Sut i ddod o hyd i’ch hen gyfrifon banc

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
23 Medi 2025
Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi canfod nad yw 46% o bobl yn cynilo'n rheolaidd. Os hoffech chi ddod i'r arfer â chynil0, gall dod o hyd i'ch hen gyfrifon fod yn ffordd wych o ddechrau arni.
Pam ei bod hi’n werth olrhain cyfrifon rydych wedi anghofio amdanynt
Mae dod o hyd i hen gyfrifon banc am ddim, does dim angen talu i rywun arall ddod o hyd iddyn nhw ar eich rhan.
Os nad ydych chi'n gwybod ble mae eich cynilion, mae'n debygol nad ydych chi'n ennill llawer o log arnyn nhw. Ni allwch chi ddefnyddio'r arian hwnnw i weithio tuag at eich nodau ariannol chwaith.
P'un ai’r hoffech chi gronni cronfa argyfwng neu gynilo tuag at brynu'ch cartref cyntaf, gall unrhyw arian ychwanegol y gallwch chi ei olrhain eich helpu i gyrraedd eich nod yn gyflymach.
Rhesymau cyffredin pam bod pobl yn colli golwg ar gyfrifon
Mae llawer o resymau pam efallai nad oes gennych chi fynediad at gyfrif cynilo yn eich enw mwyach, gan gynnwys:
- symud tŷ
- gwaith papur coll
- nid yw'r banc neu'r gymdeithas adeiladu yn bodoli mwyach
- agorwyd y cyfrif ar eich rhan pan oeddech chi'n blentyn.
Mae’n haws colli golwg ar rai mathau o gyfrifon nag eraill. Os cawsoch eich geni yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae'n debyg bod Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi'i hagor yn eich enw pan oeddech chi'n fabi.
Yn ôl The Share FoundationYn agor mewn ffenestr newydd, amcangyfrifir bod £2 biliwn ar ôl mewn Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio. Mae hynny'n gyfartaledd o £1,900 fesul cyfrif.
Camau Cyntaf: gwirio eich cofnodion
Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ddod o hyd iddi am hen gyfrifon.
Os gallwch ddod o hyd i enw'r banc, pryd roeddech chi'n talu i mewn a'ch enw a'ch cyfeiriad ar y pryd, bydd yn gwneud dod o hyd i hen gyfrifon yn haws.
Chwiliwch drwy hen waith papur a datganiadau
Hyd yn oed os nad ydych chi'n cofio union fanylion cyfrif, gallai eich hen waith papur a datganiadau banc helpu.
Os gwnaethoch chi drosglwyddo arian i mewn neu allan o'ch cyfrif coll gan ddefnyddio cyfrif sydd gennych chi gofnodion ohono, efallai y byddwch chi'n gallu gweld rhif cyfrif ar hen ddatganiad.
Chwiliwch eich negeseuon e-bost a’ch hanes bancio ar-lein
Gallai gwirio cofnodion ar-lein hefyd eich helpu i ddod o hyd i fanylion hen gyfrifon.
Lawrlwythwch ddatganiadau i weld a oes unrhyw arwydd eich bod yn symud arian i mewn neu allan o'r cyfrif coll.
Gwiriwch eich negeseuon e-bost i weld a anfonwyd unrhyw beth atoch pan agoroch y cyfrif rydych chi'n chwilio amdano.
Defnyddio gwasanaethau olrhain am ddim
Hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod llawer o fanylion am yr hen gyfrif rydych chi'n chwilio amdano, mae teclynnau am ddim i'ch helpu i olrhain cyfrifon banc coll.
Sut mae’r gwasanaeth My Lost Account yn gweithio
Mae My Lost Account yn wasanaeth sy'n eich helpu i olrhain cyfrifon banc a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) collYn agor mewn ffenestr newydd
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, byddant yn cysylltu â'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i chi ddod o hyd i fanylion y cyfrif.
Dim ond i ddod o hyd i gyfrifon 'coll' y gellir defnyddio'r gwasanaeth.
Bydd cyfrif yn cael ei farcio fel un coll neu segur pan:
- fo'r cyfrif wedi bod yn segur am gyfnod estynedig o amser (yn aml 15 mlynedd),
- mae'r banc, y gymdeithas adeiladu neu NS&I wedi ysgrifennu atoch am y cyfrif, ac
- nid ydych wedi ymateb i'r llythyr.
Os ydych chi'n credu bod hyn yn berthnasol i chi, dechreuwch eich chwiliad am gyfrif collYn agor mewn ffenestr newydd
Gweler ein canllaw ar Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Pa fanylion y bydd angen i chi eu darparu
Ar ôl i chi greu proffil ar My Lost Account, bydd yn gofyn i chi nodi unrhyw fanylion rydych chi'n eu cofio gan gynnwys:
- enw llawn
- dyddiad geni
- cyfeiriadau presennol a blaenorol
- os ydych chi'n chwilio am gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu neu gynnyrch NS&I
- enw'r banc neu'r gymdeithas adeiladu
- codau didoli a rhifau cyfrif os ydynt yn hysbys
- dyddiadau pan rydych chi'n credu bod y cyfrif yn cael ei ddefnyddio
- faint o arian rydych chi'n credu oedd yn y cyfrif.
