Mae yswiriant bywyd wedi'i gynllunio i'ch sicrhau y bydd eich dibynyddion, fel eich plant neu’ch partner, yn derbyn gofal ariannol os byddwch farw. Mae sawl peth i feddwl amdanynt wrth ei brynu, fel y math o bolisi rydych ei eisiau, pryd mae ei angen arnoch a sut i'w brynu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae yswiriant bywyd yn gweithio?
Mae yswiriant bywyd yn talu naill ai cyfandaliad neu daliadau rheolaidd ar eich marwolaeth, gan roi cymorth ariannol i'ch dibynyddion ar ôl i chi farw.
Mae faint o arian fydd yn cael ei dalu yn ddibynnol ar y lefel o yswiriant y byddwch yn ei brynu.
Chi fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y taliad. Gallwch chi ddefnyddio ymgynghorydd ariannol annibynnol (IFA) i greu gweithred ymddiriedolaeth os oes gennych chi gyfarwyddiadau penodol ar gyfer sut y bydd yr arian yn cael ei dderbyn neu bryd y bydd yn cael bod ar gael. Gallai hyn fod pan fydd eich plant yn cyrraedd oed penodol, er enghraifft. Un o brif fanteision y dull hwn yw na fydd gwerth eich polisi’n cael ei ystyried fel rhan o’r ystad a gall gael ei dalu y tu allan i brofiant a threth etifeddiaeth.
Pa fathau o yswiriant bywyd sydd?
Mae dau brif fath:
Yswiriant bywyd tymor
Mae’r rhain yn rhedeg am gyfnod penodol o amser, a elwir yn ‘dymor’ eich polisi, megis pum, deng neu 25 mlynedd. Mae yswiriant bywyd fel arfer yn cael ei dalu pan fydd deiliad y polisi’n marw. Bydd gan nifer o bolisïau da daliad salwch terfynol. Bydd hyn yn eich caniatàu i hawlio’n gynnar pe baech yn cael diagnosis o salwch a fydd yn golygu bod eich disgwyliad byw yn llai na 12 mis. Gall hyn helpu i roi tawelwch meddwl i chi yn y misoedd olaf.
Mae tri math o polisiau bywyd cyfan.
- Lefel – yn talu fel cyfandaliad os byddwch farw o fewn y tymor y cytunwyd arno. Mae lefel y gorchudd yn aros yr un fath drwyddi draw. Dyma'r opsiwn mwyaf syml a fforddiadwy.
- Gostwng – mae lefel yr yswiriant yn lleihau bob blwyddyn. Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gyda morgeisi ad-dalu, lle mae'r benthyciad sy'n ddyledus yn lleihau dros amser. Gallai’r rhain hefyd gael eu defnyddio pan fyddwch yn bwriadu rhoi rhoddion o arian neu asedau tra’ch bod yn fyw er mwyn lleihau’r treth etifeddiaeth ar eich ystad. Gall ffordd arall o leihau yswiriant tymor bywyd, o’r enw yswiriant rhodd inter vivos, gael ei ddefnyddio i gynnwys creu atebolrwydd Treth Etifeddiaeth (IHT) posibl pan fydd rhywun yn rhoi swm o arian neu asedau tra’u bod yn fyw ond eu bod yn marw o fewn 7 mlynedd o roi’r rhodd.
- Cynyddu – mae lefel yr yswiriant yn codi dros dymor y polisi. Golyga hyn y bydd y cyfandaliad yn codi gyda chwyddiant, felly dylai gael yr un grym gwario ag yr oedd ganddo pan gymeroch chi’r polisi. Wrth i gostau byw godi, efallai na fydd y taliad marwolaeth sefydlog y byddwch yn ei gael yn cynnwys popeth yr oeddech yn gobeithio y byddai pan gymeroch chi’r polisi.
Polisïau yswiriant oes gyfan
Mae'r rhain yn talu allan pryd bynnag y byddwch farw, cyn belled â'ch bod yn cadw i fyny â'ch taliadau premiwm.
Yn aml cânt eu defnyddio i gynllunio ar gyfer Treth Etifeddiaeth.
