhoi arweiniad yn rhad ac am ddim.
Mae’r rhain yn cynnwys Shelter, National Debtline a StepChange os ydych mewn peryg o droi allan ac elusennau cyngor dyledion am ddim os ydych yn cael trafferth gyda dyledion.
Y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion.
Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan eich landlord.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn argymell atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
- camau cymryd perchnogaeth o eiddo dan forgais
- taliadau budd-daliadau lles
- dyled.
Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â'r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.
Gallwch ddod o hyd i'ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio'r blwch 'Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai' ar, 'Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai' yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cynllun achub morgeisi
Lloegr
Nid yw’r cynllun hwn ar gael bellach.
Cymru
Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnal cynlluniau achub morgais (MRS) i helpu perchnogion tai i osgoi adfeddiant os yw’n debygol y byddai’r perchennog yn mynd yn ddigartref fel arall.
Darganfyddwch fwy ynghylch cynlluniau achub morgais ar wefan Shelter Cymru
Yr Alban
Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i berchnogion cartrefi sy’n cael anhawster talu eu morgais trwy ei Gronfa Cefnogaeth Perchnogion Cartrefi.
Mae dau gynllun ar gael trwy’r gronfa y gallai perchnogion ymgeisio amdanynt:
- Y cynllun Morgais i Rent ble mae landlord cymdeithasol yn prynu’ch cartref ac yn ei rentu’n ôl i chi
- Y Cynllun Ecwiti Morgais a Rennir ble mae Llywodraeth yr Alban yn prynu cyfran o hyd at 30% yn eich cartref, sy’n lleihau faint sydd gennych yn ddyledus ar eich morgais. Byddwch yn dal i fyw yn eich cartref, ond yn gwneud taliadau morgais llawer is o ganlyniad
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth yr Alban
Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais
Os ydych yn hawlio'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
Efallai y byddwch yn medru hawlio help at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) ac fe’i cynigir fel benthyciad i’w ad-dalu.
Darllenwch ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais i gael gwybod mwy am fenthyciadau SMI ac opsiynau ad-dalu
I ddod o hyd i gymorth yng Ngogledd Iwerddon ewch i NI Direct
Cymorth i aros – Cymru
Efallai y bydd perchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gymorth gan y llywodraeth gan ddefnyddio'r cynllun Cymorth i Aros - Cymru. Ei nod yw eich cadw i fyw yn eich cartref wrth roi lle i chi ddatrys unrhyw faterion ariannol.
Gyda Chymorth i Aros, gallwch wneud cais am fenthyciad ecwiti a rennir i helpu i wneud eich taliadau morgais misol yn fwy hylaw. Mae'r benthyciad yn ddi-log am bum mlynedd ond rhaid ei ad-dalu o fewn 15 mlynedd.
Efallai y byddwch yn benthyca hyd at 49% o werth eich cartref. Mae hyn yn seiliedig ar brisiad o'r eiddo a ddarparwyd fel rhan o'r cynllun pan fyddwch yn cymryd y benthyciad. Oherwydd ei fod yn fenthyciad ecwiti a rennir, gallai’r swm terfynol y byddwch yn ei ad-dalu fod yn fwy neu’n llai na’r swm y byddwch yn ei fenthyca, yn ôl gwerth marchnad y cartref ar yr adeg y caiff ei werthu neu ar ddiwedd y tymor 15 mlynedd.
Bydd angen i chi greu cynllun ar gyfer sut y byddwch yn ad-dalu’r benthyciad erbyn diwedd y tymor 15 mlynedd. Gallech hefyd gael eich gorfodi i werthu eich cartref os na fyddwch yn ad-dalu.
Mae'r cynllun yn gyfyngedig. Bydd angen i chi ddangos y canlynol i gyd:
- mae eich cartref naill ai mewn, neu'n wynebu, anhawster morgais, a'ch bod mewn perygl o golli eich cartref
- mae eich eiddo yng Nghymru
- mae gwerth yr eiddo yn £300,000 neu lai
- dim ond un morgais sydd gennych ar eich eiddo
- chi yw perchennog yr eiddo a dyma'ch prif breswylfa neu'ch unig breswylfa
- nid yw cyfanswm incwm y cartref bob blwyddyn yn fwy na £67,000.
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi siarad â:
- eich benthyciwr presennol i gael asesiad cyllideb
- darparwr cyngor ar ddyledion am ddim i gael cynllun argymhelliad ar ddyledion.
Ni allwch wneud cais heb gael y wybodaeth hon yn gyntaf.
Dewch o hyd i ddarparwr cyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim
Budd-daliadau a allai gynyddu’ch incwm
Mae’n werth holi i weld a oes gennych chi hawl i gael budd-daliadau i roi hwb i’ch incwm er mwyn cwrdd â thaliadau morgais.
Trowch at Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd gwasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall
Awgrymiadau am gyllidebu a lleihau costau
Gwiriwch eich incwm a’ch treuliau gan ddefnyddio’n Cynlluniwr cyllideb i’ch helpu.
Dilynwch y dolenni isod i weithio allan eich incwm a’ch treuliau misol, ac i weld a oes unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau costau y gallech eu defnyddio i ryddhau rhywfaint o arian parod ar ddiwedd pob mis. Bydd popeth yn helpu.
- Darllenwch ein canllaw i ddysgu Sut i leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
- Dewch o hyd i fwy o awgrymiadau lleihau costau yn Sut i leihau eich biliau ynni
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.