Pan fyddwch chi'n feichiog ac am 12 mis ar ôl genedigaeth eich babi, gallwch gael presgripsiynau am ddim a gofal deintyddol y GIG gyda Thystysgrif Eithrio oherwydd Mamolaeth.
Beth mae gennyf hawl iddo?
Mae gofal deintyddol y GIG yn rhad ac am ddim yn y DU tra byddwch yn feichiog ac am flwyddyn ar ôl i'ch babi gael ei eni.
- Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae presgripsiynau yn rhad ac am ddim i bawb. Yn Lloegr, dim ond tra byddwch chi'n feichiog y mae presgripsiynau am ddim. I barhau i gael presgripsiynau am ddim am flwyddyn ar ôl genedigaeth eich plentyn, mae'n rhaid i chi gael Tystysgrif Eithrio oherwydd Mamolaeth (MatEx) dilys.
Sut allaf hawlio’r gwasanaethau rhad ac am ddim hyn
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw Tystysgrif Eithrio Mamolaeth, wedi’i llofnodi gan eich doctor neu fydwraig.
Mae’r dystysgrif hon yn eich caniatáu i gael presgripsiynau a gofal deintyddol am ddim gan y GIG.
Dim ond gan eich meddyg neu fydwraig y gallwch gael y ffurflen gais Eithrio oherwydd Mamolaeth (FW8).
Byddant yn ei llofnodi a’i hanfon i mewn ar eich rhan. Byddwch yn cael eich tystysgrif yn y post.
Dangoswch eich tystysgrif yn y fferyllfa wrth gael presgripsiwn yn Lloegr.
A dweud wrth dderbynnydd y deintydd eich bod yn gymwys am driniaeth yn rhad ac am ddim ar y GIG am eich bod yn feichiog pan fyddwch yn gwneud apwyntiad deintyddol.
A ydwyf yn gymwys?
Os ydych yn feichiog neu wedi cael babi yn ystod y 12 mis diwethaf, rydych yn gymwys.
Os nad yw’ch tystysgrif yn cyrraedd mewn pryd
Gallwch hawlio ad-daliad os oedd rhaid ichi dalu cyn i’ch tystysgrif gyrraedd.
Gofynnwch i’ch fferyllydd am dderbynneb a ffurflen hawlio (FP57).
Gyda’ch deintydd, rydych angen ffurflen FP64.
Trefnu’ch apwyntiad deintyddol
Oeddech chi’n gwybod?
Mae pob plentyn yn derbyn presgripsiynau am ddim tan eu bod yn 16 oed (neu’n 18 oed os mewn addysg llawn amser) a gofal deintyddol am ddim tan eu bod yn 18 oed.
Mae amryw ohonom yn osgoi gwneud apwyntiad gyda’r deintydd. Ond mae’n gwneud synnwyr i weld y deintydd tra bydd am ddim.
Rydych yn fwy tebygol o gael dannedd a gymiau sensitif tra’ch bod yn feichiog, felly gallai mynd at y deintydd helpu i leddfu unrhyw boen.
Yn Lloegr
Bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £27.40 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol. Neu hyd at £326.70 am driniaethau drutach fel pont neu goron.
Yng Nghymru
Bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £20 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol. Neu hyd at £260 am driniaethau drutach fel pont neu goron.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Rhaid i unrhyw un sydd ddim yn gymwys i gael triniaeth ddeintyddol am ddim neu am help gyda chostau dalu 80% o gost eu triniaeth ddeintyddol – hyd at uchafswm o £384.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo
Mae budd-daliadau ac arbedion eraill ar gael ar gyfer merchaid beichiog a theuluoedd.
Mae ein Llinell amser arian babi yn rhoi rhestr bersonol lawn i chi o’r holl ddyddiadau sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd a’ch babi newydd.
Mae’n hawdd ei lenwi ac mae’n eich helpu i weithio allan a ydych chi’n cael yr holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi.
Mae’n cynnwys popeth o drefnu eich absenoldeb mamolaeth a’ch tâl i hawlio Budd-dal Plant. A gallai arbed llawer o arian i chi.
Darganfyddwch fwy ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Mwy o wybodaeth
- Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim a phresgripsiynau am ddim ar wefan NHS Choices
- Yn yr Alban, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan mygov.scot
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan nidirect