Pa mor hir mae’r chwiliad yn ei gymryd
Dylech dderbyn ymateb o fewn tri mis i gyflwyno'ch cais. Ar gyfer cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu coll, bydd hyn drwy e-bost.
Os ydych chi'n chwilio am gynnyrch NS&I coll (gan gynnwys hen gyfrifon Cynilo Swyddfa'r Post) maen nhw'n anelu at ymateb o fewn mis, a bydd yn cyrraedd drwy'r post.
Cysylltu â banciau a chymdeithasau adeiladu yn uniongyrchol
Os nad yw My Lost Account wedi gallu dod o hyd i'r cyfrif neu os nad ydych chi'n credu ei fod wedi bod yn segur ers digon o amser, efallai y bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r banc yn uniongyrchol.
Awgrymiadau ar gyfer cysylltu â’ch hen fanc
Dylai'r banc neu'r gymdeithas adeiladu allu eich helpu os oes gennych chi ddogfen adnabod a phrawf o gyfeiriad.
Cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion ar eu gwefan neu ewch i mewn i'r gangen ac esboniwch eich problem.
Os oes ganddyn nhw hen gyfrif i chi a bod eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad yn cyfateb, dylent allu rhoi mynediad i chi i'ch hen gyfrif.
Pa wybodaeth i’w rhannu er mwyn eu helpu i chwilio
Mae'n ddefnyddiol os oes ganddyn nhw:
- eich enw, gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol
- eich dyddiad geni
- eich cyfeiriadau yn mynd yn ôl i'r amser rydych chi'n credu cafodd y cyfrif ei agor
- unrhyw godau didoli neu rifau cyfrif rydych chi'n eu gwybod.
Beth i’w wneud os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn bodoli mwyach
Hyd yn oed os nad yw'r banc neu'r gymdeithas adeiladu rydych chi'n credu bod gennych chi gyfrif gyda nhw yn gweithredu mwyach, gallwch chi hawlio unrhyw arian a oedd ganddyn nhw o hyd.
Uno, cau a phwy i gysylltu â nhw nawr
Mae gan The Buildings Society Association chwiliad i ddarganfod pa fanc neu gymdeithas adeiladu a gymerodd gyfrifon gan gymdeithasau adeiladu a gaeodd neu a unodd ag eraillYn agor mewn ffenestr newydd
Er enghraifft, cymerwyd cwsmeriaid Abbey National gan Santander.
Gallai hyn eich helpu i ddarganfod pwy i gysylltu ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â'ch cyfrif coll.
Ffyrdd eraill o olrhain arian
Fe allech chi hefyd roi cynnig ar y cwmni fintech Gretel. Mae'n wasanaeth am ddim a all ddod o hyd i hen gyfrifon banc, pensiynau a Chronfeydd Ymddiriedolaeth PlantYn agor mewn ffenestr newydd
Dim ond os yw'r cyfrif rydych chi'n chwilio amdano yn un o'u haelodau y bydd Gretel yn gweithio, ond gallai fod yn werth rhoi cynnig arno os nad yw dulliau eraill wedi gweithio.
Dim ond tair munud y mae'n ei gymryd i lenwi'ch manylion, ac mae'r gwasanaeth yn gwneud gwiriad credyd meddal i'ch paru ag unrhyw gyfrifon.
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Os ydych chi wedi colli golwg ar eich Bondiau Premiwm, Bondiau Cynilo, ISA Uniongyrchol neu ISA Iau, mae'r cynlluniau hyn ac eraill yn cael eu gweithredu gan NS&I.
Os nad oes gennych eich rhif NS&I i fewngofnodi i'ch cyfrif, defnyddiwch y gwasanaeth My Lost Account i ddod o hyd iddoYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd ddefnyddio'r dudalen Lost touch with NS&IYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod sut i adennill mynediad i'ch cyfrifon ac adennill unrhyw wobrau y gallech fod wedi'u colli.
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau yn ystod eich chwiliad
Os cysylltir â chi'n uniongyrchol ynglŷn â hen gyfrif, byddech yn iawn i fod yn amheus y gallai fod yn sgam.
Peidiwch byth â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i alwyr oer na negeseuon testun.
Ni fydd gwahaniaeth gan unrhyw fanc na chymdeithas adeiladu gyfreithlon pe byddech chi'n rhoi'r ffôn i lawr ac yn eu ffonio'n ôl ar y rhif ffôn a restrir ar eu gwefan swyddogol.