Sut i adnabod ac adrodd am negeseuon testun ffug a sgamiau SMS-rwydo

Diweddarwyd diwethaf:
27 Rhagfyr 2024
Mae banciau, cwmnïau cyfleustodau, cwmnïau dosbarthu post a darparwyr gwasanaethau eraill yn dibynnu’n fwyfwy ar negeseuon testun ac e-byst, ochr yn ochr â phost a galwadau ffôn i gysylltu. Er bod hyn yn gyfleus, mae hefyd yn agor ffyrdd newydd i ni gael ein targedu gan sgamwyr.
Rydyn ni i gyd wedi dod yn ymwybodol o “gwe-rwydo”, y defnydd o e-byst ffug, i'n twyllo ni allan o arian, ond nawr fe allech chi gael eich targedu gan neges destun SMS ffug hefyd. Gelwir hyn yn “SMS-rwydo”.
Felly, beth yw SMS-rwydo, sut allwch chi ei adnabod a beth ddylech chi ei wneud os ydych chi wedi cael eich targedu?
Beth yw SMS-rwydo?
Rydych chi'n derbyn neges destun, fel arfer gan eich banc neu ddarparwr gwasanaeth arall fel cwmni dosbarthu post neu gyfleustodau, yn dweud wrthych fod problem gyda'ch cyfrif neu ddosbarthu parseli, problemau gyda thaliad diweddar neu weithgaredd amheus.
Bydd y testun yn cynnwys dolen i chi glicio neu rif i'w ffonio i ddatrys beth bynnag yw'r broblem. Mae gan Action Fraud rai enghreifftiau o sgamiauYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw'n ddolen, bydd yn eich cyfeirio at wefan ffug sy'n aml yn edrych yn debyg iawn i wefan swyddogol y cwmni. Bydd y tudalennau hyn yn casglu eich manylion mewngofnodi banc pan fyddwch yn eu rhoi i mewn.
Os oes rhif ffôn, nid hwn fydd y cwmni go iawn a bydd y sgamiwr ar ddiwedd y llinell yn ceisio eich cael i ddatgelu gwybodaeth fel enwau defnyddwyr, cyfrineiriau a PINs.
Mae twyllwyr yn dynwared yn gynyddol amrywiaeth eang o gwmnïau enw mawr. Weithiau byddant yn honni eu bod o gyfrif ar-lein fel PayPal, neu wasanaeth rydych chi'n tanysgrifio iddo, fel Netflix. Mae cwmnïau dosbarthu fel Evri a'r Post Brenhinol wedi adrodd am neidiau mawr yn y defnydd o negeseuon testun ffug. Mae sgamiau neges destun ffug hefyd wedi’u hadrodd yn targedu cwsmeriaid sefydliadau’r llywodraeth fel CThEF a’r DVLA.
A yw neges destun gan gwmni bob amser yn sgam?
Na. Mae'n bosibl y bydd llawer o gwmnïau, fel eich banc, cwmnïau dosbarthu post neu ddarparwyr ynni neu ddŵr yn cysylltu â chi'n gyfreithlon trwy neges destun.
Dyna pam ei bod yn bwysig gwybod sut y gallai rhai cwmnïau geisio cysylltu â chi. Fel arfer gallwch ddewis eich dewisiadau cyswllt, megis galwad ffôn, e-bost neu neges destun, yn eich proffil.
Sut i adnabod sgam SMS-rwydo
Gall fod yn anodd adnabod SMS-rwydo, yn enwedig os yw gan berson neu gwmni a fyddai fel arfer yn cysylltu â chi trwy neges destun.
Ond, fel sgamiau e-bost, mae rhai arwyddion amlwg. Er enghraifft, efallai bod camgymeriadau sillafu, neu efallai y bydd y testun yn cyfeirio atoch fel 'Syr' neu 'Madam'. Bydd negeseuon go iawn gan y cwmnïau hyn fel arfer yn eich cyfeirio wrth eich enw. Fodd bynnag, mae sgamwyr yn dod yn fwy craff, a gallai eich enw llawn a'ch rhif ffôn fod ar gael iddynt ar y we dywyll.
