Gall mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth deimlo fel cam mawr. Mae'r canllaw hwn yn esbonio eich hawliau pan fyddwch yn dychwelyd, gan gynnwys eich cyflog, eich swydd, gwyliau a gweithio hyblyg.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd i roi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn dychwelyd i’r Gwaith
- Yr un swydd, yr un telerau ac amodau
- Cyflog ac amodau
- Gwyliau
- Diwrnodau cadw mewn cysylltiad (KIT)
- Gweithio hyblyg
- Absenoldeb rhiant
- Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl nad yw'ch cyflogwr yn deg
- Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith
Pryd i roi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn dychwelyd i’r Gwaith
Rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd i'ch cyflogwr os ydych am:
- aros ar absenoldeb mamolaeth yn hirach na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol
- dychwelyd i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl.
Yr un swydd, yr un telerau ac amodau
Mae'n hawdd meddwl y bydd pethau'r un fath pan fyddwch chi'n mynd yn ôl, ond gall llawer newid mewn chwe mis neu flwyddyn, yn y gwaith ac yn eich bywyd eich hun. Dyna pam mae'n bwysig deall eich hawliau.
Os byddwch yn dychwelyd yn ystod Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin (y 26 wythnos gyntaf)
Mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd yn union.
Os byddwch yn dychwelyd ar ôl Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (ar ôl 26 wythnos)
Mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd yn union, oni bai nad yw'ch swydd yn bodoli mwyach. Yn yr achos hwnnw, rhaid i'ch cyflogwr gynnig rôl debyg i chi gyda'r un cyflog ac amodau.
Mae'r hawliau hyn hefyd yn berthnasol os ydych wedi cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir, sydd ar gael i rieni cymwys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Os nad yw'ch hen swydd yn ymarferol mwyach, er enghraifft, os yw'n cynnwys shifftiau nos na allwch eu gwneud, rhaid i'ch cyflogwr gynnig rôl addas arall i chi gydag o leiaf yr un telerau ac amodau.
Os nad yw’ch swydd yn bodoli mwyach, dylai eich cyflogwr gynnig rôl addas arall i chi os oes un ar gael. Mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd yn union, oni bai nad yw'ch swydd yn bodoli mwyach. Yn yr achos hwnnw, rhaid i'ch cyflogwr gynnig rôl debyg i chi gyda'r un cyflog ac amodau.
Mae'r hawliau hyn hefyd yn berthnasol os ydych wedi cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir, sydd ar gael i rieni cymwys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Os nad oes un, efallai y bydd gennych hawl i dâl diswyddo. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl diswyddo.
Cyflog ac amodau
Dylai'ch cyflogwr aros mewn cysylltiad rhesymol â chi yn ystod absenoldeb mamolaeth, er enghraifft, i roi gwybod i chi am:
- swyddi gwag
- newidiadau yn y gwaith, neu
- gyfleoedd am ddyrchafiad.
Mae gennych hawl i gael unrhyw godiadau cyflog neu welliannau o ran telerau ac amodau eich swydd a ddigwyddodd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb.
Mae gan Acas ganllawiau manwl ar bethau eraill i'w hystyriedYn agor mewn ffenestr newydd pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth.
Gwyliau
Mae’ch hawl i wyliau’n cynyddu tra rydych ar absenoldeb mamolaeth yn yr un modd ag y byddai pe byddech wedi bod yn y gwaith.
Felly os nad ydych wedi ychwanegu hyn at eich absenoldeb mamolaeth, yn aml mae gennych hawl i gymryd yr hyn sydd ar ôl. Ond holwch eich cyflogwr yn gyntaf.
Diwrnodau cadw mewn cysylltiad (KIT)
Gallwch weithio hyd at 10 diwrnod yn ystod absenoldeb mamolaeth i gadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr. Gelwir y rhain yn ‘Diwrnodau cadw mewn cysylltiad’. Gallant eich helpu i:
- gadw i fyny gyda’r hyn sy’n digwydd yn y gwaith
- mynychu hyfforddiant neu ddigwyddiadau gwaith
- cefnogi’ch tîm
- ddychwelyd i’r gwaith yn raddol.
Mae'r rhain yn ddiwrnodau â thâl a dim ond os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno y gellir eu gweithio. Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar:
- a ddylid defnyddio diwrnodau KIT
- faint i'w defnyddio (hyd at 10 diwrnod yn unig)
- pa waith y byddwch chi'n ei wneud, a
- faint y byddwch chi'n cael eich talu.