Fodd bynnag, maen nhw fel arfer yn ddrutach na pholisïau tymor llai. Tra bod y premiwm yn gallu bod yn rhatach os ydych chi’n cychwyn polisi pan fyddwch yn iau ac mewn iechyd da, cânt hefyd eu hadolygu bob pum neu ddeng mlynedd a gall premiymau godi a dod yn anfforddiadwy. Mae hefyd posibilrwydd os byddwch chi’n byw’n hirach na’r disgwyl, y byddwch yn talu mwy i fewn nag y byddech yn ei gael allan.
Bywyd pwy rydych yn ei ddiogelu?
Gallwch ddewis polisi ar y cyd neu un polisi.
Os byddwch yn cymryd yswiriant bywyd ar y cyd, bydd yr arian yn mynd i'r deiliad polisi sydd wedi goroesi – fel eich priod. Mae hyn oni bai eich bod wedi gwneud trefniadau amgen.
Os byddwch yn cymryd yswiriant bywyd sengl, bydd yr arian yn mynd i'ch ystad. Felly mae angen i chi benderfynu at bwy y mae'n mynd pan fyddwch farw.
Mae polisi bywyd ar y cyd fel arfer yn fwy fforddiadwy na dau bolisi sengl ar wahân. Fodd bynnag, dim ond ar y farwolaeth gyntaf y mae yswiriant bywyd ar y cyd yn talu allan. Tra byddai prynu dau bolisi sengl yn sicrhau bod taliad allan ar bob marwolaeth.
A oes angen yswiriant bywyd arnoch?
Mae yswiriant bywyd yn talu allan pan fyddwch farw - nid pan fyddwch yn colli incwm oherwydd salwch neu anabledd.
Dyma bwrpas polisïau diogelu incwm - darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm
Mae'n addas i chi os oes gennych:
- dibynyddion, fel plant oed ysgol
- partner sy'n dibynnu ar eich incwm, neu
- you want to make sure your loved ones can cover your funeral costs.
Efallai y byddwch yn dewis peidio â'i gael os:
- ydych yn sengl
- yw'ch partner yn ennill digon i'ch teulu fyw arno
- ydych ar incwm isel a gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau'r Wladwriaeth.
Gwiriwch a yw gennych eisoes trwy'ch gwaith. Mae pecynnau gweithwyr yn aml yn cynnwys ‘buddion marwolaeth mewn gwasanaeth’ a fydd yn darparu swm o yswiriant sydd yn gysylltiedig â’ch cyflog.
Ond cofiwch, os byddwch yn stopio gweithio i'r cyflogwr hwnnw, ni fyddwch bellach yn dod o dan eu polisi.
Efallai y bydd angen i chi feddwl hefyd a fydd derbyn taliad yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau prawf modd y gallai eich dibynyddion fod yn gymwys ar eu cyfer fel arall.
Oes angen yswiriant bywyd arnaf i gael morgais?
Nid yw’n anghenraid cyfreithiol i gael yswiriant bywyd wrth i chi gael morgais. Fodd bynnag, efallai y byddech yn dewis ei gael pe hoffech chi i’ch dibynyddion gael digon o arian i gadw’ch cartref pan fyddwch chi’n marw.
Beth yw cost yswiriant bywyd?
Mae'r gost yn amrywio, yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Ond yn gyffredinol ystyrir bod yswiriant bywyd yn werth chweil.
Gall polisi sy'n rhoi ddiogelwch ariannol digonol i'ch anwyliaid gostio o ddim ond ychydig geiniogau'r dydd.
Bydd eich taliadau misol yn dibynnu ar bethau, fel:
- eich oedran
- eich iechyd
- eich ffordd o fyw
- os ydych yn ysmygu
- hanes meddygol eich teulu
- hyd y polisi
- eich galwedigaeth - gallai swydd risg uchel wthio'ch premiymau i fyny.
Mae'r pris hefyd yn cael ei effeithio gan lefel yr yswiriant rydych yn ei brynu. Bydd faint o yswiriant sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar:
- unrhyw ddyledion
- morgais / rhent
- nifer y dibynyddion
- tâl cartref neu incwm o ffynonellau eraill.
Sut rwyf yn prynu yswiriant bywyd?
Gall premiymau amrywio, felly mae'n werth edrych o gwmpas a chymharu dyfynbrisiau gwahanol.
