Mae cyfreithiwr neu drawsgludwr yn trin yr holl waith cyfreithiol ar gyfer prynu neu werthu eiddo. Mae'n swydd bwysig, felly dyma beth sydd angen i chi ei wybod am ddod o hyd i'r arbenigwr eiddo cywir i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig yn ei wneud?
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyfreithiwr a thrawsgludwr?
- Sut i ddod o hyd i arbenigwr eiddo cyfreithiol
- Cwestiynau i’w gofyn i gyfreithiwr neu drawsgludwr
- Dewis yr arbenigwr eiddo cywir
- Cost gyfartalog trawsgludo
- Os ydych chi am wneud cwyn
- Dod o hyd i arbenigwyr eraill mewn prynu neu werthu cartref
Beth mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig yn ei wneud?
Y cwestiwn cyntaf y gofynnir i chi pan fyddwch yn gwneud cynnig ar eiddo yw enw a manylion cyswllt eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig a fydd yn gofalu am y broses drawsgludo.
Trawsgludo yw'r term am y broses gyfreithiol o drosglwyddo perchnogaeth eiddo.
Byddant yn:
delio â chontractau
rhoi cyngor cyfreithiol
gwneud chwiliadau cyngor lleol
ymdrin â'r Gofrestrfa Tir, a
throsglwyddo'r arian i dalu am eich eiddo.
Mae'n swydd bwysig, felly dewiswch yn ofalus a chymharwch mwy nag un cwmni.
Fel arfer mae ffioedd cyfreithiol tua £2,000, gan gynnwys TAW ar 20%.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ffioedd a chostau morgais wrth brynu neu werthu cartref
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyfreithiwr a thrawsgludwr?
Yn y DU, gallwch ddewis naill ai cyfreithiwr neu drawsgludwr i gyflawni'r ochr gyfreithiol wrth brynu neu werthu eiddo.
Mae trawsgludwyr trwyddedig yn arbenigo mewn cyfraith eiddo ond ni allant ymdrin â materion cyfreithiol cymhleth.
Mae cyfreithiwr wedi'i hyfforddi ym mhob maes cyfreithiol a rhaid iddo fod yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith DU. Mae hyn yn golygu eu bod fel arfer yn costio mwy na thrawsgludwr gan y gallant gynnig gwasanaethau cyfreithiol eraill os aiff pethau o’i le.
Mae'r ddau yn cael eu rheoleiddio ac mae'n rhaid iddynt gynnal safonau proffesiynol.
Sut i ddod o hyd i arbenigwr eiddo cyfreithiol
Gofyn i ffrindiau a theulu am gyngor.
Gofyn i'ch benthyciwr, brocer morgais neu Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA).
Chwilio ar-lein. Chwiliwch am opsiynau yn eich ardal leol neu ble rydych chi'n prynu, a gwirio eu sgoriau a'u hadolygiadau.
Efallai y bydd eich asiant tai yn argymell cyfreithiwr, ond gallai hyn fod yn seiliedig ar gomisiwn neu gallai fod yn ddrud, felly cymharwch brisiau mewn mannau eraill bob amser.
Mae trawsgludo ar-lein yn aml yn rhatach, ond efallai mai dim ond trwy e-bost neu dros y ffôn y byddwch yn delio â nhw. Mae rhai pobl yn cwyno am wasanaeth gwael a nad ydynt yn siarad â'r un person bob tro. Ni fyddant yn medru ymdrin â materion cyfreithiol cymhleth.
Gwnewch yn siŵr bod eich arbenigwr eiddo dewisol yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith Cymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd, Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu Gymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon ac aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y GyfraithYn agor mewn ffenestr newydd
Rhaid i drawsgludwyr fod yn aelodau o'r Cyngor Trawsgludwyr TrwyddedigYn agor mewn ffenestr newydd
Cwestiynau i’w gofyn i gyfreithiwr neu drawsgludwr
Cadarnhewch bob amser beth fyddwch yn ei dalu a phryd cyn i chi gyflogi rhywun.
Fel arfer, rhennir ffioedd trawsgludo yn ffioedd cyfreithiol ac 'ad-daliadau'. Taliadau am wasanaethau y mae eich cyfreithiwr yn talu amdanynt, fel chwiliadau, y byddwch yn eu had-dalu yn eich bil terfynol.
Ceisiwch ddarganfod:
A ydynt yn cael eu cymeradwyo gan eich benthyciwr morgais?
Os yw'n berthnasol, a oes ganddynt brofiad o rannu perchnogaeth neu eiddo rhestredig?
Ydyn nhw'n aelodau o gorff proffesiynol?
Beth yw eu proses gwyno?
Dewis yr arbenigwr eiddo cywir
Gall prynu tŷ fod yn straen. Ond gall cael cyfreithiwr neu drawsgludwr sy'n gallu ateb unrhyw gwestiynau ei gwneud hi'n llawer haws.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod yr amseroedd a'r ffyrdd gorau o gysylltu â nhw.
Gwiriwch a oes ganddynt system sy'n eich galluogi i dracio sut mae'r pryniant yn datblygu.
Gwiriwch a oes ganddynt wyliau wedi'u trefnu pryd y bydd eu hangen arnoch.
Gofynnwch bwy fydd yn camu i mewn os ydynt i ffwrdd neu i ffwrdd yn sâl.
Gwybod ble maen nhw wedi'u lleoli a phenderfynu beth sydd bwysicaf i chi. Mae defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr yn agos i'ch cartref neu'ch gwaith yn ei gwneud hi'n haws gollwng neu gasglu dogfennau os oes angen; ac efallai y bydd trefniadau neu brydlesi lleol, sy'n unigryw i'ch ardal. Ond efallai y bydd cwmnïau ar-lein neu gwmnïau ymhellach i ffwrdd yn cynnig gwasanaeth rhatach, felly mae'n bwysig pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision.
Cost gyfartalog trawsgludo
Gellir codi tâl arnoch mewn gwahanol ffyrdd:
ffi sefydlog
cyfradd yr awr, neu
canran o bris yr eiddo.
Ceisiwch gael dyfynbrisiau gan dri chwmni gwahanol ar gyfanswm cost eu gwasanaeth.
Gwnewch yn siŵr bod y dyfynbrisiau’n dangos yr holl gostau, gan gynnwys TAW, felly cewch chi gymharu fel ag y mynnwch. Mae'r ffioedd yn amrywio a gallent gostio rhwng £800 i hyd at mwy na £2,000 i chi.
Mae'n rhaid iddynt gynnwys taliadau am:
chwiliadau
trosglwyddiadau banc
Ffioedd y Gofrestrfa Tir
Treth Stamp, Treth Trafodiadau Tir, neu Adeiladau a Threth Trafodiadau Tir, os yw'n berthnasol
costau eraill gan gynnwys gwasanaethau postio a negesydd
gwaith ychwanegol os yw'r broses yn fwy cymhleth neu frys na'r disgwyl
mae rhai trawsgludwyr yn codi mwy os ydych am ddefnyddio ISA Cymorth i Brynu neu Gydol Oes, neu os ydych yn prynu neu'n gwerthu eiddo cydberchnogaeth.
Darganfyddwch am gostau eraill wrth brynu neu werthu cartref.
Os ydych chi am wneud cwyn
Gall pethau fynd o’i le ac mae grwpiau a all eich helpu os ydych am wneud cwyn.
Dod o hyd i arbenigwyr eraill mewn prynu neu werthu cartref
Darganfyddwch y bobl iawn i siarad â nhw am gartrefi a morgeisi yn ein canllaw Prynu neu werthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol.