Os ydym wedi gwneud rhywbeth o’i le, rydym eisiau gwybod amdano fel y gallwn wneud pethau’n iawn a dysgu ohono. Darganfyddwch sut i gwyno a sut rydym yn delio â chwynion.
Beth sydd yn y canllaw hwn:
Sut i wneud cwyn
Rydym yma i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch arian a phensiynau, rydym eisiau rhoi’r gwasanaeth orau bosibl. Ond weithiau nid yw pethau’n dilyn y cynllun.
Os nad oedd eich profiad gyda ni ddim yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, neu rydych yn meddwl y gallwn wedi gwneud rhywbeth yn well, rydym eisiau clywed gennych chi.
Rydym yn derbyn cwynion yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn ymateb yn yr un iaith. Cysylltwch â ni drwy:
- e-bost: complaints@maps.org.uk
- post: ysgrifennwch at Complaints, Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.
- ffôn: ffoniwch ni ar 01159 659570.
Beth sy’n digwyddd nesaf
Pan rydych yn gwneud cwyn, rydym yn anelu i’w ddatrys cyn gynted â phosibl. Byddwn yn:
- rhoi gwybod i chi pan rydym wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith, a’n
- gwneud ein gorau i anfon ymateb llawn atoch o fewn 20 diwrnod gwaith – os disgwylir iddo gymryd yn hirach na hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi a’ch diweddaru.
Os ydych dal yn anhapus
Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad eich cwyn, mae gennych 28 diwrnod i’w herio. Byddwn yn anfon eich cwyn at dîm gwahanol, sydd heb ymwneud â’ch achos o’r blaen. Byddant yn anfon ymateb atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.
Ar ôl hyn, os ydych dal yn anhapus gyda’r ffordd rydym wedi delio â’ch cwyn, gallwch ei chyfeirio at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO). Corff rheoleiddio annibynnol yw’r PHSO sy’n adolygu cwynion am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (y sefydliad sy’n darparu HelpwrArian).
Gallwch gysylltu â nhw trwy ysgrifennu at: Parliamentary and Health Service Ombudsman, Citygate, Mosley Street, Manchester, M2 3HQ.