Gwiriwch a fydd CThEF yn hawlio eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl
Os ydych chi'n gwybod faint rydych chi'n ei ennill gallwch chi wirio a fydd angen i chi ei dalu'n ôl trwy offeryn gwirio ar GOV.UK.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
28 Awst 2025
Mae rheolau newydd yn golygu, er y bydd mwy o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf hwn, bydd angen i unrhyw un sy'n cael y taliad ac yn ennill dros £35,000 ei dalu'n ôl trwy'r system dreth. Os byddai'n well gennych osgoi cael yr arian wedi’i gymryd bob mis, gallwch optio allan dros y ffôn neu drwy ffurflen ar-lein. Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr, mae gennych tan 14 Medi 2025.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth - mae hyn yn golygu y byddwch wedi cael eich geni cyn 22 Medi 1959 - ac yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch gael y taliad. Ond yn dibynnu ar eich incwm, efallai y bydd angen i chi ei dalu'n ôl trwy'r system dreth.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, ni allwch gael y Taliad Tanwydd Gaeaf, yn hytrach gallwch gael y Taliad Gwresogi Gaeaf Oed Pensiwn, sy'n werth hyd at £305.10. Fel y Taliad Tanwydd Gaeaf, bydd angen i chi ei dalu'n ôl os ydych chi'n ennill dros £35,000. Gallwch hefyd optio allan o'r taliad hwn, ond nid oes dyddiad cau wedi'i gyhoeddi. Am ragor o wybodaeth am sut mae Taliad Gwresogi Gaeaf Oed Pensiwn yn gweithioYn agor mewn ffenestr newydd ewch i mygov.scot.
Mae faint rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar eich oedran, gyda phwy rydych chi'n byw, eu hoedran a'ch amgylchiadau rhwng 15 a 21 Medi 2025. Gelwir hyn yn 'wythnos gymhwyso'.
Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud wrthych faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y byddwch chi'n ei gael.
Os ydych chi'n byw gyda phartner a bod y ddau ohonoch dros 80 oed yn ystod yr 'wythnos gymhwyso', byddwch yn cael taliad uwch. Os ydych chi'n 66 i 79 oed, byddwch yn cael taliad is.
Eich oedran yn ystod yr wythnos gymhwyso | Eich taliad unigol os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun | Eich taliad unigol os ydych chi'n byw gyda phartner sy’n 80 oed neu'n hŷn | Eich taliad unigol os ydych chi'n byw gyda phartner rhwng 66 a 79 oed |
---|---|---|---|
66 i 79 oed |
£200 |
£100 |
£100 |
80 oed neu'n hŷn |
£300 |
£150 |
£150 |
Yr unig adeg y byddwch chi'n cael taliad ar y cyd ar gyfer eich cartref yw os ydych chi'n cael budd-daliadau prawf modd. Yna bydd un taliad yn cael ei wneud i 'brif hawlydd' y cais budd-dal ar ran dau aelod y pâr. Am ragor o wybodaeth am faint o daliad tanwydd gaeaf y byddwch chi'n ei gael, ewch i GOV.UK.
Efallai. Os ydych chi'n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac yn byw mewn cartref gofal rhwng 23 Mehefin a 21 Medi 2025, ni allwch gael y taliad Tanwydd Gaeaf. Fodd bynnag, os ydych chi'n byw mewn cartref nyrsio ac nad ydych yn hawlio'r budd-daliadau hyn, gallwch gael £100 os ydych chi'n 66 i 79 oed neu £150 os ydych chi'n 80 oed neu'n hŷn.
Er y bydd pawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael y taliad, bydd angen i rai dalu'r cyfan yn ôl. Os yw eich incwm trethadwy personol dros £35,000 rhwng 6 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026, bydd CThEF yn cymryd eich taliad yn ôl drwy'r system dreth.
Mae incwm trethadwy yn cynnwys arian rydych chi'n ei ennill drwy:
Bensiwn y Wladwriaeth
Pensiwn Preifat (yn y gweithle neu'n bersonol)
Difidendau
Cyflogaeth
Rhent
Llog cynilo
Hunangyflogaeth
Budd-daliadau'r wladwriaeth
Budd-daliadau'r wladwriaeth sy'n drethadwy – os nad ydych chi'n siŵr pa fudd-daliadau sy'n drethadwy, gallwch wirio ar GOV.UK.
Os ydych chi'n gwybod y bydd eich incwm yn uwch na'r £35,000 y flwyddyn, gallwch ddewis peidio â chael y taliad ac osgoi iddo gael ei gymryd yn ôl yn nes ymlaen.
I optio allan, bydd angen i chi ffonio Canolfan Talu Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160Yn agor mewn ffenestr newydd neu lenwi'r ffurflen optio allan ar-lein cyn 14 Medi 2025. Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch.
Os byddwch yn optio allan a bod eich amgylchiadau'n newid, byddwch yn gallu optio’n ôl i mewn drwy gysylltu â'r Ganolfan Talu Tanwydd Gaeaf cyn 31 Mawrth 2026.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn gwybod y bydd eich incwm yn uwch na'r £35,000 y flwyddyn, gallwch ddewis peidio â chael y taliad ac osgoi iddo gael ei gymryd yn ôl yn nes ymlaen. Nid oes dyddiad cau eto. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yng Nghanolfan Talu Tanwydd Gaeaf ar nidirect.
Os yw eich incwm trethadwy personol chi dros £35,000 ond nad yw incwm eich partner, bydd CThEF yn cymryd eich taliad chi yn ôl ond bydd eich partner yn gallu cadw eu taliad.
Os nad ydych fel arfer yn ffeilio ffurflenni treth hunanasesu, bydd CThEF yn newid eich cod treth a byddwch yn derbyn llythyr Hysbysiad Cod Treth.
Bydd newid eich cod treth yn golygu y bydd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddidynnu o'ch incwm a'i dalu i CThEF mewn rhandaliadau misol ar draws blwyddyn dreth 2026-2027, o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Er enghraifft, os ydych wedi cael taliad o £200 ond mae gennych incwm o dros £35,000, byddwch yn ad-dalu tua £17 yn ôl bob mis.
Os byddwch yn ffeilio ffurflen dreth hunanasesu ar-lein bob blwyddyn, bydd CThEF yn cynnwys y taliad yn awtomatig ar eich ffurflen dreth fel rhan o'ch incwm o flwyddyn dreth 2026 i 2027.
Os ydych chi'n ffeilio ffurflen dreth hunanasesiad bapur, bydd angen i chi gynnwys y taliad ar eich ffurflen dreth.
Mae'r swm y gallwch ei gael ar gyfer y gaeaf hwn yn seiliedig ar eich amgylchiadau yn ystod yr 'wythnos gymhwyso' - 15 i 21 Medi 2025. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ar ôl wythnos gymhwyso, ni fydd swm y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adolygu ar gyfer y gaeaf hwnnw ond byddai ar gyfer blynyddoedd i ddod.
Er enghraifft, os ydych chi'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl wythnos gymhwyso eleni, ni fyddwch yn cael taliad y gaeaf hwn, ond byddwch yn ei gael yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r un peth yn wir os bydd eich sefyllfa fyw yn newid – fel symud i mewn gyda phartner, os ydych chi'n troi'n 80 oed neu'n dechrau byw ar eich pen eich hun – bydd eich cyfradd newydd yn berthnasol y flwyddyn nesaf.