Rhybudd o sgam: peidiwch ag ymateb i negeseuon testun, negeseuon e-bost na galwadau am y Taliad Tanwydd Gaeaf
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2025
Os ydych chi'n derbyn neges destun, e-bost neu alwad yn dweud wrthych am wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf o £300 gan y llywodraeth, mae'n debygol o fod yn sgam sydd wedi'i gynllunio i ddwyn eich arian neu fanylion personol. Dyma sut i roi gwybod am sgamiau posibl, yn ogystal â help os ydych chi'n meddwl y gallech fod wedi dioddef yn sgîl sgam.
Beth yw’r Taliad Tanwydd Gaeaf?
Grant gan y llywodraeth yng Nghymru a Lloegr yw’r Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu i dalu biliau gwresogi, sy'n werth rhwng £100 a £300 bob blwyddyn.
Caiff y Taliad Tanwydd Gaeaf ei dalu’n awtomatig fel arfer
Bydd y llywodraeth fel arfer yn darganfod a ydych chi'n gymwys ac yn anfon llythyr atoch ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud wrthych faint y byddwch chi'n cael eich talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.
Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i'w gael fel arfer.
Gallwch weld pwy sy'n gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf a phwy sydd angen gwneud cais ar GOV.UK.
Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf swyddogol
Os oes angen i chi wneud cais, neu os oes unrhyw ymholiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf swyddogol
Gallwch ffonio'r llinell gymorth neu ysgrifennu drwy'r post neu e-bost.
Sut i adnabod sgam Taliad Tanwydd Gaeaf
Cofiwch, mae'r taliad yn awtomatig i bawb bron â bod, felly nid yw unrhyw un sy'n pwyso arnoch i drosglwyddo manylion neu i ddilyn cyfarwyddiadau yn dod ô’r llywodraeth.
Nid oes angen i chi ddatgloi, rhyddhau arian na chadarnhau manylion.
Ni fydd y llywodraeth byth yn cysylltu â chi i wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf drwy:
neges destun
galwad ffôn
e-bost
hysbyseb neu neges cyfryngau cymdeithasol.
Os cysylltir â chi, mae'n debygol bod sgamiwr yn ceisio eich twyllo i roi eich manylion banc a gwybodaeth bersonol arall.
Er enghraifft, efallai y bydd neges destun neu e-bost yn ymddangos fel un sy'n cael ei anfon gan CThEF neu'r DWP, gyda dolen i wefan lle gallwch wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf – neu daliadau neu grantiau eraill y llywodraeth.
Bydd y wefan hon yn ffug a gall unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi gael ei gweld a'i defnyddio gan y twyllwr.
Beth i’w wneud os oes rhywun wedi cysylltu â chi
Os ydych chi'n meddwl y gallai sgamiwr fod wedi cysylltu â chi:
peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na rhoi unrhyw wybodaeth bersonol, a/neu
gorffenwch yr alwad.
Cofiwch, bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydyn nhw'n gymwys.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, gallwch ffonio neu ysgrifennu at y Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf swyddogol ar GOV.UK.
Rhowch wybod am sgamiau posibl i geisio eu hatal
Er mwyn helpu'r llywodraeth i ymchwilio ac atal unrhyw un rhag credu'r sgamiau hyn, dylech bob amser:
- anfon negeseuon amheus at:
- negeseuon e-bost i report@phishing.gov.uk
- negeseuon testun i 7726 – ni fyddwch yn talu am hyn
- rhoi gwybod am hysbysebion sgam ar-lein i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
Os yw'n ymddangos bod y sgam yn dod gan CThEF, gallwch hefyd:
- anfon negeseuon CThEF amheus at:
- negeseuon e-bost at phishing@hmrc.gov.uk
- negeseuon testun i 60599 – byddwch yn talu'ch cyfradd arferol
- rhoi gwybod am y canlynol sy’n ymddangos ei fod gan CThEF a’u bod yn amheus:
- galwadau ffôn ar GOV.UK
- negeseuon cyfryngau cymdeithasol neu gyfrifon i security.custcon@hmrc.gov.uk.
Cofrestru er mwyn lleihau galwadau digymell diangen
Gallwch gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Ffôn am ddim i roi'r gorau i dderbyn galwadau gwerthu a marchnata gan gwmnïau dilys.
Efallai na fydd hyn yn atal y galwadau sgam ond gallai ei gwneud hi'n haws sylwi pan fydd sgamiwr yn honni ei fod o sefydliad cyfreithlon.
Beth i’w wneud os ydych chi wedi rhannu eich manylion personol
Os ydych chi'n poeni y gallech fod wedi dioddef sgam, gallwch:
roi gwybod am y sgam i Report Fraud os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
cysylltu â'r Heddlu i roi gwybod am y drosedd os ydych chi'n byw yn yr Alban.
Os ydych wedi rhannu unrhyw un o'ch manylion personol, gallwch hefyd gysylltu â thîm diogelwch CThEF drwy e-bostio security.custcon@hmrc.gov.uk.
Os ydych wedi rhannu unrhyw un o'ch manylion banc, fel rhif eich cerdyn debyd, cysylltwch â'ch banc neu gymdeithas adeiladu i roi gwybod iddynt.
Gallwch ffonio 159 i gysylltu â'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu'r DU.