Gall sgôr credyd da olygu eich bod yn gymwys i gael cyfraddau rhatach ar bethau fel benthyciadau, cardiau credyd, ffonau symudol a morgeisi. Darganfyddwch sut i wella’ch un chi.

Gall sgôr credyd da olygu eich bod yn gymwys i gael cyfraddau rhatach ar bethau fel benthyciadau, cardiau credyd, ffonau symudol a morgeisi. Darganfyddwch sut i wella’ch un chi.
Mae sgôr credyd da yn dangos eich bod wedi rheoli credyd yn dda yn y gorffennol, fel ad-dalu benthyciad neu gerdyn credyd ar amser. Mae hyn yn golygu eich bod yn llawer mwy tebygol o fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau llog rhataf a chael mynediad at fwy o gynigion.
Yn y DU, mae pedair asiantaeth cyfeirio credyd yn casglu gwybodaeth ar ba mor dda rydych chi'n rheoli credyd a gwneud taliadau - sef eich adroddiad credyd neu ffeil gredyd.
Mae eich adroddiad credyd yn cynnwys rhestr o'ch holl gyfrifon credyd, megis cardiau credyd, benthyciadau, cyfrifon cyfredol gyda gorddrafftiau ac ati, a faint o ddyled sydd gennych a'ch arferion ad-dalu. Os ydych yn gwneud cais i fanc neu ddarparwr benthyciadau eraill, byddant fel arfer yn cynnal gwiriad credyd er mwyn iddynt weld yr hanes hwn i gyfrifo faint o risg sydd i fenthyca i chi.
Bydd y gwiriad hwn yn aml yn effeithio ar y gyfradd llog a gewch, faint y byddant yn gadael i chi fenthyca neu a fyddwch hyd yn oed yn cael eich derbyn.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am eich adroddiad yn cael yr effaith fwyaf oherwydd bydd gan fenthycwyr ddiddordeb yn eich sefyllfa bresennol.
Mae dau fath o wiriadau y gall benthycwyr eu gwneud pan fyddwch yn gwneud cais am gredyd – caled a meddal.
Yn gyffredinol, gallai hanes credyd da eich helpu:
Gallai sgôr credyd gwael olygu eich bod yn talu cyfraddau llog uwch, bod gennych derfynau credyd is neu gellir eich gwrthod am gredyd yn gyfan gwbl.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld benthyciad yn cael ei hysbysebu fel 6% APR ond gallai sgôr credyd gwael olygu y byddech yn cael cynnig cyfradd llog o 30%. Yn yr un modd, gallai cerdyn credyd gynnig llog 0% am gyfnod o ddwy flynedd i'r rhai sydd â sgôr credyd da a dim ond chwe mis i sgorwyr credyd isel.
Efallai y bydd benthycwyr eraill yn cynnig cynnhyrch gwahanol i chi i'r un y gwnaethoch gais amdano, fel gwneud cais am gyfrif cyfredol ond cael cynnig cyfrif banc sylfaenol heb orddrafft.
Er ei fod yn anarferol, gallai rhai benthycwyr newid eich cyfradd llog bresennol os ydynt yn credu eich bod wedi dod yn fwy o risg ers i chi wneud cais y tro cyntaf.
Mae gan Debt Camel fwy o wybodaeth am godi llog ar gardiau credydYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch Sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd
Mae pedair asiantaeth yn casglu eich gwybodaeth i lunio adroddiad credyd statudol i chi – Experian, Equifax, TransUnion a Crediva – felly mae'n well gwirio'r pedwar ymhell cyn unrhyw gais. Mae'n rhad ac am ddim ac efallai y byddwch chi'n gallu gweld ffyrdd hawdd o'u gwella.
Dyma beth i wirio amdano:
Os byddwch yn sylwi ar gamgymeriadau, rhowch wybod i'r asiantaeth gwirio credyd (CRA) i ymchwilio. Bydd y CRA yn gwirio gyda'r sefydliad a roddodd y wybodaeth i gadarnhau a oes camgymeriad a bydd yn dileu'r camgymeriad os yw'n briodol. Ni ddylai'r broses hon gymryd mwy na 28 diwrnod. Tra bod y CRA yn ymchwilio, bydd y 'camgymeriad' yn cael ei farcio fel 'dadleuol' ac ni ddylai benthycwyr ddibynnu arno wrth asesu eich statws credyd.
Mae gwybodaeth negyddol (fel colli taliad) fel arfer yn aros ar eich adroddiad credyd am chwe mlynedd ac ni ellir ei ddileu'n gynt os yw'n gywir. Fodd bynnag, os oedd rhesymau pam y gwnaethoch ddisgyn ar ei hôl hi gyda thaliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach, gallwch ychwanegu nodyn at eich adroddiad credyd i egluro hyn. Gelwir hyn yn Hysbysiad Cywiro.
