Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
31 Gorffennaf 2025
Os oes gennych sgôr credyd gwael ond bod angen i chi fenthyca arian, efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad gwarantwr. Gall y benthyciadau hyn fod yn ddrud a gallant olygu cael ffrind agos neu aelod o'r teulu i gytuno i dalu os na allwch. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi wneud cais.
Os ydych wedi cael eich gwrthod am fenthyciad oherwydd credyd gwael - neu nad oes hanes credyd gennych - gallai benthyciad gwarantwr fod yn opsiwn benthyca sy'n agored i chi. Mae hyn pan fydd rhywun, fel arfer ffrind neu aelod o'r teulu – sydd â hanes credyd da yn 'gwarantu' eich benthyciad, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddynt ei dalu'n ôl os na allwch chi.
Mae'n bwysig bod yn ofalus iawn gyda'r benthyciadau hyn, gan eu bod fel arfer yn llawer drutach na benthyca safonol, gallant achosi rhwygiadau mewn perthnasoedd os bydd pethau'n mynd o'i le, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r benthycwyr gwarantwr mwyaf wedi methu â bodloni’r gwiriadau priodol.
Pan fyddwch chi'n benthyca arian gan fenthyciwr traddodiadol, banc neu undeb credyd fel arfer, rydych chi'n talu'r hyn rydych chi'n ei fenthyca gyda llog wedi'i ychwanegu ar ei ben. Mae benthyciad gwarantwr yn gweithio yn yr un modd ond eich bod hefyd yn enwebu person ychwanegol a all gamu i mewn a gwneud eich taliadau os na allwch chi eu fforddio.
Pwrpas gwarantwr yw dangos i'r benthyciwr (y cwmni sy'n rhoi'r benthyciad i chi) bod rhywun â chredyd da yn gallu talu'r benthyciad yn ôl os nad ydych chi'n gallu. Mae'r person hwn yn 'gwarantu' y bydd y benthyciwr yn cael eu harian yn ôl, hyd yn oed os oes gennych gredyd gwael neu nad oes gennych hanes credyd.
Yn nodweddiadol, byddai gwarantwr yn rhywun sy'n eich adnabod yn dda iawn, sydd ag incwm sefydlog - ac felly’n gallu fforddio gwneud yr ad-daliadau benthyciad ar eich rhan. Mae hefyd yn bwysig ei fod yn rhywun sy'n gallu deall yn glir beth mae'n ei olygu i fod yn warantwr. Bydd benthyciwr yn gofyn am eu manylion pan fyddwch chi'n gwneud cais am y benthyciad.
Mae bod yn warantwr yn ddifrifol. Maent yn gyfreithiol gyfrifol am eich ad-daliadau os ydych chi'n mynd i drafferth felly, os yw rhywun yn dweud nad ydyn nhw eisiau bod yn warantwr i chi, ni allwch roi pwysau arnynt neu orfodi iddynt wneud.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn warantwr yn ein canllaw Esbonio Benthyciadau Gwarantwr.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Prif fantais cael benthyciad gwarantwr yw ei fod yn ffordd o fenthyca arian os nad oes gennych opsiynau eraill. Gallai hyn fod oherwydd nad oes gennych hanes credyd digon hir – er enghraifft, os ydych chi'n berson ifanc sy'n byw'n annibynnol am y tro cyntaf neu'n rhywun sydd newydd symud i'r DU.
Mae diffyg hanes credyd yn golygu na all benthyciwr farnu a ydych chi'n debygol o dalu'r benthyciad yn ôl ar amser. Gweler ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd ar gyfer eich camau nesaf.
Yn nodweddiadol, benthyciadau gwarantwr yw rhai o'r ffyrdd drutaf o fenthyg arian. Mae eu cyfraddau llog yn uchel o'u cymharu â benthycwyr stryd fawr safonol. Ar gyfer benthyciad gwarantwr nodweddiadol, gallech dalu hyd at £175 yn ôl am bob £100 rydych chi'n ei fenthyca.
Cofiwch, er y dylai benthycwyr wirio a allwch fforddio talu'r arian rydych chi'n gofyn i'w fenthyg, canfuwyd nad oedd rhai benthycwyr, gan gynnwys benthyciwr gwarantwr mwyaf y DU, wedi gwneud hynny. Mewn gwirionedd, canfuwyd ei fod wedi cam-werthu miloedd o fenthyciadau a chafodd gorchymyn i dalu iawndal.
Er y dylai'ch benthyciwr gynnal gwiriadau priodol, mae bob amser yn hanfodol gofyn i chi'ch hun a yw'r benthyciad yn fforddiadwy i chi. A allech chi fforddio eich holl filiau cartref hanfodol ar ben eich ad-daliadau? Oherwydd os ydych chi'n cael trafferth gwneud eich ad-daliadau, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich gwarantwr i gamu a'u talu ar eich rhan.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw benthyca yn iawn i chi, edrychwch ar ein canllaw ar Gwneud yn siŵr eich bod chi'n gallu fforddio benthyca.
Os oes gan y person rydych chi'n gweithredu fel gwarantwr ar ei gyfer sgôr credyd gwael, efallai na fyddant yn gallu gwneud eu had-daliadau yn gyfforddus. Felly, y prif risg yw y gallech gael eich gorfodi i dalu arian yn ôl. Hyd yn oed gyda'r bwriad gorau, gall fywyd fod yn droellog a gall sefyllfaoedd swyddi a thai newid, felly efallai na fydd yr hyn a oedd yn fforddiadwy iddyn nhw yn y gorffennol yn fforddiadwy yn y dyfodol. Fel gwarantwr, mae angen i chi ystyried sut y byddech chi'n ymdrin â bod yn gyfrifol am eu dyled.
Mae elfen emosiynol iddo hefyd. Er mwyn i rywun ofyn i chi fod yn warantwr, mae’n debygol iawn eich bod yn agos at eich gilydd ac yn gofalu am eich gilydd. Mae'n hawdd iawn i bethau fynd o'i le, ac iddo gael effaith negyddol ar eich perthynas.
Gallai. Os yw'r benthyciwr yn gwneud ei holl ad-daliadau ar amser, ni fydd eich sgôr credyd yn cael ei effeithio - fodd bynnag, os oes rhaid i chi gamu i mewn i dalu unrhyw un o ad-daliadau'r benthyciwr - neu os yw'r benthyciad yn methu, bydd hyn yn weladwy ar eich adroddiad credyd. Gallwch wirio eich sgôr credyd yn hawdd – darganfyddwch sut yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd am ddim.