Ydych chi’n cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestr hon o nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’, a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.
Nodweddion mae’n ‘rhaid eu cael’
| Nodweddion ‘rhaid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
|---|---|
|
Swm a yswirir – rhaid i hyn fod yn ddigon o arian i glirio’r safle ac i ailadeiladu’ch cartref petai’n cael ei ddinistrio gan dân neu lifogydd, er enghraifft. |
Digon i ailadeiladu eich cartref Os nad yw’r swm a yswirir yn ddigon i ailadeiladu eich cartref yna mae’n bosib na fydd eich cwmni yswiriant yn talu cyfanswm llawn unrhyw gais a wnewch, hyd yn oed am ddifrod rhannol. |
|
Llety amgen – yn yswirio’r gost o aros yn rhywle arall (megis gwesty neu dŷ rhent) tra bydd eich tŷ chi yn cael ei drwsio os na fyddwch yn gallu byw yno yn dilyn difrod sylweddol megis tân neu lifogydd |
O leiaf £40,000 neu 20% o’r swm sydd wedi’i yswirio |
|
Atebolrwydd cyhoeddus – yn eich yswirio yn erbyn costau cael eich erlyn os bydd rhywun yn marw neu’n cael anaf, neu os yw eu heiddo wedi ei ddifrodi, oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd yn eich cartref chi. |
£2,000,000 |
Nodweddion y ‘dylid eu cael’
| Nodweddion y ‘dylid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
|---|---|
|
Torri gwydr ac offer ymolchfa – yswiriant ar gyfer ailosod ffenestri, gwydr mewn drysau, toiledau a basnau golchi, os ydynt yn torri’n ddamweiniol. |
Yswiriant ar gyfer gwydr ac offer ymolchfa heb gost ychwanegol |
|
Yswiriant difrod damweiniol wedi'i gynnwys – yswiriant cyfyngedig ar gyfer difrod i'ch eiddo neu'ch meddiannau. |
Rhywfaint o yswiriant sylfaenol iawn ar gyfer difrod damweiniol heb unrhyw gost ychwanegol Fel arfer, mae hyn wedi'i gyfyngu i eitemau penodol fel teledu ac fel arfer bydd yn eithrio'r rhan fwyaf o gynnwys arall yn eich cartref. Fel arfer, mae difrod damweiniol oherwydd traul, cynnwys arall yn eich cartref ac weithiau difrod oherwydd gwaith DIY neu adeiladu wedi'u cynnwys fel ychwanegiad dewisol. |
|
Gwasanaethau tanddaearol – yswiriant ar gyfer pibelli tanddaearol a cheblau yn cario dŵr, nwy a thrydan i’ch cartref a charthffosiaeth ymaith. This will also cover damage caused by leaks. |
£5,000 o yswiriant yn safonol Fel arfer, ni fydd problemau y tu allan i ffin eich eiddo yn cael eu cynnwys o dan eich polisi. Mae hynny'n cynnwys atgyweirio pibellau. Os yw'r broblem o dan y stryd, cyfrifoldeb y cwmni dŵr yw ei thrwsio. Yn aml, mae cost dod o hyd i ollyngiad a'i gyrraedd wedi'i gynnwys, ond ni fydd cost atgyweirio'r bibell ei hun yn cael ei chynnwys. |
|
Pibell carthffosiaeth wedi ei blocio – yswiriant ar gyfer y gost o glirio’r rhwystr mewn carthffos ar eich eiddo. |
£4,000 o yswiriant am ganfod y rhwystr a’i glirio |
|
Pibelli wedi byrstio – yswiriant am y gost o drwsio’r pibelli wedi byrstio (nid yw hyn yr un fath ag yswiriant am ddifrod dŵr yn gollwng). |
Difrod i bibelli wedi byrstio fel yswiriant safonol |
|
Llinell gymorth argyfwng – rhif argyfwng y gallwch ei ffonio os ceir difrod sydd angen ei drwsio cyn gynted ag y bo modd. |
Llinell gymorth 24 awr gydag atgyweiriwyr cydnabyddedig |
Nodweddion y ‘gellid eu cael’
| Nodweddion y ‘gellid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
|---|---|
|
Yswiriant difrod damweiniol – yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi eich cartref. |
Yswiriant safonol neu ar gael fel dewis |
|
Colled neu ladrad allweddi – petaech chi’n colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon. |
Yswiriant safonol |
|
Yswiriant costau cyfreithiol – yswiriant ar gyfer eich costau cyfreithiol personol os oes gennych broblemau megis dadleuon cyflogaeth, hawliadau niwed corfforol. |
£50,000 o yswiriant safonol |
|
Gwasanaeth llinell gymorth cyfreithiol – llinell gymorth y gallwch ei ffonio am gyngor os oes gennych broblem gyfreithiol bersonol. |
Llinell gymorth am ddim yn safonol |
Pethau i gadw llygad arnynt
| Pethau i gadw llygad arnynt | Bydd polisi da’n rhoi |
|---|---|
|
Tâl dros ben adeiladau – cyfanswm o arian sydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at unrhyw hawliad. |
Tâl dros ben oddeutu £0 i £100 |
|
Tâl dros ben difrod damweiniol – os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hwn yn dâl dros ben ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau. |
Dim tâl dros ben |
|
Gorlif dŵr yn llifo – os yw eich tŷ yn cael ei ddifrodi gan ddŵr sy’n gollwng neu fath neu fasn yn gorlifo, fe allech chi orfod talu tâl dros ben uwch tuag at y cais yn hytrach na’r tâl dros ben arferol. |
Dim tâl dros ben |
|
Eiddo gwag – bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cwmni yswiriant os ydych chi’n gadael eich cartref heb neb yn byw ynddo am gyfnod hir (fel arfer 30 diwrnod neu fwy). |
Gallai eich yswiriant fod yn annilys Amddiffynnwch rhag hyn drwy roi gwybod iddynt a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau maen nhw'n eu rhoi i chi. Efallai y gofynnir i chi ddiffodd eich dŵr neu ddraenio'ch system gwres canolog. |
Rhagor o wybodaeth
Os ydych am amcangyfrif faint o yswiriant sydd ei angen arnoch, neu a oes angen yswiriant adeiladau arnoch neu beidio, dilynwch un o’r dolenni isod neu gofynnwch i frocer.