A ydych yn cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestrau nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’ a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.
Nodweddion mae ‘rhaid eu cael’
| Nodweddion ‘rhaid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi | 
|---|---|
| 
                             Cyfanswm pethau gwerthfawr Bydd eitemau o werth sylweddol (megis gemwaith, oriorau aur neu arian, gwaith celf, camerâu, setiau teledu, cyfrifiaduron ayyb) yn cael eu hyswirio rhag colled neu ddifrod, os oes angen gwneud cais arnoch  | 
                    
                        
                             £12,000 neu fwy  | 
                    
| 
                             Arian yn y cartref Bydd hyn yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw arian parod yr ydych yn ei gadw yn eich cartref, rhag lladrad neu ddifrod.  | 
                    
                        
                             
 
  | 
                    
| 
                             Cynnwys rhewgell Os yw eich oergell neu rewgell yn torri a’r bwyd yn cael ei ddifetha, mae hyn yn eich yswirio ar gyfer y gost o’i ail-lenwi.  | 
                    
                        
                             £300 neu fwy 
  | 
                    
| 
                             Cynnwys yn yr awyr agored Yn diogelu rhag colled neu ddifrod i gynnwys a adewir y tu allan ond o fewn ffin eich cartref. Argymhellwn i chi gymryd yswiriant ar wahân ar gyfer eitemau fel dodrefn gardd neu gelfi.  | 
                    
                        
                             £500 neu fwy  | 
                    
| 
                             Lladrad o adeiladu allanol Yn cynnwys pethau a gedwir mewn garej neu adeilad allanol.  | 
                    
                        
                             £2,000 neu fwy  | 
                    
| 
                             Atebolrwydd personol Yn rhoi yswiriant am unrhyw symiau y gallech orfod eu talu’n gyfreithiol pe gwnaethpwyd cais yn eich erbyn am niwed damweiniol i rywun neu golled neu ddifrod i’w heiddo.  | 
                    
                        
                             £2 miliwn  | 
                    
| 
                             Atebolrwydd tenant (os ydych yn denant) Os ydych yn denant mae hyn yn eich yswirio rhag unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am golled neu ddifrod i gelfi sefydlog y landlord.  | 
                    
                        
                             £10,000 neu fwy  | 
                    
‘Nodweddion y ‘dylid eu cael’
| Nodweddion y ‘dylid eu cael’ | Bydd polisi da yn rhoi | 
|---|---|
| 
                             Difrod damweiniol Yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi cynnwys eich cartref.  | 
                    
                        
                             Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol  | 
                    
| 
                             Difrod dŵr Os yw dŵr wedi gollwng yn ddamweiniol yna bydd hyn yn yswirio cost y dŵr ar fesurydd a gollwyd gennych o ganlyniad.  | 
                    
                        
                             £1,000 neu fwy  | 
                    
| 
                             Swm wedi'i yswirio â mynegai (yswiriant wedi'i yswirio â swm) Mae cost disodli eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’ yn codi bob blwyddyn â chwyddiant. Mae diogelu eich swm wedi'i yswirio yn golygu na fyddwch yn cael eich gadael o dan yswiriant.  | 
                    
                        
                             Cysylltu mynegai neu swm sefydlog uchel wedi'i yswirio o £ 50,000 neu fwy Ond os nad yw swm yr yswiriant a ddewiswch yn ddigon i amnewid eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn talu swm llawn unrhyw gais a wnewch.  | 
                    
| 
                             Cynnydd achlysuron arbennig Yn ystod achlysuron arbennig fel y Nadolig neu briodas, rydych yn debygol o gael mwy o bethau na’r arfer yn eich cartref. Pan mae yswiriant achlysur arbennig mewn lle, bydd yr yswiriwr yn codi swm yswirir y cynnwys yn awtomatig.  | 
                    
                        
                             Diogelwch ar gyfer y Nadolig neu ddigwyddiadau crefyddol eraill o leiaf, â throthwyon arferol o £3,000 neu 10% o swm y cynnwys a yswirir  | 
                    
| 
                             Meddiannau personol Yn rhoi yswiriant ar gyfer eitemau personol tra maent y tu allan i’r cartref.  | 
                    
                        
                             Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol  | 
                    
| 
                             Costau cyfreithiol Os bydd problemau cyfreithiol personol yn codi o bethau fel eiddo neu ddadleuon cyflogaeth, ceisiadau niwed corfforol ayyb, mae hyn yn yswirio eich costau cyfreithiol.  | 
                    
                        
                             Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol  | 
                    
| 
                             Yswiriant atgyweirio Mae’r cwmni yswiriant yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw waith atgyweirio i’ch cynnwys.  | 
                    
                        
                             Yswiriant ar bob gwaith  | 
                    
| 
                             Llinell gymorth argyfwng Yn darparu llinell gymorth 24 awr y gallwch ffonio mewn argyfwng.  | 
                    
                        
                             Llinell gymorth argyfwng 24 awr  | 
                    
‘Nodweddion y ‘gellid eu cael’
| Nodweddion y ‘gellid eu cael' | Bydd polisi da’n rhoi | 
|---|---|
| 
                             Planhigion yn yr ardd Yn yswirio rhag colled neu ddifrod a achosir gan y peryglon a restrir (megis tân, gweithredoedd maleisus neu ladrad) i blanhigion, llwyni a lawntiau.  | 
                    
                        
                             Sengl – £500 neu fwy  | 
                    
| 
                             Colled neu ladrad allweddi Petaech yn colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon.  | 
                    
                        
                             Yswiriant safonol  | 
                    
| 
                             Offer busnes Yn rhoi yswiriant ar gyfer eich offer swyddfa a ddefnyddir mewn perthynas â’ch swydd, er enghraifft cyfrifiaduron, argraffwyr a dodrefn. Os ydych yn gweithio o adref, mae’n ddoeth dweud hynny wrth eich yswiriwr, er mwyn iddynt sicrhau bod y lefel briodol o ddiogelwch gennych.  | 
                    
                        
                             £3,000 neu fwy  | 
                    
Pethau i gadw llygad arnynt
| Pethau i gadw llygad arnynt | Bydd polisi da yn rhoi | 
|---|---|
| 
                             Tâl dros ben cynnwys Cyfanswm o arian sydd rhaid i chi dalu tuag at unrhyw gais.  | 
                    
                        
                             Tâl dros ben safonol yn llai na £100  | 
                    
| 
                             Tâl dros ben difrod damweiniol Os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hyn yn dâl dros ben ychwanegol y mae rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau.  | 
                    
                        
                             Dim tâl dros ben  |