Bydd angen i chi godi'r hysbysiad hwn gyda phob asiantaeth cyfeirio credyd:
TransUnion - Hysbysiad CywiroYn agor mewn ffenestr newydd
Experian - Hysbysiad CywiroYn agor mewn ffenestr newydd
Equifax - Hysbysiad CywiroYn agor mewn ffenestr newydd
Crediva - Hysbysiad CywiroYn agor mewn ffenestr newydd
Ni fydd Hysbysiad Cywiro neu Anghydfod yn effeithio ar eich sgôr credyd ond gallai arafu unrhyw geisiadau a wnewch i fenthyca gan fod yn rhaid i fenthycwyr ddarllen eich nodyn yn unigol.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gredyd, yn y bôn mae'r benthyciwr eisiau gwybod a fyddwch chi'n ei dalu'n ôl. Mae hanes o dalu ar amser ac fel y cytunwyd arno yn helpu i ddangos iddynt eich bod wedi bod yn ddibynadwy yn y gorffennol.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu:
Dyma rai awgrymiadau i wella eich sgôr credyd:
Efallai eich bod wedi gweld hysbysebion gan gwmnïau sy'n honni eu bod yn atgyweirio eich statws credyd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn eich cynghori ar sut i weld eich adroddiad credyd a gwella'ch sgôr credyd – ond gallwch wneud hynny eich hun am ddim.
Efallai y bydd rhai cwmnïau'n honni y gallant wneud pethau na allant yn gyfreithiol, neu hyd yn oed eich annog i ddweud celwydd wrth yr asiantaethau gwirio credyd. Mae'n bwysig peidio byth â defnyddio'r cwmnïau hyn.
Darganfyddwch Gwneud cais am gredyd
Os ydych chi'n hapus bod eich adroddiad credyd yn dda a bod angen i chi fenthyca, y cam nesaf yw gweithio allan beth i wneud cais amdano.
Dyma beth i'w ystyried cyn gwneud cais am gredyd:
Gall gwneud cais am ormod o gynhyrchion o fewn cyfnod byr niweidio'ch sgôr credyd gan y gallech ymddangos fel eich bod yn ysu am gredyd. Gall hyn olygu bod sefydliadau'n llai tebygol o roi benthyg i chi.
Yn hytrach na gwneud cais, sy'n defnyddio chwiliad credyd caled, chwiliwch am wirwyr cymhwysedd sy'n defnyddio chwiliad meddal i roi syniad i chi a fydd eich cais yn llwyddiannus.
Mae llawer o fenthycwyr a safleoedd cymharu yn defnyddio'r rhain, gan gynnwys MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd ExperianYn agor mewn ffenestr newydd a ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Os na allwch ddod o hyd i un ar gyfer y cynnhyrch yr ydych yn chwilio amdano, gwiriwch ddwywaith bob amser eich bod o leiaf yn bodloni lleiafswm y meini prawf cymhwysedd (fel isafswm incwm).
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r cynnhyrch cywir i chi, bydd angen i chi wneud cais. Yn dibynnu ar yr hyn y mae'r benthyciwr yn gofyn amdano, efallai y bydd angen i chi gasglu rhywfaint o wybodaeth. Gallai hyn gynnwys:
Cyn i chi gyflwyno'r cais, gwnewch yn siŵr bod popeth yn gywir ac yn cyd-fynd â'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich adroddiad credyd.
Dylech gael gwybod a ydych wedi cael eich derbyn ar unwaith, er y gall gymryd ychydig ddyddiau os hoffai'r benthyciwr wneud gwiriadau pellach.
Os cewch eich gwrthod, peidiwch â gwneud cais eto. Yn hytrach, darganfyddwch beth i'w wneud os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd.
Gwasanaeth atal twyll cenedlaethol yw Cifas. Gall osod rhybuddion 'Cofrestriad Amddiffynnol' a 'Dioddefwr Twyll Hunaniaeth' ar eich ffeil gredyd.
Mae Cofrestriad Amddiffynnol yn wasanaeth taladwy i bobl sydd wedi dioddef twyll ariannol yn ddiweddar. Mae'n dangos i fenthycwyr eich bod yn agored i dwyll, felly mae nhw'n gwneud gwiriadau ychwanegol pan fyddwch chi'n gwneud cais am gynnhyrch ariannol. Er y gall hyn eich diogelu, gall gynyddu faint o amser mae’n cymryd i gymeradwyo cais credyd. Mae'n aros ar eich adroddiad credyd am ddwy flynedd.
Mae rhybudd dioddefwr twyll hunaniaeth yn cael ei ffeilio gan eich benthyciwr er sicrhau eich diogelwch os ydych wedi dioddef twyll hunaniaeth. Fel arfer bydd yn aros ar eich adroddiad am oddeutu 13 mis.
Os oes gennych farciwr Cifas ar eich adroddiad credyd, unrhyw bryd y byddwch yn gwneud cais am gredyd, efallai y bydd angen i chi wneud gwiriadau ychwanegol i brofi pwy ydych chi. Gwneir hyn yn aml â llaw sy'n golygu gall eich cais gael ei oedi.
Ni ddylai cael marciwr o dan yr adran hon olygu y caiff eich cais ei wrthod yn awtomatig. Mae yno i'ch amddiffyn rhag dioddef twyll.
Os ydych chi'n credu bod rhybudd Cifas wedi'i roi ar eich adroddiad credyd mewn camgymeriad, gallwch gysylltu â'r benthyciwr a'i rhoddodd yno i weld a fyddant yn ei ddileu.
Byddwch yn ymwybodol bod asiantaethau gwirio credyd yn annhebygol o ddileu unrhyw gofnod ar eich adroddiad os ydynt yn credu bod cyfiawnhad dros y rheswm y cafodd y marciwr ei roi ar eich adroddiad credyd. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fenthycwyr roi gwybod i'r asiantaethau gwirio credyd am unrhyw ymgais twyllodrus ar eich cyfrif.