Os ydych wedi colli cysylltiad â darparwr pensiwn, ni fyddant yn gwybod sut i’ch talu pan fyddwch yn ymddeol. Dyma sut i olrhain eich holl bensiynau fel nad ydych yn colli allan ar incwm ymddeol hanfodol.
Cam 1: Rhestrwch yr holl leoedd rydych wedi gweithio
Dechreuwch trwy restru'r holl gyflogwyr rydych chi wedi'u cael. Hyd yn oed os na fuoch chi yno’n hir, mae’n dal yn werth gwirio a oes gennych hawl i unrhyw beth. Os sefydlwch eich cynllun pensiwn eich hun, fel pensiwn personol, ychwanegwch hwnnw hefyd.
Croeswch gyflogwr oddi ar eich rhestr dim ond os ydych yn sicr:
- nad oedd gennych bensiwn wedi’i sefydlu yno, neu
- rydych eisoes wedi derbyn ad-daliad o'ch arian pensiwn.
Efallai y byddwch wedi cael ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn os gwnaethoch adael eich cyflogwr:
- cyn Ebrill 1975
- rhwng Ebrill 1975 ac Ebrill 1988 os wnaethoch chi:
- weithio yno am lai na 5 mlynedd, neu
- rydych o dan 26 oed pan wnaethoch adael
- ers Ebrill 1988, ar ôl gweithio yno am lai na dwy flynedd.
Cam 2: Dewch o hyd i enw eich darparwr pensiwn
Mae angen i chi wybod enw eich darparwr(darparwyr) pensiwn cyn y gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt. Dyma ffyrdd i'w wneud.
- Gwiriwch hen waith papur am fanylion eich cynllun pensiwn, gan gynnwys y darparwr neu'r gweinyddwr. Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn anfon cyfriflen atoch bob blwyddyn.
- Cysylltwch â'ch cyflogwyr blaenorol neu gofynnwch i hen gydweithwyr am enw'r darparwr pensiwn.
- Os yw’ch hen gyflogwr wedi mynd i’r wal, edrychwch a yw’n ymddangos ar restr y Gronfa Diogelu Pensiynau o gynlluniau y maent yn gofalu amdanyntYn agor mewn ffenestr newydd – mae hyn yn golygu ei fod wedi’i drosglwyddo iddynt i’w redeg yn lle.
- Defnyddiwch GretelYn agor mewn ffenestr newydd, gwasanaeth am ddim i olrhain pensiynau, cyfrifon a buddsoddiadau coll.
Cam 3: Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Unwaith y bydd gennych restr o'ch holl ddarparwyr pensiwn, y cam nesaf yw cysylltu â phob un.
Mae'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn gadael i chi ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy'r postYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i'w fanylion cyswllt, gweler a yw darparwr eich pensiwn wedi'i restru ar dudalen cadw cofnod o'ch pensiwn gan Gymdeithas Yswirwyr PrydainYn agor mewn ffenestr newydd Bydd hyn yn dangos i chi â phwy i gysylltu os oes gan eich darparwr pensiwn enw newydd, wedi ei feddiannu neu ei uno.
Cam 4: Cysylltwch â darparwr y pensiwn i olrhain eich pensiwn
Bydd angen cymaint o wybodaeth â phosibl ar eich darparwr pensiwn er mwyn eich paru â phensiwn. Efallai y byddant yn gofyn am:
- eich Rhif Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd
- enwau a chyfeiriadau blaenorol
- y dyddiadau y buoch yn gweithio i'r cwmni
- pryd rydych chi'n meddwl bod y pensiwn wedi'i sefydlu.
Os bydd darparwr y pensiwn yn dod o hyd i gofnod i chi, gwiriwch fod ganddo eich manylion cyswllt cywir. Mae hyn yn golygu y gallant anfon datganiadau blynyddol a gwybodaeth bwysig arall atoch, megis a ydych yn talu unrhyw ffioedd.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud ag unrhyw bensiwn rydych wedi’i ganfod, gan gynnwys y manteision a’r anfanteision o ddod â’ch pensiynau at ei gilydd, gweler ein canllaw Gwneud y gorau o’ch pensiynau.