Angen mwy o help? Cysylltwch â ni am arweiniad ariannol sy’n ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, boed yn uniongyrchol â’n tîm ar-lein neu dros y ffôn. Beth bynnag fo'ch cwestiwn, rydym yma i helpu. Os nad ydym yn gwybod yr ateb, gwnawn eich cyfeirio at rywun sydd yn gwybod.
Fel sefydliad annibynnol a diduedd, nid oes gennym fynediad at gofnodion ariannol pobl ac nid ydym yn darparu cyngor ariannol sydd wedi’i reoleiddio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Ffôn
Eisiau siarad ag un o’r tîm yn uniongyrchol ynghylch clirio’ch dyledion, lleihau eich gwariant neu wneud y gorau o’ch incwm? Ffoniwch ni ar rifau cyswllt HelpwrArian isod am arweiniad arian am ddim a diduedd.
- 0800 138 0555 (Cymraeg)*
 - 0800 138 7777 (Saesneg)*
 - RelayUK (enw newydd Typetalk): 18001 0800 915 4622*
 - O dramor: +44 20 3553 2279.
 
*Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant.
Oriau agor llinellau ffôn
- Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
 - Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau banc, ar gau.
 
Gwesgwrs
A oes gennych gwestiwn? Bydd ein cynghorwyr yn rhoi’r arweiniad cywir i chi. Gallwch ddechrau Gwesgwrs ar-lein i siarad â ni yn fyw.
Oriau agor gwesgwrs
- Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
 - Ar gau ar ddydd Sadwrn, Sul a gwyliau’r banc.
 
A ydych angen help i ddelio â’ch dyledion, a oes gennych gwestiynau am gredyd neu a ydych angen arweiniad pensiynau? Gallwch siarad â ni yn fyw ar WhatsApp.
- Ychwanegwch +44 7593 572 874 i’ch WhatsApp ac anfonwch neges atom
 - AM bopeth arall dylech gysylltu â ni drwy Wesgwrs neu ffôn.
 