Gallwch gael dyfynbrisiau yswiriant bywyd gan:
- banciau
- broceriaid arbenigol - gwelwch ein canllaw ar pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
- safleoedd cymharu - gwelwch ein canllaw ar sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu
- yn uniongyrchol oddi wrth yswirwyr - nid yw pob un yn gwerthu trwy wefannau cymharu
- cwmnïau cardiau credyd
- cynghorwyr ariannol annibynnol - gwelwch ein canllaw ar dewis cynghorydd ariannol
- manwerthwyr, gan gynnwys archfarchnadoedd mawr
- darparwyr morgeisi - mae'r mwyafrif yn cynnig yswiriant bywyd yn awtomatig pan fyddwch yn cymryd morgais, ond efallai y gallwch ddod o hyd i gynnig gwell yn rhywle arall.
Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant bywyd
1. Byddwch yn onest am eich hanes meddygol
Mae'r mwyafrif o geisiadau’n llwyddiannus, ond mae'n bwysig rhoi'r holl wybodaeth y maent yn gofyn amdani i'ch yswiriwr. Pan fyddwch yn gwneud cais, byddant yn gwirio'ch hanes meddygol. Os na wnaethoch ateb yn wir neu'n gywir yn eich cais, neu os na wnaethoch ddatgelu rhywbeth, efallai na fyddent yn talu allan
2. Darllenwch y print mân
Sicrhewch eich bod yn gwybod yn union beth sydd wedi'i gynnwys ac sydd heb ei gynnwys. Byddwch yn ymwybodol y gall diffiniadau a gwaharddiadau (yr hyn nad yw'n cael ei gynnwys) amrywio rhwng gwahanol yswirwyr. Os ydych yn gweld rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch i'r darparwr yswiriant, neu'ch brocer yswiriant neu gynghorydd ariannol.
Os nad ydych yn enwi buddiolwr yna bydd yr yswiriwr yn talu’r enillion i mewn i’ch ystâd. Gallai hyn wedyn gymryd amser hir i gyrraedd y person yr ydych eisiau i’r arian fynd iddo, a gallai olygu ei fod yn destun treth etifeddiant.
3. Gallwch newid eich meddwl
Mae gennych 30 diwrnod o brynu'r polisi i newid eich meddwl a chael ad-daliad llawn.
4. A allwch newid i fargen well?
Os ydych yn ifanc a neu'n iach, gallai fod yn werth gweld a allwch gael bargen well yn rhywle arall.
Ond wrth i chi heneiddio neu ddatblygu problemau meddygol, efallai y bydd yn rhatach cadw at bolisi gwnaethoch ei brynu pan oeddech yn iau.
Os byddwch yn penderfynu newid, sicrhewch nad ydych yn canslo'ch polisi presennol nes bod y polisi amnewid wedi'i sefydlu'n llawn a'ch bod wedi gwneud y taliad misol cyntaf.
Pan fyddwch wedi canslo polisi, ni allwch newid eich meddwl.
5. Ystyriwch hepgoriad
Gyda rhai polisïau yswiriant, gallwch ofyn am gynnwys nodweddion ychwanegol. Er enghraifft, os ydych yn talu ychydig yn ychwanegol i ychwanegu ‘hepgor premiwm’ at eich polisi - telir eich premiymau yn awtomatig os na allwch weithio mwyach oherwydd damwain neu salwch.
Mae hyn er mwyn diogelu rhag i'ch polisi gael ei ganslo os byddwch yn methu taliad misol.
Sut i ganslo yswiriant bywyd
Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- gallai yswiriant newydd yn ei le fod yn ddrytach gan fod prisiau'n gyffredinol yn cynyddu gyda’ch oedran
- os oes gennych gyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes, efallai na fyddant yn cael eu cynnwys o dan bolisi newydd
- ni fyddwch yn gallu adfer y polisi unwaith y bydd wedi'i ganslo.
Fel arfer nid oes ffioedd canslo, felly byddwch ond yn rhoi'r gorau i dalu amdano - ni fyddwch yn derbyn ad-daliad o unrhyw premiymau rydych eisoes wedi'u talu.
Gofynnwch i’ch yswiriwr am help os ydych chi’n cael trafferth talu
Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.
Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.