Mae gweithio unrhyw ran o ddiwrnod yn cyfrif fel diwrnod KIT llawn. Os ydych chi'n gweithio mwy na 10 diwrnod, bydd eich absenoldeb mamolaeth a'ch tâl yn dod i ben.
Diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb rhiant a rennir (SPLIT)
Gallwch hefyd weithio hyd at 20 o gyswllt yn ystod absenoldeb rhiant a rennir, a elwir yn ddiwrnodau SPLIT, heb ddod â'ch absenoldeb neu dâl rhiant a rennir i ben.
Mae diwrnodau SPLIT fel diwrnodau cadw mewn cysylltiad KIT yn ystod absenoldeb mamolaeth.
Am ragor o fanylion am weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir, gweler Maternity ActionYn agor mewn ffenestr newydd
Gweithio hyblyg
Efallai yr hoffech ystyried gofyn am drefniant gweithio hyblyg i wella’ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Bydd hyn yn cynnwys:
- rhannu swydd
- gweithio o gartref
- oriau cyfnodol
- gwaith rhan amser.
Ond cofiwch, dim ond yr hawl i ofyn am weithio hyblyg sydd gennych – nid yr hawl i’w gael.
Os yw’ch cyflogwr yn cytuno, cofiwch y bydd fel arfer yn cymryd tua 14 wythnos o’ch cais am weithio hyblyg i weithredu’r trefniant newydd.
Darganfyddwch fwy am weithio’n hyblyg ar wefan GOV.UK
Absenoldeb rhiant
Oeddech chi’n gwybod?
Nid yw absenoldeb rhiant yr un peth â'ch hawl i gymryd amser i ffwrdd di-dâl i ymdopi ag argyfwng. Gallwch gymryd absenoldeb di-dâl am argyfwng - er enghraifft, os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl - waeth pa mor hir rydych wedi bod gyda'ch cyflogai.
A ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fwy na blwyddyn? Yna mae gennych yr hawl i gymryd hyd at 18 wythnos o absenoldeb rhiant di-dâl ar gyfer pob plentyn - hyd at ei ben-blwydd yn 18 oed yn y rhan fwyaf o achosion.
Efallai y byddwch yn cymryd absenoldeb rhiant i:
- edrych ar ysgolion newydd
- treulio mwy o amser gyda'ch plentyn
- treulio mwy o amser gyda theulu sy'n ymweld
- ymgartrefu eich plentyn mewn lleoliad gofal plant newydd.
Nid oes yn rhaid cymryd absenoldeb rhiant i gyd gyda’i gilydd - ond mae’n rhaid ei gymryd fesul wythnos o hyd, oni bai fod gan eich plentyn anabledd.
Y mwyaf y gall pob rhiant gymryd pob blwyddyn yw pedair wythnos ar gyfer pob plentyn, oni bai bod eich cyflogwr wedi cytuno fel arall.
Darganfyddwch fwy am absenoldeb rhiant ar wefan GOV.UK
Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl nad yw'ch cyflogwr yn deg
Os nad ydych yn credu bod eich cyflogwr yn eich trin yn gywir neu'n cydnabod eich hawliau pan ewch yn ôl i'r gwaith, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud.
- Darganfyddwch ai gwahaniaethu yw'r hyn sy'n digwydd. Darllenwch fwy am wahaniaethu ar wefan Cyngor ar Bopeth Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r ECNI am gyngorYn agor mewn ffenestr newydd
- Siaradwch â'ch cyflogwr - yr adran Adnoddau Dynol efallai. Efallai y gallwch ddatrys y mater yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, ceisiwch siarad â'ch undeb llafur neu gynrychiolydd gweithwyr os oes gennych un. Neu efallai y bydd Acas yn gallu helpu - darganfyddwch fwy ar y wefan Acas
- Os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig.
Gall y gwefannau hyn gynnig mwy o help a chyngor i chi:
Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith
Os byddwch chi'n dewis peidio â mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, bydd angen i chi ddilyn y broses arferol ar gyfer ymddiswyddo o swydd. Bydd eich contract yn dweud faint o rybudd sydd angen i chi ei roi. Os nad yw'n gwneud hynny, rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.
Mae'n syniad da meddwl am unrhyw drosglwyddiad a allai fod ei angen. Gallwch ddefnyddio eich diwrnodau cadw mewn cysylltiad (KIT) i helpu gyda hyn.
Os rhoddodd eich cyflogwr daliad mamolaeth uwch i chi, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint neu'r cyfan ohono yn ôl os na fyddwch yn dychwelyd neu'n gadael yn fuan wedyn. Dylai hyn gael ei egluro yn eich contract.