Gweffurflen
Gallwch anfon cwestiwn drwy ein ffurflen ymholiad ar-lein.
Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.
Cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn weithredol ar FacebookYn agor mewn ffenestr newydd, X (Twitter)Yn agor mewn ffenestr newydd a LinkedInYn agor mewn ffenestr newydd Nid ydym yn cynnig arweiniad personol ar gyfryngau cymdeithasol.
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth cyfoed i gyfoed drwy ein cymunedau ar Facebook.
Galwadau ffôn digymell
Ni fyddwn byth yn gwneud galwadau digymell atoch nac yn gofyn am wybodaeth ariannol bersonol fel manylion banc neu ddogfennau pensiwn.
Os ydych yn derbyn galwad annisgwyl gan rywun sy'n honni i fod o HelpwrArian, Pension Wise, Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, peidiwch â dweud wrthynt am unrhyw fanylion personol a rhowch wybod am y galwad i'r FCA.
Rhowch wybod am alwadau digymell ar wefan yr FCA
Os ydych wedi rhoi unrhyw wybodaeth fancio i alwr annisgwyl, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i wefan Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
Am fwy o wybodaeth am sgamiau, gwelwch ein Canllaw dechreuwr i dwyll
Cwestiynau cyffredin
Pa bynciau alla i’u trafod gyda thîm HelpwrArian?
Rydym yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
Penderfyniadau arian bob dydd.
Am ba mor hir y bydda i’n gorfod aros ar y llinell os byddaf yn ffonio tîm HelpwrArian?
Byddwn fel arfer yn ateb eich galwad o fewn 30 eiliad, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Yn ystod eich sgwrs, efallai y bydd angen i chi aros ar y llinell tra’n bod yn casglu’r wybodaeth gywir i’ch cefnogi chi.
Rydym yn anelu at gadw’r cyfnodau aros ar y llinell hyn mor fyr ag sy’n bosibl, er mewn rhai achosion, mae eu hangen er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr arweiniad cywir.
Pryd allaf ddisgwyl cael ymateb ar We-sgwrs, Whatsapp, trwy’r ffurflen ar-lein neu e-bost?
Rydym yn ceisio’n gorau i gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Gallwn ymateb i’ch Gwe-sgwrs, Whatsapp ac e-bost yn ystod ein horiau agor arferol o 8:00am i 6:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ystod yr oriau hyn, dylech gael ymateb mewn cwpwl o funudau trwy we-sgwrs ac o fewn dwy awr ar Whatsapp. Ar gyfer ymholiadau trwy e-bost, rydym yn anelu at ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith o dderbyn eich neges.
Pa fanylion sydd eu hangen arnaf i’w darparu neu eu cael wrth law wrth gysylltu â HelpwrArian?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich cwestiwn. Gallai fod yn ddenfyddiol cael dogfennau perthnasol megis cyfriflenni neu lythyrau’n barod pan fyddwch yn siarad â ni.
Gallai rhywun eich holi i rannu ychydig o fanylion personol i’n helpu i greu gofnod cwsmer. Mae hyn yn ddewisol ac ni fydd yn effeithio ar y gwasanaeth rydych yn ei gael.
Pwy alla i siarad â nhw am arweiniad ar farwolaeth a galar?
Nid yw dygymod â cholli un annwyl byth yn hawdd, a gall fod yn straen pan fo cwestiynau am arian yn codi ac nid ydych yn gwybod yr atebion.
I sicrhau eich bod yn cael yr arweiniad iawn ar gyfer eich sefyllfa penodol, rydym yn argymell estyn allan atom yn uniongyrchol.
Gall ein tîm ddarparu cefnogaeth bersonol, diduedd i’ch helpu i weithio trwy broblemau ariannol yn ystod yr adeg anodd hon.
Pwy alla i siarad â nhw am ryddhad dyled ac anawsterau ariannol?
Gall dygymod â dyled fod yn heriol ac weithiau, gall fod yn anodd siarad amdano.
Gallwch ein ffonio, e-bostio neu anfon neges atom ar Whatsapp neu We-sgwrs a gall ein tîm roi arweiniad i chi ar bwy i siarad â nhw am help. Os oes well gynnych archwilio opsiynau cefnogaeth yn annibynnol, mae gennym declyn Lleolwr Cyngor ar Ddyledion a all eich rhoi mewn cyswllt uniongyrchol â gwasanaethau cyngor ar ddyledion am ddim, cyfrinachol ar draws y DU.
P'un a ydych chi'n chwilio am gefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, mae’r teclyn hwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r help cywir i ddiwallu’ch anghenion.
Os ydych yn dioddef o galedi ariannol, gall ein hasiantwyr eich arwain at gefnogaeth ychwanegol a allai fod ar gael i chi.
Gallai hyn gynnwys:
cyfeiriadau at fanciau bwyd
manylion am grantiau a chefnogaeth elusennol
gwybodaeth ar fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w cael.
Pwy alla i siarad â nhw am bensiynau?
Defnyddiwch ein tudalen cysylltu â ni am bensiynau i ddarganfod sut y gallech siarad â’n harbenigwyr dros y ffôn, ar We-sgwrs neu drwy e-bost.
Pwy alla i siarad â nhw am gynllunio ariannol cymhleth?
Tra bod HelpwrArian yn wasanaeth sy’n rhoi arweiniad, gallwn gynnig cefnogaeth gyffredinol ar faterion ariannol cymhleth. Fodd bynnag, am gynllunio ariannol personol sydd wedi’i deilwra i’ch sefyllfa unigol chi, gallai fod yn well siarad â chynghorydd ariannol annibynnol (IFA).
Gallai’r dolenni hyn eich helpu i gysylltu â phobl broffesiynol sy’n cynnig cyngor ar bensiynau, buddsoddiadau, morgeisi a chynllunio ariannol:
Hwb Cynghorwyr Ariannol HelpwrArian – dysgwch sut mae cyngor ariannol yn gweithio a ble i’w gael.
Canllaw ar ddewis cynghorydd ariannol – deallwch y gwahanol fathau o gynghorwyr a sut i ddod o hyd i un sy’n addas i’ch anghenion.
Cyfarwyddiadur Cynghorwyr ar Ymddeoliad – dewch o hyd i gynghorwyr ar ymddeoliad, treth etifeddiaeth, rhyddhau ecwiti a mwy sydd wedi’u rheoleiddio gan yr FCA.