Os ydych chi'n dal yn ansicr, gwiriwch y rhif ffôn y mae wedi'i anfon ohono. Gellir ei anfon o rif tramor. Gallech hefyd chwilio amdano ar-lein. Os yw'n rhif ffug hysbys bydd gwybodaeth ar y rhyngrwyd.
Os yw'r neges destun o'ch banc, gallwch wirio'r rhif ar gefn eich cerdyn i weld a ydynt yn cyfateb.
Gall sgamwyr soffistigedig hefyd ddefnyddio rhywbeth o’r enw ‘rhifau ffug’, lle gallant ffugio’r rhifau ffôn y mae testunau a galwadau yn dod ohonynt.
Weithiau gall neges destun gyrraedd, a gallai ddweud enw'r cwmni yn hytrach na rhif. Gall sgamwyr ffugio hyn hefyd, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol bod negeseuon testun o'r fath yn ddiogel.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch ffonio’r rhif ar gefn eich cerdyn i weld a ydynt wedi cysylltu’n ddiweddar.
Sut i osgoi cael eich twyllo gan negeseuon testun ffug
Y ffordd orau o osgoi dioddef SMS-rwydo yw bod yn wyliadwrus o unrhyw neges destun a gewch.
Peidiwch byth â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn testunau. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ewch yn syth i'r wefan a mewngofnodwch fel arfer. Os oes problem mewn gwirionedd bydd gennych neges ar wefan swyddogol y cwmni yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Os cliciwch y ddolen, byddwch yn wyliadwrus. Mae llawer o sgamwyr wedi datblygu copïau agos iawn o wefannau dilys i'ch twyllo. Ond fe fydd rhai arwyddion nad yw'n gyfreithlon, fel sillafu rhyfedd yn y cyfeiriad gwe, neu raffeg o ansawdd isel.
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Sut i adrodd negeseuon testun sgam a sgamiau SMS-rwydo
Os ydych chi wedi derbyn yr hyn rydych chi'n credu sy'n neges destun ffug neu'n sgam SMS-rwydo, yna dylech roi gwybod i'r cwmni a honnir anfonodd y neges atoch. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt dynnu sylw defnyddwyr eraill at y risgiau.
Mae gan rai sefydliadau hyd yn oed gyfeiriad e-bost pwrpasol i chi roi gwybod iddynt am sgamiau posibl.
Os ydych chi wedi dioddef sgam SMS-rwydo, yna mae angen i chi roi gwybod i Action Fraud amdano drwy ffonio 0300 123 2040, neu drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau SMS-rwydo
Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw peidio byth â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun amheus na ffonio'r rhif ffôn yn y neges.
Ond, os ydych, peidiwch byth â rhoi manylion personol o dan unrhyw amgylchiadau.
Nid oes unrhyw gwmni cyfreithlon yn mynd i ofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ddiogelwch dros y ffôn. Peidiwch ddweud eich PIN, cyfrinair nac unrhyw ddarn arall o wybodaeth a allai beryglu eich cyfrif wrth y galwr o dan unrhyw amgylchiadau.
Awgrym diogelwch arall yw gwybod sut y bydd rhai cwmnïau'n cyfarch â chi. Bydd cwmnïau cyfreithlon fel arfer yn eich cyfarch wrth eich enw llawn fel ffordd o'ch helpu i adnabod negeseuon twyllodrus.
Mae’n debyg na fydd sgamwyr yn gwybod eich enw llawn, felly byddant yn defnyddio rhywbeth generig fel Syr, Madam neu gwsmer gwerthfawr.
Mae hefyd yn syniad da cadw meddalwedd gwrthfirws a systemau gweithredu yn gyfredol. Bydd y rhain yn helpu i'ch amddiffyn os byddwch chi'n mynd i wefan ffug sy'n ceisio casglu’ch gwybodaeth.