Gall cael y wybodaeth i gyd a’r manylion cyfrif bydd angen arnoch wrth law, gan gynnwys rhifau cyfeirnod eich helpu i chi ffocysu ar y ffeithiau a’ch gwneud i chi deimlo mewn rheolaeth o’r sgwrs gan fydd modd i chi ateb cwestiynau’n haws.
Os ydych yn gofyn am gymorth oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd, er enghraifft, rydych wedi colli’ch swydd neu rydych yn cael trafferth o ganlyniad i salwch neu ddamwain, profedigaeth neu chwalu perthynas mae’n ddefnyddiol cael llythyr meddyg neu gyfriflen banc sy’n dangos gostyngiad yn eich incwm yn agos.
Os oes dogfennau ar goll gennych, gallwch ofyn i’ch credydwyr am gopïau neu fynediad iddynt drwy eich cyfrif ar-lein os oes un gennych.
Os bydd dod o hyd i ddogfennau yn cymryd gormod o amser neu nad ydych yn teimlo fel chwilio amdanynt, peidiwch â gadael i’r dogfennau coll eich rhwystro rhag siarad â’ch credydwr.
Mae hwn yn arbennig o wir os ydych yn agored i niwed neu’n dioddef o iechyd meddwl isel ac mae hwn yn teimlo’n ormod i chi. Byddai’n well gan eich credydwr eich bod yn cysylltu â nhw, a gallech weithio allan pa ddogfennau sydd angen arnoch gyda’ch gilydd.