Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth sy'n digwydd i'ch Budd-dal Plant os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £60,000 y flwyddyn cyn treth. Bydd yn eich helpu i ddeall faint y gallai fod angen i chi ei dalu'n ôl a beth sydd angen i chi ei wneud.
A yw’n werth hawlio Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £60,000?
Os ydych chi a'ch partner yn ennill llai na £60,000 y flwyddyn, byddwch yn derbyn swm llawn y Budd-dal Plant heb orfod talu dim ohono yn ôl.
Ond os ydych chi neu'ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn, mae angen i chi dalu rhywfaint o'r budd-dal yn ôl. Dyma pam y gallai rhai pobl ddewis peidio â gwneud cais am Fudd-dal Plant. Fodd bynnag, gallai fod yn syniad gwneud cais amdano o hyd, yn enwedig os nad ydych chi neu'ch partner yn gweithio neu'n ennill llai na’r terfyn enillion isaf ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Drwy wneud yn siŵr eich bod yn dal i wneud eich cais am Fudd-dal Plant – hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd y taliadau — rydych yn sicrhau nad ydych yn colli allan ar:
credydau Yswiriant Gwladol i ddiogelu'ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig cyn ei ben-blwydd yn 16 oed
budd-daliadau eraill – er enghraifft, Lwfans Gwarcheidwad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i hawlio Budd-dal Plant
Sut i gyfrifo eich cyflog
Gallai eich cyflog fod dros £60,000, ond yr hyn y mae CThEF yn talu sylw iddo yw eich 'incwm net wedi'i addasuYn agor mewn ffenestr newydd' Dyma'r cyflog rydych chi'n cael eich trethu arno ac nid yw'n cynnwys pethau rydych chi'n talu amdanynt drwy aberthu cyflog.
Gallwch leihau eich cyflog cymryd adref trwy gynyddu eich cyfraniadau pensiwn gweithle. Gallwch hefyd wneud hyn trwy dalu i mewn i bensiwn personol.
Os gallwch fforddio gwneud hyn, gallai gyfyngu ar faint o Fudd-dal Plant y bydd angen i chi ei had-dalu. Efallai yr hoffech siarad â chyfrifydd am hyn am fwy o wybodaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i hawlio Budd-dal Plant.
Os ydych chi neu'ch partner yn ennill rhwng £60,000 a £80,000 y flwyddyn
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill rhwng £60,000 a £80,000 y flwyddyn cyn treth, bydd rhaid i chi dalu cyfran o’ch Budd-dal Plant yn ôl mewn Treth Incwm ychwanegol.
Darganfyddwch fwy am ffioedd treth, gan gynnwys cyfrifianell treth Budd-dal PlantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Sut mae’n gweithio?
Awgrym da
A ydych gartref yn gofalu am eich babi neu'ch plant – a ddim yn talu Yswiriant Gwladol? Yna bydd hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i ddiogelu'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn oherwydd byddwch yn cael credydau tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy ar wefan Swyddfa Budd-dal Plant neu ffonio 0300 200 3100.
Byddwch yn parhau i dderbyn y swm llawn o Fudd-dal Plant bob mis – neu bob wythnos os cewch eich talu’n wythnosol.
On bydd rhaid i’r un sy’n ennill y mwyaf dalu mwy o Dreth Incwm i ad-dalu’r gyfran o Fudd-dal Plant nad ydych yn gymwys amdani bellach.
Gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell dreth Budd-dal Plant ar GOV.UK i gael amcangyfrif o'r dreth incwm ychwanegol y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu.
Neu gallwch ofyn i CThEF ar-lein i gymryd eich tâl treth Budd-dal Plant o'ch cyflog bob mis, yn hytrach na'i dalu i gyd ar unwaith.
Gallwch wneud hyn os:
nad oes angen i chi lenwi ffurflen dreth am unrhyw reswm arall
rydych yn gofyn cyn 31 Ionawr ar ôl i'r flwyddyn dreth ddod i ben.
Os na allwch dalu trwy'ch cyflog, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth yn lle hynny.
Gallwch ofyn am dalu drwy eich cyflog ar GOV.UK neu drwy ap CThEF.
Faint bydd rhaid i chi ei ad-dalu?
Bydd rhaid i chi ad-dalu 1% o Fudd-dal Plant eich teulu am bob £200 ychwanegol rydych yn ei ennill dros £60,000 bob blwyddyn.
Gelwir hyn yn Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. Gallwch dalu naill ai drwy Hunanasesiad neu drwy PAYE drwy newid eich cod treth.
Gallwch dalu drwy PAYE os nad oes angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad am unrhyw reswm arall ac mae cyn 31 Ionawr yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu amdani.
Os nad yw'r naill na'r llall o'r rhain yn berthnasol, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a chwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad bob blwyddyn. Os nad ydych fel arfer yn anfon ffurflen dreth i CThEF, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu'r tâl.
I gael mwy o wybodaeth am dalu'r Treth Budd-dal Plant Incwm UchelYn agor mewn ffenestr newydd ac i gofrestru am Hunanasesiad ar GOV.UK.
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £80,000 y flwyddyn
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £80,000 y flwyddyn cyn treth, bydd rhaid i chi dalu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl fel Treth Incwm.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn parhau i dderbyn y swm llawn o Fudd-dal Plant bob mis – neu bob wythnos os cewch eich talu’n wythnosol.
Ond bydd yn rhaid i ba un ohonoch chi sydd â'r incwm uchaf dalu'r swm llawn yn ôl ar ffurf Treth Incwm naill ai drwy PAYE neu drwy lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Cewch amcangyfrif o faint o dreth y byddai rhaid i chi ei thalu oherwydd eich Budd-dal Plant gan ddefnyddio’r cyfrifiannell treth Budd-dal Plant ar GOV.UK
Os ydych am stopio eich taliadau Budd-dal Plant
Gallwch ddewis peidio â stopio derbyn taliadau Budd-dal Plant.
- Mae hyn yn osgoi’r drafferth o dalu treth ychwanegol.
- Ni fydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen dreth.
- Os ydych yn ennill rhwng £60,000 a £80,000, yn y pen draw byddwch ar eich colled gan y byddwch yn ildio’r gyfran o Fudd-dal Plant rydych yn gymwys amdani o hyd.
Sut i stopio eich taliadau
Rhowch wybod i CThEF eich bod yn dymuno stopio eich taliadau. Gallwch stopio eich taliadau Budd-dal Plant ar GOV.UK.